Heno, mae gwasg Dalen yn lansio cyfrol newydd am Meic Stevens mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, ac rydan ni yma yn Y Selar yn parhau â’n cyfres ‘cip rhwng y cloriau’ sy’n rhoi cyfle cyntaf i chi gael blas o’r llyfr.
Mae’r ‘Meic Stevens: Caniadau’ yn cynnwys cerddi a geiriau caneuon Meic ar hyd ei yrfa, ynghyd â phytiau o’i hanes ac ambell lun o’r archif.
Ddoe fe wnaethon ni gyhoeddi darn o’r gyfrol yn sôn am gyfnod Meic yn Llundain yn y 1960au, a heddiw rydan ni’n cael darn sy’n adrodd hanes ei gyfarfyddiad cyntaf â Geraint Jarman a Heather Jones, gyda’r tri’n mynd ymlaen i ffurfio’r grŵp sbŵff, Bara Menyn.
Doedd neb arall o gwmpas, dim ond Meic yn ei het ddu, clogyn du, sbectol dywyll, trowsus du, bŵts du a chês gitâr du. Yn ddu o’i gorun i’w sawdl. “My God!” ebychodd Dad. “Look at him there! He looks like a bat out of hell!” “No it’s alright,” meddai Geraint. “I recognise him. That’s Meic Stevens that is. He’s famous.”
Cyflwynodd Meic ei hun i’r gwersyllwyr diniwed o Gaerdydd yn hwyrach yn y dydd:
Roedd Geraint yn yr ysgol o hyd a dwedodd taw bardd oedd e am fod. Roedd Heather yn fyfyrwraig ar ei blwyddyn gynta yng Ngholeg Caerllion yn astudio i fynd yn athrawes. Ro’n i’n eu hoffi nhw a’u brwdfrydedd ifanc, ac fe rois i wahoddiad iddyn nhw ddod i aros ’da ni yn Rose Cottage.
Roedd Meic gam ar y blaen, mae’n amlwg, wrth wahodd Jarman: “You must come down to Solva one day and help me out. I’m writing a pop opera called Etifeddiaeth Drwy’r Mwg. Yeah, come down … and help me finish this pop opera.” Ym mrwdfrydedd heintus rhyddid yr haf, ymgnawdolwyd y drindod yma yn jôc fawr y Bara ’Menyn – “dwi’n rhoi’r bai ar hiwmor, gwin, tamed bach o fwg drwg, ac awyr Solfa”. Erbyn i nudden y nos glirio, roedd caneuon cyntaf y Bara ’Menyn wedi’u hysgrifennu. Ffilmiwyd rhaglen i deledu Harlech ymhen wythnos, a phrysurodd Dennis Rees eto i drefnu recordio’r grŵp newydd ar gyfer Dryw a rhyddhau’r EP cyntaf “yn boeth o’r popty” (EP yn cynnwys ‘Rhywbeth Gwell i Ddod’, sef un o ganeuon Etifeddiaeth Drwy’r Mwg) – ond “aeth y jôc o chwith oherwydd roedd pobl yn sgrifennu ac yn ffonio am y Bara ’Menyn yn fwy nag amdana i a Heather ar ein pennau ein hunain!” Esgorodd hyn oll ar argyfwng dirfodol:
Be am fy marddoniaeth i?” llefodd Geraint.
“Be am ’yn ymosodiad i ar Joan Baez?” nadodd Heather.
“Be ffwc yw’r ots?!” meddwn inne.
Bu’r Bara ’Menyn yn waddod ar hyd y degawdau – yn lleisio cefndir Heather, er enghraifft, i aeddfedu’r caneuon cynnar erbyn 1979 – ac os barnodd Jarman fod y Bara ’Menyn wedi “rhoi cyfle i swrealaeth Meic”, prin y gallem wrthod tystiolaeth Heather: Bron cyn gynted ag y camodd Meic ar y llwyfan fe ddechreuodd e chwerthin … fel dyn gwallgo, tra oedd Geraint a minnau wrth ei ymyl yn ceisio ymddwyn fel pe bai dimo’ile…acynydiwedd fe chwarddodd mor galed fel y bu iddo golli ei falans a llithro’n un swp ar y llawr, a fan’no’r arhosodd e, yn gorwedd ar ei gefn yn ceisio chwarae’r gitâr, ac yn dal i chwerthin a chwerthin!
Mae lansiad ‘Meic Stevens: Caniadau’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd heno gyda Meic ei hun yn gwmni i’r cyflwynydd Gary Slaymaker.
Os ydach chi isio dysgu mwy am y gyfrol, neu archebu copi mae gwefan arbennig gan Dalen.
Diolch i Dalen, bydd cynnig arbennig i aelodau premiwm Clwb Selar sydd am brynu copi – cadwch olwg ar eich ebost dros y dyddiau nesaf.