Lisa Angharad yn rhyddhau sengl newydd

Mae Lisa Angharad wedi rhyddhau ei sengl unigol newydd ers dydd Gwener diwethaf, 7 Ionawr. 

‘I Wish’ ydy enw’r trac diweddaraf sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Côsh. 

Mae Lisa’n gyfarwydd fel un o driawd Sorela gyda’i dwy chwaer Gwenno Elan a Mari Gwenllian, a hefyd fel arweinydd y sioe gabaret boblogaidd, Cabarela. 

Yr un newid anferth sydd wedi bod yn ei bywyd ers i Lisa Angharad rhyddhau ei sengl ddiwethaf ‘Strangers’ yn Chwefror 2021, ydi ei bod bellach wedi dod yn fam.

Roedd ‘I Wish’ eisoes wedi’i recordio pan ryddhawyd ‘Strangers’ ond a hithau’n feichiog, cafodd y gân ei rhoi ar y silff am y tro wrth i’r artist ddod yn rhiant am y tro cyntaf, gyda’i phartner Rhys Gwynfor yn rhoi ei yrfa recordio yntau i’r naill ochr am y tro hefyd. 

Mae Lisa’n dychwelyd i’w gwreiddiau gwerin gyda’i sengl ddiweddaraf. Mae ‘I Wish’ yn faled fodern sy’n rhoi llwyfan i’r angerdd anhygoel sydd i lais Lisa. 

“Mae ‘I Wish’ yn restr o ddymuniadau gafodd eu hysgrifennu yn ystod oriau tywyllaf cloi” eglura Lisa. 

“Lle daeth dyddiau yn nosweithiau a daeth nosweithiau yn lle i ddianc.”

Mae fideo wedi’i ryddhau i gyd-fynd â’r gân, a hwn wedi’i gyfarwyddo ar y cyd gan Lisa a FfotoNant.

Yn ôl Recordiau Côsh, bydd yr artist yn parhau i ysgrifennu a recordio cerddoriaeth yn ystod 2022.