Bydd cyngerdd arbennig i ddathlu 40 blynedd o fodolaeth label Recordiau Fflach yn cael ei gynnal yn Aberteifi yn yr haf eleni.
Cynhelir y digwyddiad yng Nghastell Aberteifi ar 22 Gorffennaf, gyda rhai o artistiaid amlycaf y label dros y blynyddoedd yn perfformio.
Yr enw fydd yn dal y llygad fwyaf ar y lein-yp mae’n siŵr ydy’r grŵp poblogaidd o’r 1990au, Jess ond bydd Crys, Einir Dafydd a Catsgam hefyd yn perfformio.
Talu teyrnged
Sefydlwyd Recordiau Fflach Aberteifi nôl ym 1981, gan y brodyr Richard a Wyn Jones, oedd hefyd yn aelodau o’r band Cymraeg ton newydd/pync, Ail Symudiad.
Yn drist iawn, bu farw’r ddau yn ystod 2021, gyda Richard yn ein gadael ychydig dros fis ar ôl Wyn. Mae’r noson yn gyfle i dalu teyrnged i’r sylfaenwyr, a gyfrannodd gymaint i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â dathlu pen-blwydd y label.
Yn briodol iawn, enw’r digwyddiad ydy ‘Symud Trwy’r Haf’, sy’n benthyg enw un o ganeuon enwocaf Ail Symudiad.
Yr artistiaid
Mae’n siŵr mai enw Jess ydy’r un sy’n neidio allan fwyaf ar y lein-yp a hwythau’n un o grwpiau amlycaf Cymru ar ddechrau’r 1990au, ond wedi chwalu ers sawl blwyddyn bellach. Ffurfiwyd Jess ym 1988 gan ffrwydro i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, Gwent y flwyddyn honno. Rhyddhawyd tri albwm a dwy record sengl ganddynt ar label Fflach ac aethant ymlaen i ennill gwobrau niferus a theithio’n helaeth ledled Ewrop.
Bydd gweld enw Crys ar y poster wrth fodd llawer o ffans roc Cymru. Band roc trwm o Resolfen yw Crys, a ffurfiwyd ym 1976 gan y brodyr Liam Forde a Scott Forde, ynghyd ag Alun Morgan. Ers eu record sengl gyntaf ym 1980 ar Click Records, aeth Crys ymlaen i ryddhau albyms ar labeli Sain a Fflach ac maen nhw’n dal i berfformio’n achlysurol dros 40 mlynedd yn ddiweddarach.
Band o Dde Ddwyrain Cymru yw Catsgam, a ffurfiwyd ym 1997, gyda steil arbennig eu hunain o roc melodig gitâr wedi’i ffurfio o gwmpas cyfansoddi caneuon pwerus Rhys Harries a llais trawiadol Catrin Brooks. Recordiwyd pedwar albwm o ddeunydd gwreiddiol ar label Fflach gan arwain at ryddhau ‘Sgam’ – y casgliad pen-blwydd yn 21 oed, ym mis Hydref 2018.
Mae Einir Dafydd yn artist tipyn mwy cyfoes na’r gweddill ar y lein-yp ac wedi rhyddhau cynnyrch diweddar ar Fflach.
Bu iddi ennill cyfres deledu Wawffactor yn 2006, ac yna Cân i Gymru yn 2007 gyda’r gân ‘Blwyddyn Mas’. Bu iddi ryddhau ei EP cyntaf, Y Garreg Las, ar Fflach yn 2006 ac mae wedi rhyddhau cynnyrch achlysurol ar y label ers hynny.
Mae tocynnau gig ‘Symud Trwy’r Haf: Dathlu 40 Mlynedd Cwmni Fflach’ yng Nghastell Aberteifi ar werth nawr am £15 ar wefan y lleoliad.