Mae Neuadd Ogwen wedi cyhoeddi manylion digwyddiad newydd ym mis Hydref sy’n ddathliad o ieithoedd brodorol.
‘Mawr y Rhai Bychain 2022’ ydy enw’r digwyddiad a gynhelir ar benwythnos 7 – 9 Hydref eleni.
Yn ogystal â cherddoriaeth fyw, bydd yr ŵyl yn cynnwys dangosiadau ffilm a gweithdai amrywiol.
O ran y gerddoriaeth, gig gyda’r band o’r Alban, Breabach fydd yn dechrau’r cyfan ar nos Wener 7 Hydref. Bydd y delynores ifanc Gymreig, Cerys Hafana yn cefnogi.
Ar y nos Sadwrn, bydd neb llai na Dafydd Iwan yn perfformio gyda chefnogaeth gan Dièse3 & Youenn Lange o Lydaw.
Y band amlwg o Glasgow yn yr Alban, Talisk, fydd yn arwain y noson olaf ar nos Sul 9 Hydref gydag Yws Gwynedd yn cefnogi.
Mae modd prynu tocynnau penwythnos ar gyfer Mawr y Rhai Bychain ar wefan Neuadd Ogwen, neu mae modd prynu tocynnau i’r digwyddiadau unigol.