Enw newydd ydy’r cerddor Cymraeg cyntaf i ryddhau ymgais ar gân i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd fis nesaf.
Rhyddhawyd ‘Y Cymry yn Qatar’ ddydd Gwener diwethaf, 21 Hydref ac fe ysbrydolwyd Jonny Thomas o Aberteifi i gyfansoddi’r gân ar ôl dathlu llwyddiant Cymru yn cyrraedd Cwpan Pêl-droed y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Er ei fod wedi bod yn creu cerddoriaeth ei hun ers blynyddoedd, dyma’r sengl gyntaf iddo’i rhyddhau’r ffurfiol.
“Ar ôl neud fideo o’r gân a’i rhannu gyda’n ffrindie a chael ymateb dda wnes i benderfynu cysylltu gyda Fflach i weld a fydde hi’n bosib datblygu’r syniad ymhellach” eglurodd Jonny.
Fel brodor o Aberteifi dywedodd fod y profiad o recordio gyda’r label enwog o’r dref yn un i’w gofio iddo.
“[Roedd] cael bod yn yr ystafell yn Fflach yn recordio am y tro cyntaf yn deimlad arbennig iawn” meddai’r cerddor.
Mae’n gyfnod cyffrous iawn yn nhermau’r gêm, a gellir dweud fod pêl droed Cymru: y tîm, a’r gymuned sydd wedi’i chreu, wedi datblygu i fod yn rhan o’n hunaniaeth fodern ni.
Bydd dwy fersiwn o’r gân yn cael eu recordio felly – y fersiwn Gymraeg wreiddiol a chyfieithiad Saesneg.
Mae Jonny’n gefnogwr brwd o dîm pêl droed Cymru ers blynyddoedd maith ac wedi teithio dramor i’w gwylio yn gyson dros y ddegawd diwethaf gyda’i ffrindiau, sydd hefyd yn ymddangos fel lleisiau cefndirol ar y traciau!
Bu’n dathlu hefyd gyda’r dorf yng Nghaerdydd wrth i Gymru guro’r Wcráin er mwyn sicrhau lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Quatar.