Mali Hâf yn rhyddhau sengl Cân i Gymru

Mae gyrfa gerddorol Mali Hâf yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 11 Mawrth. 

‘Paid Newid Dy Liw’ ydy enw sengl newydd Mali ac mae’n siŵr y bydd yn gyfarwydd i rai gan mai dyma oedd ei hymgais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar S4C eleni. 

Ysgrifennodd Mali y gân gyda’i ffrind, a gitarydd ei band, Trystan Hughes. 

Yn y gân mae Mali yn erfyn ar i bethau gorau bywyd i beidio newid eu lliw. 

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y geiriau mewn breuddwyd pan welodd Mali afon yn newid ei lliw hyfryd i liw cemegol brwnt.

Yna, y diwrnod canlynol, darllenodd am y modd mae traean o afonydd yn America wedi newid eu lliw dros y 40 mlynedd diwethaf, o ganlyniad i lygredd a gweithgaredd dynol. 

Er mai dyna’r ysgogiad, wrth ysgrifennu’r gân gwelodd Mali fod y geiriau’n berthnasol i lawer agwedd o fywyd e.e. does dim rhaid newid lliw croen, diwylliant, rhywioldeb, personoliaeth na’ch hunaniaeth, a’r gobaith bydd Cymru’n cadw ei hyfrydwch gweledol a diwylliannol am yr oesoedd a ddaw. 

Ffordd arall o ddehongli’r sengl ydy fel cân gariad syml sy’n “credu” yn y cariad rydyn ni’n rhannu.

Mae hi’n gobeithio bydd alawon y gân yn ddigon “catchy”, a’r piano chwareus yn gwneud i chi deimlo’n well, a bod y llais teimladwy yn cysylltu â’r gobaith angerddol hwnnw mae hi’n credu sydd gennym ni i gyd rhywle tu fewn.