Lisa Pedrick yn ôl gyda ‘Numero Uno’

Mae’r gantores a’r gyfansoddwraig, Lisa Pedrick, yn ôl gyda sengl newydd yn barod ar gyfer yr haf, ac mae’r neges yn un hynod bwerus.

‘Numero Uno’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist o Waun-Cae-Gurwen, ac mae allan yn swyddogol ar 15 Mehefin ar label Recordiau Rumble. 

Daw’r trac newydd o Dihangfa Fwyn, sef EP newydd Lisa a’r prosiect unigol cyntaf ers i Dim ond Dieithryn dderbyn gwobr ‘Record Fer Orau’, Gwobrau’r Selar yn 2020

Mae Lisa wedi cydweithio gydag artistiaid eraill yn fwy diweddar, gan gynnwys Geth Thomas ar y sengl ‘Hedfan i Ffwrdd’ a Shamoniks ar y trac poblogaidd ‘Seithfed Nef’

Y tro hwn, mae Lisa wedi troi i gyd-weithio â rhywun llawer nes at adref – ysgrifennodd ‘Numero Uno’ ar y cyd â’i thad Wayne Pedrick.  

Rhannu meddyliau, teimladau a gwrthwynebiad

Wrth wrando ar ‘Numero Uno’ am y tro cyntaf gellir dadlau mai adrodd stori am berthynas cymhleth y mae’r gân, lle mae un aelod o’r cwpwl yn hunanol ac yn hunanbwysig. 

Rhywbeth gwahanol iawn, ond tebyg o ran natur mewn ffordd, oedd ysbrydoliaeth Lisa gyda’r gân yn llythyr agored i’r Llywodraeth Brydeinig. 

“Rwy’n teimlo bod nifer yn credu’n gryf nad oes lle i wleidyddiaeth ym myd cerddoriaeth bellach” eglura Lisa am y sengl.  

“Gyda’r holl sy’n mynd ymlaen rwy’n credu bod angen a dyletswydd arnom ni i rannu ein meddyliau, ein teimladau a’n gwrthwynebiad yn fwy agored. 

“Fel y gwnaeth terfysgoedd Mayhill ysbrydoli geiriau a melodi ‘Seithfed Nef’, mae’r rhaffu celwyddau parhaus a’r diffyg cyfaddef i bechodau gan y llywodraeth wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer y sengl newydd. 

“Mae’r gân yn sôn am unigolion hunanol sy’n ysu am sylw ac o hyd yn gofalu ar ôl eu diddordebau personol. Gyda’r straeon yma ar y teledu, y cyfryngau cymdeithasol a’r papurau newydd byth a beunydd does dim dianc ohono. Mae angen i ni weld newid a rwy’n gobeithio y daw hwnnw’n ddigon sydyn.” 

Cynhyrchwyd ‘Numero Uno’ gan Tim Hamill yn Sonic One Studios, Llanelli.