Bydd Mei Emrys yn rhyddhau ei sengl newyd ddydd Gwener nesaf, 14 Hydref.
‘Bore Sul (yn ei thŷ hi)’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor profiadol ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Daw’r sengl ddiweddaraf yn dilyn y sengl ddwbl ‘Olwyn Uwchben y Dŵr’ a ‘29’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
Canwr-gyfansoddwr o Gaernarfon ydy Mei Emrys. Daeth i’r amlwg gyntaf fel ffryntman o’r band poblogaidd Vanta ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r 2000au.
Yn fwy diweddar mae wedi mynd ati i dechrau creu a rhyddhau ei gerddoriaeth yn unigol, a phenllanw hynny hyd yma oedd rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, ‘Llwch’, ym mis Medi 2017.
Seiniau ewfforig
Wedi’i hysbrydoli gan ddyfyniad Johnny Cash ynglŷn â ‘pharadwys’, bydd y sengl newydd – sy’n adleisio seiniau ewfforig Coldplay, Doves a James – ar gael yn ddigidol o’r mannau arferol o ddydd Gwener, 14 Hydref.
Recordiwyd a chynhyrchwyd ‘Bore Sul (Yn Ei Thŷ Hi)’ yn Stiwdio Ferlas gan y cynhyrchydd Rich Roberts ac mae’r gân yn sôn am ganfod tawelwch, llonyddwch a hapusrwydd yng nghanol holl ansicrwydd a dryswch y byd modern. Ysbrydolwyd rhai o’r geiriau gan Y Cyrff, The Smiths a Beth Orton.
Mae gwaith celf trawiadol gan Dion Jones i gyd-fynd â’r sengl, ac mae wedi defnyddio llun Mollie Payne o ‘Joe yn y pwll yn Barcelona’ fel sail y tro hwn.
Amseru perffaith wrth ddathlu carreg filltir
Mae Mei yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd hefyd yn llywydd ar fudiad UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn ystod ei gyfnod yn Aber.
Mae’n briodol felly bod y sengl newydd yn cael ei rhyddhau ar y penwythnos lle bydd gig mawreddog yn cael ei gynnal fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150 oed eleni.
Bydd Mei yn perfformio fel rhan o arlwy Gig Mawr Aber 150, fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Sadwrn, 15 Hydref. Bydd Mei yn ymuno â llu o artistiaid eraill amlwg sy’n gyn-fyfyrwyr yn Aber i ddathlu penblwydd Prifysgol Aberystwyth gan gynnwys Mynediad am Ddim, Geraint Løvgreen, Catrin Herbert a Los Blancos.
Y newyddion da pellach ydy ei bod yn ymddangos bod albwm newydd ar y gweill gan Mei ac mae addewid o flas pellach o’r albwm ar ffurf sengl arall yn fuan yn y flwyddyn newydd.