Mari Mathias yn rhyddhau ‘Rebel’

Mae’r cerddor gwerin o Geredigion, Mari Mathias, wedi rhyddhau’r sengl gyntaf o’i halbwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 11 Chwefror. 

‘Rebel ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal ac mae’n flas cyntaf o’r albwm ‘Annwn’ fydd allan ar 20 Mawrth.

Daw Mari Mathias o bentref gwledig Talgarreg yn Ne Ceredigion ac mae wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ers yn ferch ifanc, gan ddatblygu ei harddull o roi gwedd gyfoes ar alawon gwerin traddodiadol.  

Roedd Mari yn un o artistiaid cynllun Forté 2021, ac mae bellach wedi’i lleoli yng Nghaerdydd gyda band gwerin cyffrous yn ei chefnogi mewn digwyddiadau byw. 

Rhyddhawyd ei EP cyntaf ‘Ysbryd yn y Tŷ’ yn 2020 – record oedd wedi’i chyflwyno i’w mam-gu. Dylanwad ei thad-cu ar y llaw arall sy’n drwm ar ei halbwm cyntaf, ac yn benodol darganfyddiad o hen recordiadau ganddo ar dapiau casét, sydd wedi eu defnyddio fel sampyls ar yr albwm. 

Mari a Merched Beca

Mae dylanwad teuluol arall ar y sengl ‘Rebel’, sef dylanwad gwaith celf ei mam, yr artist Meinir Mathias a’i lluniau sy’n gysylltiedig â therfysgoedd Merched Beca. 

Mae ‘Rebel’ wedi’i hysbrydoli gan hanes Merched Beca a chymeriad Twm Carnabwth, sef arweinydd y terfysgoedd yng ngorllewin Cymru, yn arbennig.

Mae’r sengl yn archwilio’r themâu o wrthryfel, pŵer, hawliau a diwylliant. Mae hi hefyd yn cwestiynu ‘Beth yw arweinwr?’ sef cwestiwn perthnasol i’n hanes, y presennol ac ein dyfodol.

“Ysgrifennais y sengl ddiweddaraf ‘REBEL’ wedi ysbrydoli gan Derfysgoedd Rebeca” eglura Mari. 

“Artist yw fy mam, Meinir Mathias ac mae ei phaentiadau wedi’u hysbrydoli gan y dynion a brotestiodd mewn dillad merched yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder, dros 180 mlynedd yn ôl.

“Mae’n creu portreadau trawiadol o gymeriadau gwrthryfel Beca. Thema sydd wedi dylanwadu’n fawr ar ei gwaith ac roeddwn yn awyddus i ddod â hynny i fyw trwy fy ngherddoriaeth.”

“Dros y cyfnod clo, dechreuais ddarllen chwedlau gwerin ac edrych ar waith celf am ysbrydoliaeth delynegol. Un diwrnod eisteddais o flaen peintiad fy mam: ‘Twm Carnabwth’ a dechrau ysgrifennu beth welais yn y paentiad. 

“Crëwyd ‘Rebel’ a ysbrydolwyd gan y cymeriadau oedd yn herio awdurdod, yn herio deddfau a strwythur cymdeithas yng Nghymru. Ymladdon nhw yn erbyn imperialaeth a chydraddoldeb , ond eto cafon nhw eu brandio’n droseddwyr gan yr awdurdodau yn eu hamser a’u cosbi’n llym. Mae’r sengl ac albwm yn archwilio themâu sy’n ymwneud â chof diwylliannol, hanes, tir a phobl y wlad.” 

Darganfod llais Dad-cu

Bydd ail sengl o’r enw ‘Y Cwilt’ yn cael ei rhyddhau’n fuan fel tamaid arall i aros pryd nes yr albwm sydd allan ar 20 Mawrth. Mae Mari wedi defnyddio samplau o lais ei hen dad-cu ar rai o ganeuon yr albwm ar ôl iddi ddarganfod casetiau’n cynnwys recordiadau ganddo o’r 1980au yn ystod y cyfnod clo. 

“Des i o hyd i hen dapiau casét fy hen datcu a dechreuais ysgrifennu traciau wedi’u hysbrydoli gan yr alawon gwerin a’r straeon a basiodd i lawr. 

“Er na wnes i erioed gwrdd â fy hen datcu (Dats), rwy’n teimlo bod gen i gysylltiad cryf ag ef. Pan dwi’n clywed ei lais, mae’n rhoi cryndod i fy asgwrn cefn. Y caneuon ar yr albwm yw fy nehongliad i o straeon cymeriadau, straeon a chwedlau’r ardal Ceredigion.”