Mae’r gantores o Gaerdydd, Mali Hâf yn parhau â’i chyfnod gweithgar wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 12 Awst.
‘Pedair Deilen’ ydy enw’r sengl newydd gan Mali sydd allan ar label Recordiau JigCal.
Cân wedi’i hysgrifennu i’w ffrind gorau ydy ‘Pedair Deilen’ ac mae’n dwyn i gof yr achlysur pan fu i’w ffrind ddarganfod meillionen pedair deilen yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod, 2015 pan oedd yn ddwy’n ddeunaw oed.
Mae Mali wedi bod yn weithgar iawn yn 2022 hyd yma ac mae hynny’n parhau gyda’r sengl newydd. Mae ‘Pedair Deilen’ yn dilyn cwpl o senglau blaenorol sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan Mali eleni gan gynnwys ‘Heuldy’ a ryddhawyd ar y cyd gyda FRMAND ym mis Mai a’r thrac Cân i Gymru, ‘Paid Newid Dy Liw’ a ryddhawyd ganddi fis Mawrth.
Ceir neges glir yn ‘Pedair Deilen’ sef y gallwch ddibynnu ar brydferthwch byd natur a chyfeillgarwch ffrind go iawn.
Cân feel good go iawn ydy hon sydd eisoes yn ffefryn gyda chynulleidfa fyw Mali. Mae’r rhythmau ffync a’r lleisio neo-soul yn agweddau mae Mali a’i band talentog eisiau datblygu yn eu cerddoriaeth gyda chefnogaeth Recordiau Jigcal.
Mae Mali hefyd yn gweithio ar EP newydd, gyda’i band, Trystan, Ioan a Bryn, yn Sdiwdios JigCal.