Mae dau gerddor ifanc o Arfon wedi mynd ati i ffurfio a lansio label recordiau newydd gyda’r bwriad o ryddhau cerddoriaeth Gymraeg.
Daw Osian Cai a Hedydd Ioan o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, ac mae’r ddau’n gyfarwydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyda’u prosiectau cerddorol eu hunain sef Cai (band Osian) a skylrk. (prosiect hip-hop Hedydd).
INOIS ydy enw’r label newydd fydd yn rhyddhau cerddoriaeth eu prosiectau cerddorol eu hunain, ynghyd â’r band ifanc o Gaernarfon, Maes Parcio.
Mae Osian a Hedydd wedi bod yn ffrindiau ers iddynt fod yn ifanc iawn yn tyfu fyny ym Mhenygroes ac wedi dechrau cydweithio’n gerddorol dros y blynyddoedd. Nawr maent wedi penderfynu mynd ati i sefydlu’r label gyda’i gilydd.
Mae ardal magwraeth y ddau’n cynnig llinach gerddorol gref – bu’r ddau i’r ysgol lle ffurfiwyd y grwpiau amlwg Y Reu a Topper, ac maent yn byw yn y pentref a fu’n gartref i’r label Recordiau Ankst ar un pryd. Mae’r ddau’n gobeithio bydd INOIS yn parhau i roi Dyffryn Nantlle’n amlwg ar y map cerddorol Gymraeg.
Artistiaid cyntaf
Mae Osian a Hedydd yn creu cerddoriaeth ei hunain ac yn bwriadu ei ryddhau drwy INOIS.
Fe gychwynodd Cai (Osian) ryddhau senglau ac yna EP yn ystod y cyfnod clo, gan arddangos sŵn bedroom pop cryf cyn mynd ymlaen i ddangos ei weledigaeth mewn fideos cerddorol rhyfedd a doniol.
Tua’r un cyfnod fe enillodd skylrk. (Hedydd) gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru, gan ryddhau ei sengl gyntaf, ‘dall.’, sy’n gân rap Gymraeg drawiadol.
Mae’r ddau’n perfformio yn Maes B eleni ac yn edrych ymlaen at ryddhau mwy o gynnyrch.
Yn ychwanegol at hynny, mae INOIS wedi arwyddo eu hartist cyntaf, sef y band ifanc o Gaernarfon, Maes Parcio.
Wedi bod yn gigio ers cwpwl o flynyddoedd ac yn barod i allu rhyddhau ei sŵn pync Cymraeg i’r byd.
Yn oes oesoedd
Mae INOIS yn paratoi i ryddhau’r senglau cyntaf a hefyd yn bwriadu llwyfannau digwyddiadau’n lleol gyda’r gobaith o allu darganfod mwy o dalent anhygoel o’r ardal i’w ddangos i’r byd.
“Mae’r cyfla i allu rhoi miwsig ein hunain allan ond hefyd cael y chance i weithio a dod i nabod mwy o artistiaid yn amazing dwi’n meddwl” meddai Osian.
“Y prif reswm dwi’n meddwl odda ni isio cychwyn wbath felma oedd i gael mwy o fwrlwm a gigs o gwmpas ardal ni.”
“Mae INOIS er mwyn gallu ffocysu ar y gerddoriaeth” ychwanega Hedydd Ioan.
“Mae’r gair INOIS yn dod o’r hen Gymraeg am ‘Yn oes oesoedd’ felly yr holl syniad o INOIS ydi bod ni’n ceisio creu wbath sy’n mynd i fyw yn hirach na wythnos neu fis, ond creu cerddoriaeth a digwyddiadau fydd yn aros yn meddyliau pobl am amser hir.”
Mae’r band ifanc, Maes Parcio, yn amlwg yn edrych ymlaen at gael rhyddhau eu cynnyrch cyntaf gyda’r label.
“Ar ôl 2 flynedd mor anodd, ma’r sîn yn gofyn am wbath newydd i roi cyfleoedd i artistiaid llai adnabyddus” meddai Owain, dymiwr Maes Parcio.
“A pwy well ond dau artist efo profiad creadigol extensive sy’n gwbo be ma’n feddwl i weithio o’r gwaelod i fyny. Fedrai’m disgrifio pa mor gyffrous ydw i i gymryd mewn taith ffres fel hyn.”
Bydd INOIS yn rhyddhau eu sengl gyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dyma fideo sengl gyntaf skylrk., ’dall’ a ryddhawyd llynedd: