Sengl gan y band pync ifanc Maes Parcio ydy’r cynnyrch diweddaraf i’w ryddhau ar label newydd INOIS.
‘Sgen Ti Awydd?’ ydy enw’r trac gan y band sydd ag aelodau o Gaernarfon ac Ynys Môn, a hon ydy eu sengl swyddogol gyntaf er eu bod yn gigio ers cwpl o flynyddoedd.
Maes Parcio ydy Gwydion Outram (Gitâr a Phrif Leisydd), Twm Evans (Piano), ac Owain Siôn (Dryms).
Mae eu sengl gyntaf ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener diwethaf, 11 Tachwedd.
Ffurfiodd y band yn wreiddiol nôl yn 2018 fel rhan o raglen ‘Marathon Rock’ Galeri, Caernarfon.
Mae’r sengl newydd yn dod o gyfnod cychwynnol y band, a cafodd ei ysgrifennu a’i recordio fel rhan o’r sesiynau gyda help Osian Williams (Candelas) a Branwen Williams (Siddi).
Mynd nôl at gân gynnar
Yn ôl un o’r aelodau, mae rhyddhau un o’u caneuon cynharaf fel sengl swyddogol gyntaf yn briodol.
“Dwi’n meddwl bod o just yn neis dod yn ôl at un o’r caneuon nath helpu sefydlu ni fel band” meddai’r drymiwr, Owain Siôn.
“Iawn, dos na’m lot di dod allan ers hynny a da ni’n bendant di newid lot fel pobl a cerddorion ers sgwennu fo. Rŵan bo ni’n dechra sbïo ar sgwennu petha ‘trymach’, ma’n dda gallu rhyddhau wbath mwy ysgafn a hwyl i gadw range ni’n agored fel band.”
Cyn y cyfnod clo, roedd y band wedi bod yn brysur yn gigo a dechrau creu enw i’w hunain.
Dros y ddwy flynedd heb gigs mae caneuon wedi bod yn prysur ffrwtian, a thros y flwyddyn ddiwethaf maent wedi bod yn rhannu’r caneuon gyda’r byd mewn gigs fel Gŵyl Triban yr Urdd ac yn Nhafarn y Glôb yn Bangor.
Mae’r sengl gyntaf yn glanio cyn i’r band fynd mewn i’r stiwdio i ddechrau recordio eu traciau newydd.
Bydd cyfle i weld Maes Parcio yn perfformio’n fyw yn Copa, Caernarfon ar y 10 Rhagfyr wrth iddynt gefnogi Bwncath a Phil Gas a’r Band. Byddan nhw hefyd yn chwarae yn y Ddawns Rhyng-gol yn Aberystwyth penwythnos yma.