‘i ti’ yn dechrau pennod newydd i Gillie

‘i ti’ ydy enw’r gân sy’n marcio dechrau newydd a phennod greadigol newydd i Gillie, cyfansoddwraig, gitarydd a chynhyrchydd dawnus, sydd wedi ymuno’n ddiweddar â label Recordiau Libertino. 

Dyma’r deunydd cyntaf i’r artist o Sir Gaerfyrddin ei ysgrifennu yn y Gymraeg, a’r gân gyntaf i’w hysgrifennu a’i recordio ar ôl iddi ddychwelyd i fyw i Gymru ar ôl treulio ei harddegau hwyr a’i hugeiniau cynnar yn Llundain.

Wedi’i dylanwadu’n ddwfn arni gan lefydd, ar ‘i ti’ mae Gillie yn asio’n gerddorol dawelwch cefn gwlad Cymru ag isdyfiant diwydiannol bywyd y ddinas, i greu rhywbeth arswydus o heddychlon. 

Gyda’i lŵps gitâr euraidd, mae Gillie yn meddiannu’r gofidiau a’r straen oedd wedi ymgasglu ynddi ac yn eu plethu’n rhywbeth anymddiheuredig ond eto’n hynod ​​o agos atoch.

“Mae’r gân yn canolbwyntio ar gyfnod yn fy mywyd lle’r oeddwn yn edrych am newid cyfeiriad ac yn gobeithio unioni’r rhwystredigaethau o deimlo’n gwbl flinedig” eglura Gillie. 

“Mae’r rhythm yn ymgais i adlewyrchu cyflymder bywyd dinas yr oeddwn i’n barod i’w adael, tra bod y lleisiau breuddwydiol yn adlewyrchu dihangfa, a dyhead am rywbeth mwy. Dechreuais ysgrifennu’r trac hwn yn fy mis olaf o fyw yn Llundain, ond fe’i gwireddwyd yn llawn unwaith i mi symud yn ôl i fy mamwlad.

“Mae rhai o’r geiriau yn reit ddigyswllt” ychwanega. 

“Nid yw’n adrodd stori gymaint ag y mae’n ceisio dal y teimlad o wneud penderfyniadau. Fe wnes i bron ei hysgrifennu fel ffrwd o ymwybyddiaeth a wnes i ddim meddwl gormod am y cysyniad. 

“Roeddwn i eisiau dal teimlad heb or-ddadansoddi. Mae’r pennill cyntaf yn cyffwrdd ar sut dwi’n aml yn teimlo fy mod yn gweiddi’n ddibwrpas i’r gofod, yn ceisio cael fy nghlywed, tra’n heneiddio’n araf, yn casglu diffygion ar hyd y ffordd. Mae’r ail bennill yn fy ngweld yn ceisio gadael rhai o’r meddyliau hyn ar ôl, gan edrych tuag at ddechrau newydd wrth i bethau fynd yn ysgafn i’w lle.”

Mae’r sengl eisoes yn denu adolygiadau cadarnhaol ar y blogiau a gwefannau cerddoriaeth cŵ gan gynnwys hwn yn The Revue sy’n dweud fod Gillie yn artist i’w gwylio yn 2023.