Lisa Pedrick yn ôl gyda sengl newydd

Mae Lisa Pedrick wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd Shamoniks i recordio’i sengl newydd sydd allan heddiw, 4 Mawrth. 

‘Seithfed Nef’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist o Waun-Cae-Gurwe ac mae’n cael ei ryddhau ar y label sy’n cael ei redeg gan Shamoniks, sef Udishido. 

Nid dyma’r tro cyntaf i Lisa gyd-weithio gyda Shamoniks, sef Sam Humphreys sy’n aelod hefyd o’r grwpiau gwerin Calan, Pendevig a NoGood Boyo.

Bu iddynt gyfuno’n llwyddiannus wrth i Sam ail-gymysgu sengl Lisa, ‘Dim Ond Dieithryn’, llynedd. 

Cerdd yn ysbrydoli

“Agorwch lenni’r lolfa led y pen” yw cyngor y prifardd Hywel Griffiths yn ei gerdd ‘Ofn’, a dyna’n union sydd angen i chi wneud wrth wrando ar gân newydd yma. Mae’r gerdd benodol honno’n arwyddocaol hefyd gan ei bod yn ddylanwad ar y gân newydd yma gan Lisa. 

Tywyllwch a thristwch terfysgoedd Mayhill, Abertawe, ym mis Mai 2021, ynghyd â neges gref Griffiths yn erfyn arnom i herio’r drefn yn ei gerdd Ofn, oedd ysbrydoliaeth y gantores wrth ysgrifennu’r geiriau a chyfansoddi alaw y sengl newydd, ‘Seithfed Nef’.  

Hawdd yw colli ffydd mewn cymdeithas waraidd yn y sefyllfa bresennol, gyda chymaint o gasineb dros y byd, ond mae’r gân yn ein hannog i gymryd nerth a gweld gobaith am ddyfodol gwell trwy lygaid yr ifanc.  

Gweddu’n barffaith

“Mae bywyd yn anodd ac yn rhyfedd i bawb ar hyn o bryd” meddai Lisa wrth drafod y trac newydd. 

“Adeg y terfysgoedd yn Abertawe roedd tensiynau’n uchel. Roedd pobl yn dadlau byth a beunydd ar y cyfryngau cymdeithasol am Covid, un stori drist ar ôl y llall ar y newyddion ac roedd gweld cymuned fel Mayhill, sydd ddim yn bell o adref, yn mynd ar chwâl yn hynod o drist a gofidus. 

“Edrychais i ar fy mhlant ac fe wnaethon nhw roi cwtsh i fi. Rwyf hapusaf yn yr eiliadau yna gyda’r plant, ac yn y foment yna roedd goleuni. Plant a phobl ifanc yw’n gobaith ni bod pethau’n gallu gwella.

“Daeth y geiriau a’r alaw ynghyd ar ôl i fi glywed y trac gan Sam. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r trac ac roedd yn gweddu’n berffaith i’r hyn ro’n i eisiau ei gyfleu gyda Seithfed Nef.” 

Dylanwad mynyddoedd Cwmcarn

Mae dylanwad mawr arall ar y trac hefyd, o ran y gerddoriaeth gan Shamoniks yn benodol, sef mynyddoedd Cwmcarn yn Ne Cymru. 

“Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu’r gerddoriaeth ar ôl treulio llawer o amser yn crwydro mynyddoedd Cwmcarn yn Ne Cymru” meddai’r cynhyrchydd. 

“Mae’n cynnwys synau creigiau, dŵr a phren a recordiais ac a ysbrydolwyd gan lwybr o’r enw Pwca. Mae ganddi ddringfa dawel, heddychlon o ganeuon adar gyda llif cyflym gweddus gyda digon o droeon” 

Mae Shamoniks yn adlewyrchu hyn yn y gerddoriaeth trwy greu gwledd o seinweddau low-fi piano a gwead organig yn codi, cyn rhwygo i mewn i egni anthemig, cordiau synth a bas ar gyfer y corws. 

“Rwyf wrth fy modd bod Lisa yn teimlo positifrwydd a gobaith o’r trac wnes i ar ei chyfer ac roeddwn yn falch iawn o glywed canlyniadau ei sesiynau recordio a sut oedd hi’n cynnwys y teimlad yn y geiriau” ychwanegodd Sam. 

Cipiodd EP Lisa’r wobr am y Record Fer Orau yng Ngwobrau’r Selar, 2021, ac mae wedi mwynhau cydweithio gydag artistiaid eraill ers hynny, gan gynnwys Geth Tomos. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at ryddhau trac gwreiddiol gyda Shamoniks sydd hefyd wedi cydweithio gyda llu o artistiaid eraill dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Eädyth, Mali Hâf, Swagath, Skunkadelic a Tom MacAulay.