A hwythau’n rhyddhau sengl bob wythnos ers diwedd mis Ionawr, o’r diwedd mae label Recordiau I KA CHING wedi rhyddhau eu halbwm aml-gyfrannog ‘I KA CHING X’.
Roedd I KA CHING yn nodi carreg filltir arbennig yn 2021 wrth iddynt ddathlu deng mlynedd o fodolaeth fel label. Dechreuwyd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops.
Er hynny, oherwydd y cyfyngiadau Covid oedd yn parhau ar y pryd, doedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad oedd yn cael ei gynllunio, felly penderfynodd y label ddal ati i ddathlu eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label.
Ers 28 Ionawr mae I KA CHING wedi bod yn rhyddhau sengl newydd bob wythnos gan un o artistiaid y label. Y cyntaf o’r rhain oedd cyfyr Candelas o ‘Y Gwylwyr’ gan Brân oedd yn cynnwys Nest Llywelyn o’r band o’r 1970au yn canu ar y fersiwn newydd.
Yr olaf o’r senglau oedd ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ gan Y Cledrau a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf.
Nawr, mae’r holl senglau ar gael ar ffurf albwm sydd allan ar record feinyl.
Penllanw
Casgliad o un gân ar bymtheg i ddathlu pen-blwydd label recordiau I KA CHING yn ddeg oed ydy I KA CHING X ac roedd cyfle i glywed pob un ohonynt yn cael eu chwarae ar raglen arbennig gan Huw Stephens ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf
Yn ogystal â’r senglau gan Candelas ac Y Cledrau, mae’r casgliad yn cynnwys y caneuon ‘Trai’ gan Gwenno Morgan, ail-gymysgiad Carcharorion o ‘Y Milltiroedd Maith’ gan Steve Eaves, ‘Sara’ gan Glain Rhys, ‘Cont y Môr’ gan Blind Wilkie Mcenroe, ‘Gwingo’ gan Ffracas, ‘Morfydd’ gan Blodau Papur, ‘Canu Gwlad’ gan Yr Eira, ail-gymysgiad Nate Williams o ‘Dal ar y Teimlad’ gan Mared Williams, ‘Chwalu’r Hud’ gan Serol Serol, ‘Nia’ gan Geth Vaughn, ‘Mabli’ gan Siddi, ‘Targed’ gan Dienw, ‘Yr Enfys’ gan Griff Lynch, ail-gymysgiad Sywel Nyw o ‘Red Astair’ gan Cpt Smith, a ac yn olaf wrth gwrs ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ gan Y Cledrau.
Er gwaetha’r marathon o senglau sydd wedi’u rhyddhau, a phenllanw hynny gyda’r casgliad, mae’r label yn dal i edrych tua’r dyfodol, fel yr eglura un o’r rheolwyr.
“Mae’n anodd credu bod ‘na ddeg mlynedd wedi pasio er i ni gychwyn y label, ac allai wir ddim egluro pa mor falch yda ni o allu bod wedi cyd-weithio efo gymaint o artistiaid anhygoel” meddai Gwion Schiavone, sef sylfaenydd ac un o reolwyr Recordiau I KA CHING.
“Mae’n gwestiwn amhosib pan fydd rhywun yn gofyn beth yw fy hoff release neu artist o’r label, ond yr ateb onest yw ‘yr un diwethaf i ni ryddhau’ oherwydd y mwynhad da ni yn cael efo pob un.
“Felly mwynhewch y casgliad yma, release gorau eto gan y label… am y tro beth bynnag. Ymlaen i’r ddegawd nesaf!”