Mae’r ddeuawd electronig o Gaerdydd, H O R S E S, wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd o’r brifddinas, Conformist, ar eu sengl ddiweddaraf.
‘Heddiw’ ydy enw’r trac newydd cydweithredol ganddynt sydd allan yn swyddogol ar 16 Medi.
Mae H O R S E S yn disgrifio eu deunydd fel ‘cerddoriaeth electronig calonddu’ ac yn hawlio’r teitl o ddyfeiswyr y genre ‘Gloom Wave’.
Cynhyrchydd electronig ydy Conformist ac mae’r ddau wedi dod ynghyd i greu trac sy’n wrthdrawiad o electronica ac ôl-bync sy’n gyfuniad o bîts, blips a samplau synth ynghyd â lleisiau unigryw dau aelod H O R S E S.
Swp o syniadau newydd ar gyfer 2023
Mae sŵn ‘Heddiw’ yn cael ei gymharu â cherddoriaeth Joy Division ac er bod y bartneriaeth wedi’i ffurfio’n ystod dyfnderoedd y cyfnod clo mae’n awgrym o’r hyn sydd i ddod yn 2023.
“Dechreuodd y prosiect wrth i mi a H O R S E S gyfnewid ffeiliau sain ar WhatsApp yn ystod dyfnderoedd cyfnod clo Covid” meddai Conformist.
“Dwi’n falch iawn ein bod ni’n gallu rhyddhau’r trac yma o’r diwedd. Mae’r lleisiau gan H O R S E S a’r cynhyrchiad gen i. Gobeithio mai jyst y dechrau ydy hyn; rydyn ni’n edrych i ddilyn ‘Heddiw’ yn 2023 gyda swp o syniadau newydd.”
Mae Conformist yn un o’r enwau mwyaf uchel ei barch ar y sin gerddoriaeth electronig yng Nghymru, gyda demos cynnar wedi dal sylw Steve Lamacq, Huw Stephens, John Kennedy ac Eddy Temple Morris.
Mae ei albyms ers hynny, ‘Paid To Fake It’ (2013) a ‘Lifestyle Bible’ (2016) wedi derbyn tipyn o ganmoliaeth gan gyhoeddiadau amlwg fel The 405, Louder Than War a Wales Online.
Mae’r ddeuawd H O R S E S, a ddaw o Dde Ddwyrain Cymru, wedi bod o gwmpas ers peth amser bellach. Fe ryddhawyd eu EP cyntaf, ‘Kephyläu’ ar label Recordiau Peski nôl yn 2014, cyn i’w halbwm, ‘H O R S E S’ ddilyn yn 2017.
Yn fwy diweddar, bu iddynt ryddhau’r sengl ddwbl, ‘Art Critic / Wrth y Llyw’ yn 2020.