Lloyd Steele i ryddhau sengl unigol gyntaf

Bydd gitarydd y grŵp poblogaidd, Y Reu, yn rhyddhau ei sengl unigol gyntaf fory, 4 Chwefror. 

Mae Lloyd Steele wedi bod yn bresenoldeb amlwg ar lwyfannau Cymru ers aelod o Y Reu, a chyn hynny y grŵp ifanc Y Saethau, ond nawr mae’n paratoi i ryddhau cerddoriaeth ar ei liwt ei hun. 

‘Mwgwd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh wythnos yma. 

Mae Y Reu yn gyfarwydd am eu cerddoriaeth roc a sioeau byw ffyrnig, ynghyd â chaneuon bachog fel ‘Hâf’ a ‘Gwell na Hyn’. Er hynny, mae dylanwadau cerddoriaeth unigol Lloyd yn dod yn fwy o gyfeiriad genre’s gwahanol fel R&B a phop cyfoes. 

Dros y cyfnod heb gigs mae Lloyd wedi bod yn ysgrifennu cerddoriaeth er mwyn darganfod ffordd o fynegi ei hun ar ffurf creadigol. 

Ym mis Medi 2021 glaniodd ‘Mwgwd’ ym mlwch e-bost Côsh ar ôl i Lloyd fod yn cydweithio y gân gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts yn Stwidio Ferlas. 

Mae’r gân yn wahanol i’r arlwy arferol Cymraeg, gyda churiadau fyddai’n gartrefol mewn un o ganeuon y grŵp o Rydychen, Glass Animals, ac ymdeimlad ymlaciedig ond pwrpasol sydd i’w glywed yng ngherddoriaeth y ddeuawd pop Americanaidd, Beach House. 

Er ei bod hi wedi bod yn benderfyniad naturiol i Lloyd ddewis rhyddhau cerddoriaeth ei hun, mae’n bwysig nodi fod y gân ‘Mwgwd’ hefyd yn sôn am gychwyn pennod newydd yn ei fywyd.

“Mae ‘Mwgwd’ yn seiliedig ar fod yn gyfforddus ac yn hyderus efo hunaniaeth dy hun, rhywbeth dwi wedi bod yn sdryglo efo yn y gorffenol” meddai’r cerddor. 

“Ma’n pwysleisio’r pwysigrwydd o fod yn chdi dy hyn, a sut mae bywyd yn gymaint fwy rhydd pan ti’n derbyn ac yn cofleidio dy hun.”

I gydfynd â’r dyddiad rhyddhau bydd fideo ar gyfer ‘Mwgwd’ yn cael ei rannu gan Lŵp, S4C ar eu llwyfannau digidol. 

Mae ’na gyfweliad dadlennol gyda Lloyd ar golwg360 sy’n werth ei ddarllen.

Llun: Dion Jones