Leri Ann yn rhyddhau ‘Cariadon’

Gan adeiladu ar lwyddiant ei chynnyrch diweddar, mae Leri Ann wedi rhyddhau ei sengl newydd yr wythnos hon. 

‘Cariadon’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi, ac mae’n ddilyniant i ‘Ffŵl Ohona i’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni

Mae Leri, sy’n dod o Lan Ffestiniog, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ar ôl iddi chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf lliwgar Rownd a Rownd – Erin. 

Er hynny, yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn datblygu ei thalentau unigryw fel cantores gyda’r cynhyrchydd Mei Gwynedd, ac mae’r sengl newydd hefyd allan ar ei label yntau, JigCal. 

Rhyddhawyd ei EP cyntaf pedwar trac ym mis Medi llynedd, gyda thair cân Saesneg ac un yn y Gymraeg. 

Mae dylanwadau’r gantores yn dod gan girl bands y 60au fel The Ronettes a’r Shirelles hyd at enwau mwy modern fel Duffy, Amy Winhehouse a Lady Gaga. Mae hi’n gantores unigryw ac arbennig, ac mae’r trac newydd yn awgrymu bod gan Leri ddyfodol disglair iawn fel cantores. 

Ymateb gwych

Mae partneriaeth cerddorol Leri gyda Mei Gwynedd yn parhau ar y sengl newydd, ac bydd sain sacsaffon bendigedig Andrew Griffiths (Amy Winehouse, Tony Hadley, Bonnie Tyler) yn eich taflu i  draeth yn Miami gyda eich leg warmers a cocktail mewn llaw!  

Bydd Leri’n ymddangos mewn sawl gŵyl drost yr haf, gan gynnwys, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Cefni a Gŵyl Car Gwyllt. 

“Mae’r ymateb wedi bod yn hollol wych, a dwi mor gyffrous ar sut mae pethau yn mynd” meddai Leri. 

“Bydd canu yn y gwyliau yma yn agor drysau newydd i gynulleidfa ehangach, a fedrai ddim disgwyl perfformio rhain yn fyw!’