Mae albwm cyntaf Mari Mathias allan ers dydd Sul diwethaf, 20 Mawrth.
Annwn ydy enw record hir gyntaf y ferch o Geredigion ac mae cael ei ryddhau ar label Recordiau JigCal.
Daw’r albwm ar ôl iddi ryddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Rebel’ ar 11 Chwefror ac yna’r trac sy’n rhannu enw’r albwm, ‘Annwn’, ar 11 Mawrth.
Magwyd Mari Mathias ym mhentref gwledig Talgarreg sydd dafliad carreg o arfordir de Ceredigion. Mae hi bellach wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn astudio gradd Meistr mewn Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu.
Roedd Mari yn un o artistiaid cynllun Forté yn 2021, ond cyn hynny roedd eisoes wedi rhyddhau ei EP unigol cyntaf, ‘Ysbryd y Tŷ’, ym mis Mawrth 2020.
Gosod seiliau
Mae wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ers blynyddoedd ac roedd yn aelod o’r grŵp gwerin Raffdam cyn penderfynu canolbwyntio ar ei gyrfa unigol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Mari wedi cefnogi perfformwyr fel Gruff Rhys, Meic Stevens a Plu. Mae hi wedi perfformio ym mhobman, o Amgueddfa Sain Ffagan i Hub Fest, Gŵyl Immersed, Clwb Ifor Bach, Swansea Fringe a The Big Cwtch.
Bu iddi hefyd ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol, 2019.
Wedi graddio o’r Forté Project, mae hi bellach yn perfformio ei deunydd newydd gydag ensemble newydd a chyffrous o gerddorion gwerin ifanc.
Cyfweliad yn Y Selar
Mae cyfweliad llawn gyda Mari yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd allan ers canol mis Mawrth.
Yn ei sgwrs gyda gohebydd Y Selar, Tegwen Bruce-Deans, mae Mari’n trafod dylanwad hanes ei theulu a thraddodiadau gwerin Cymreig ar yr albwm newydd.
Mae hefyd yn egluro sut y mae wedi datblygu fel cerddor yn ystod cyfnod y pandemig.
“Dwi’n meddwl bod gan fy ngherddoriaeth ystyr dyfnach nawr” meddai’r ferch o dde Ceredigion.
Ac nid dim ond y gorffennol sy’n dylanwadu ar ei cherddoriaeth chwaith, mae’n ymwybodol iawn o bynciau llosg cyfoes.
“Un o’r newidiadau diweddar yng Nghymru yw’r cynnydd ym mhrisiau tai yn rhoi pwysau enfawr mewn cymunedau gwledig…”
“Roedd hyn hefyd wedi gwneud i mi edrych ar ein cymunedau Cymraeg a sut y bydd hyn yn cael effaith ar iaith, diwylliant, traddodiad a chymdeithas” meddai Mari.
Gallwch ddarllen y cyfweliad yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd ar gael yn rhad ac am ddim mewn print o’r mannau arferol, neu i’w bori’n ddigidol hefyd.