Mae o leiaf un gân yr wythnos yn cael eu rhyddhau ar hyn o bryd i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd, a’r band diweddaraf i ymuno â’r rhestr ydy Los Blancos.
‘Bricsen Arall’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino ers dydd Iau diwethaf, 3 Tachwedd.
Wrth i’r sengl gael ei rhyddhau ychydig dros bythefnos cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar, mae arwyddocâd pellach i’r gân wrth i S4C gyhoeddi mai ‘Bricsen Arall’ ydy eu cân swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Bydd S4C yn darlledu gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn fyw wrth iddynt herio UDA ar 21 Tachwedd.
No brainer
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol, ac mae fideo ar gyfer y trac hefyd ar sianel YouTube S4C.
“Fi ’di bod yn aros ers oes am yr eiliad hyn.
“64 mlynedd, pum mis a dau ddydd – ond pwy sy’n cyfrif?”
Dyna’r geiriau sy’n cael ei hail-adrodd yng nghytgan bachog y gân, gan adlewyrchu’r boen hanesyddol mae cefnogwyr Cymru wedi dioddef, yn ogystal â’r gorfoledd sydd wedi dod yn sgil oes aur y tîm dros y blynyddoedd diwethaf.
Un peth sy’n amlwg wrth wrando ar y gân yw bod y band, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn aelodau selog o’r Wal Goch ac mae Dewi, basydd Los Blancos yn cadarnhau hyn.
“Mae pob un ohonon ni’n massive football fans ac yn gefnogwyr mawr o dîm Cymru, ac mi rydyn ni’n mynd i’r gemau yn aml” meddai Dewi.
“Felly pan gysylltodd S4C i ofyn a bydda’i diddordeb gennym ni i recordio cân Cwpan y Byd, roedd e’n no brainer rili!
“Mae bod yn gefnogwyr yn rhoi bach o bwysau arnom ni achos mae hyn yn rhywbeth ti’n breuddwydio am wneud, ond rhywbeth ti byth yn meddwl cei ’di’r cyfle i wneud.
“Felly pan ddaeth yr amser i eistedd lawr ac ysgrifennu cân, roedden ni just ar goll am gwpwl o wythnosau, hefo writer’s block a methu meddwl am syniadau. Roedd e’n tough! Roedd e’n hollol wahanol i’n proses arferol o sgwennu cân.”
Dilyn dylanwad Dafydd
Mae’r band yn gobeithio bydd aelodau eraill y wal goch yn hoffi’r trac ac y bydd cyfle yn y dyfodol i Los Blancos berfformio’r trac o flaen eu cyd gefnogwyr Cymru.
“Fi’n gobeithio fod pobl yn mynd i hoffi fe” meddai Dewi.
“Ni wedi cael cyfle gwych gan S4C i recordio cân i nodi Cwpan y Byd, a gobeithio caiff e dipyn o sylw.
“Fi’n gobeithio fod ffans Cymru yn meddwl fod e’n gân eitha’ catchy a bod pobl yn gallu canu gyda fe.
“A gobeithio cawn ni berfformio hwn yn y stadiwm pan fydd Cymru yn qualifyio i Gwpan y Byd 2062, fel Dafydd Iwan!”
Mae ffryntman Los Blancos, Gwyn Rosser, yn sicr wedi mynd i hwyl gyda’r caneuon Cwpan y Byd – bu i’w fand byrhoedlog arall, Y Southalls, ryddhau eu hymgais hwy , ‘Ben Davies o Gastell Nedd’, wythnos diwethaf.