‘Annwn’ ydy sengl newydd Mari Mathias sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Mawrth.
Mae’r trac newydd yn ddilyniant i’r sengl ‘Rebel’ a ryddhawyd ganddi ddechrau mis Chwefror.
Mae ‘Annwn’ hefyd yn flas pellach o albwm cyntaf Mari, yn ogystal â rhannu enw â’r record hir, fydd yn cael ei ryddhau gan Recordiau JigCal ar 20 Mawrth.
Arbrofi, a’r arallfyd
Gyda’r sengl newydd mae Mari a’i band yn arbrofi gyda cherddoriaeth werin ac yn creu cysylltiad rhwng cerddoriaeth draddodiadol a synau a themâu cyfoes.
Annwn ydy’r enw ar yr ‘arallfyd’ ym mytholeg Cymru ac mae chwedlau, caneuon traddodiadol a melodïau gwerin wedi dylanwadu’n drwm ar y sengl a’r albwm.
Mae ‘Annwn’ yn edrych ar ein cysylltiad â thirwedd, bywyd ac anifeiliaid gwyllt gan ddwyn ysbrydoliaeth hefyd o elfennau o fytholeg dywyll, hanes Celtaidd, ac o ‘American Horror Story’.
Mae’r dylanwadau yma i’w canfod hefyd yn y fideo o’r trac sydd wedi’i greu gan Lŵp, S4C, lle gwelwn natur yn ymladd yn ôl yn erbyn byd o dechnoleg a newid hinsawdd. Andy Pritchard ac Aled Wyn Jones sy’n gyfrifol am y fideo newydd sydd ar lwyfannau digidol Lŵp.
Roedd Annwn yn arallfyd llawn tylwyth teg y byddai Mari’n dianc iddo fel plentyn. Roedd y cerddor eisiau defnyddio’r gân yma i archwilio themâu hudol yn ogystal ag edrych ar themâu sy’n berthnasol at heddiw.
Fel actores ac awdur sgript a astudiodd radd BA Perfformio yng Nghaerdydd, roedd hi’n awyddus iawn i ddod ag elfennau theatraidd i’r caneuon ac i’r fideos i alluogi’r gynulleidfa i ymgolli’n llwyr yn ei byd hi.
Mae cyfweliad gyda Mari am ei halbwm newydd yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan rŵan.
Dyma’r fideo: