Llyfr caneuon Meic Stevens allan yn fuan

Bydd llyfr newydd sy’n cynnwys cerddi a geiriau caneuon un o gerddorion pwysicaf yr iaith Gymraeg, Meic Stevens, yn cael ei gyhoeddi fis Tachwedd.

‘Meic Stevens: Caniadau’ ydy enw’r gyfrol newydd a gyhoeddir gan wasg Dalen (Llyfrau) Cyf ac fe fydd yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad arbennig ar 3 Tachwedd. 

Mae’r llyfr newydd yn croniclo oes gyfan o gerddi a chaneuon y Swynwr o Solfach sydd yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol y Gymru gyfoes. 

Mae caneuon Meic Stevens wedi bod yn drac sain i’r genedl ers dros 60 o fynyddoedd, ac  am ytro cyntaf erioed, mae geiriau ei gerddi a’i ganeuon, yn y Gymraeg a’r Saesneg, wedi eu casglu ynghyd rhwng dau glawr.

Mae eleni’n flwyddyn arwyddocaol i Stevens wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ac mae’r gyfrol newydd yn ffordd briodol o nodi’r garreg filltir. 

Cynhelir lansiad ffurfiol ar gyfer y llyfr ar nos Iau, 3 Tachwedd am 7.00pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Bydd Meic Stevens yn trafod ei waith, a’r dylanwadau arno, gyda’r cyflwynydd Gary Slaymaker mewn sesiwn holi ac ateb, a bydd hefyd cyfle i glywed perfformiad o rai o ganeuon mwya’ poblogaidd Meic.

Mae gwefan arbennig wedi’i chreu i gydfynd â’r gyfrol newydd ac mae modd archebu copïau o’r llyfr a thocynnau i’r lansiad ar y wefan honno. 

Bydd Y Selar yn rhoi mwy o sylw arbennig i’r gyfrol wrth i’r dyddiad cyhoeddi agosau – gwyliwch y gofod!