Lleuwen yn rhyddhau ‘Rhyddid’

Mae Lleuwen wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 23 Medi. 

‘Rhyddid’ ydy enw’r trac newydd gan y gantores amryddawn ac mae allan ar label Lapous. 

Cafodd y gân ei chyfansoddi a’i recordio yn ystod ail wythnos Medi 2022, ac mae’n gân brotest o fath yn erbyn y syniad o aelod o deulu brenhinol Cymru’n cael ei wneud yn dywysog Cymru. 

Ond, er ymateb ffafriol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Lleuwen fod Radio Cymru wedi penderfynu peidio â chwarae’r trac ar eu tonfeddi.

“Rhannais fideo o’r gân ar Instagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth a’r cyhoeddiad y bydd Cymru, unwaith eto, yn cael ei gorfodi i gael tywysog o linach teulu brenhinol Lloegr” eglura’r gantores amryddawn. 

“Rhannais fideo o’r gân ar Intsagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth a’r cyhoeddiad y bydd Cymru, unwaith eto, yn cael ei gorfodi i gael tywysog o linach teulu brenhinol Lloegr” eglura Lleuwen. “Anfonais y fersiwn hwnnw o’r gân i BBC Radio Cymru ac er yr ymateb ffafriol iddi ar-lein, mae’r gân yn mynegi safbwyntiau gwahanol i naratif brenhiniaethol cyfredol y sefydliad felly doedd dim modd ei chlywed ar y radio.

Ddim yn amharchus

Mae Lleuwen yn amddiffyn y trac gan ddweud nad yw’n dangos unrhyw amharch at y frenhines.

“Nid yw’r gân yn amharchus nac yn ansensitif mewn unrhyw ffordd ond ymddengys ei bod bron yn amhosib mygegi na chywed barn sy’n groes i’r graen yn y cyfryngau torfol yng Nghymru yn ystod y cyfnod diweddar o alaru gorfodol.

“Fel mae’r gân yn mynegi, mae’r cyhoedd yn llyncu yr hyn sy’n cael ei gyflwyno iddynt. Nid pawb sy’n dilyn y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ymhlith y to hŷn. 

“Mae’r Cymry yn haeddu gwell na barn unochrog a naratif cydymffurfiol am deulu brenhinol Lloegr. Mae’r ddadl am annibyniaeth – a’r gwir angen am ddatganoli darlledu o afael rheolaeth y sefydliad Prydeinig – wedi amlygu ei hun yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod hwn. ”

Mae Lleuwen wedi cyhoeddi penillion y gân fel y gall pob farnu dros eu hunain am ei addasrwydd i’w darlledu. Gwrandewch arni’n canu’r gân isod i farnu dros eich hun: