Mae Mared wedi rhyddhau ei sengl Saesneg newydd ers dydd Gwener diwethaf, 11 Chwefror.
‘Let Me Go’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan gantores sy’n rhannu ei hamser rhwng Llanefydd yn Nyffryn Clwyd a dinas fawr Llundain.
Ar ôl llwyddiant ei chasgliad o ganeuon gwerin, pop a jazz ar yr albwm Y Drefn a ryddhawyd yn Awst 2020, mae Mared bellach wedi dechrau prosiect soul-pop newydd gyda’i sengl diwethaf, ‘Pictures’, a gafodd ei chwarae ar raglen ‘Power Down Playlist’ Sian Eleri ar BBC Radio 1 nôl yn Rhagfyr.
Nate Williams sydd wedi cynhyrchu a cyd-sgwennu’r traciau ar ôl i’r ddau gyfarfod dan gyfyngiadau’r clo mawr yn 2020.
Mae’r sengl newydd, ‘Let Me Go’, yn dilyn camau ‘Pictures’ gyda riffs bachog, synth tyfn a llais llawn enaid yn tynnu’r sain calonogol at ei gilydd.
Mae’r geiriau’n o berspectif gwrthdaro a gorchymyn atebion o fewn perthynas sydd yn ceisio iachau.
Dyma dyfiant yn hunaniaeth gerddorol Mared, wrth iddi dynnu dylanwadau at ei gilydd gan artistiaid fel Lianne La Havas ac Emily King.
Mae fideo hollol fyw o’r gan yn cydfyd â’r sengl, wedi ei ffilmio gan Olivia Ferrara a Sorrel Higgins mewn Working Men’s Club yng ngogledd Llundain. Bydd EP o’r prosiect cyfan, ‘Something Worth Losing’, allan yn ngwanwyn 2022.