Nos fory, Iau 3 Tachwedd, bydd cyfrol newydd yn cael ei lansio sy’n cymryd cip unigryw yn ôl dros hanes un o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf arwyddocaol yr iaith Gymraeg.
Gwasg Dalen sy’n cyhoeddi ‘Meic Stevens: Caniadau’ ac mae’r gyfrol yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Yn ogystal ag adrodd tipyn o hanes y Swynwr o Solfach, mae’r gyfrol newydd yn cynnwys cerddi a geiriau caneuon Meic ar hyd ei yrfa – clamp o lyfr heb os.
Mae’r Selar yn falch iawn i gydweithio gyda Dalen i gynnig blas arbennig o’r gyfrol i chi a dros y dyddiau nesaf byddwn yn cyhoeddi rhannau byr o ‘Meic Stevens: Caniadau’ yn ecsgliwsif yma ar wefan Y Selar.
Dyma’r gyntaf o’r gyfres o bytiau sy’n trafod dyddiau cynnar y cerddor wrth iddo geisio gwneud ei farc yn Llundain.
Eto pylu wnaeth awch cychwynnol Decca ar ôl ‘Did I Dream’, ac aeth Meic yn ôl i stiwdio Tony Pike rai misoedd wedi hynny gyda Mike Meeropol, gitarydd gwerin o Greenwich Village, a oedd yn fyfyriwr yng Nghaer- grawnt. Dyma pryd y recordiwyd rhai o’r caneuon Saesneg gwreiddiol, caneuon yn cynrychioli’n well arddull gerddorol Meic erbyn canol y 1960au.
Roedd y troedio maith rhwng y clybiau gwerin yn sail i’w stori yn ‘Walking Talking London Blues’, er enghraifft, cân am “Gymro bach heb arian yn y ddinas fawr ’ma, dim ond cerdded o gwmpas nes bod ei draed bron â chwympo bant! … ‘Taffy in London’, ti’n gweld, saethodd ei hun yn y diwedd.” Rhyddhawyd September 1965: The Tony Pike Session ddegawdau wedyn, yn 2002, ar ôl i’r recordiad gwreiddiol fynd ar goll am bron i ddeugain mlynedd.
Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd Meic yn Llundain ganol y 1960au yn ystod gyrfa fer y cerddor Jackson C. Frank, a ddigwyddodd ac a darfu ar y sîn werin yno rhwng 1964 a 1966. Rhyddhawyd y record hir Jackson C. Frank ym 1965, casgliad o ganeuon y canwr ei hun sy’n agor gyda ‘Blues Run the Game’ – recordiodd Meic ei fersiwn ef o’r gân, ‘Glas yw Lliw y Gêm’, ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Rhwng hyn i gyd, llethwyd a llonnwyd Meic yng nghyfnod ysgrifennu ‘Song of Sadness’ – ei lethu gan chwalfa nerfol (Mandy Rice-Davies o Bont-iets, mewn cabaret yn sgil Profumo, oedd ei angel bryd hynny) a’i lonni gan garwriaeth â myfyrwraig ym Manceinion, Tessa Bulman o Gaerliwelydd. Ganwyd eu plentyn cyntaf, Wizz (Isobel), ym 1966.
Roedd yr yrfa, yn y cyfamser, yn symud – o Fanceinion i wyliau gwerin cyntaf Caer-grawnt (ym 1966 a’r flwyddyn ganlynol), i rannu llwyfan y Marquee Club yn Llundain gyda’r Reverend Gary Davis, hynafgwr y felan, a’r peth rhyfedda bod “rhaid i fi fynd i hen dre mor frwnt i ddwyn ffrwyth”.
Cynhelir lansiad ffurfiol ar gyfer y llyfr ar nos Iau, 3 Tachwedd am 7.00pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Bydd Meic Stevens yn trafod ei waith, a’r dylanwadau arno, gyda’r cyflwynydd Gary Slaymaker mewn sesiwn holi ac ateb, a bydd hefyd cyfle i glywed perfformiad o rai o ganeuon mwya’ poblogaidd Meic.
Os ydach chi isio dysgu mwy am y gyfrol, neu archebu copi mae gwefan arbennig gan Dalen.
Diolch i Dalen, bydd cynnig arbennig i aelodau premiwm Clwb Selar sydd am brynu copi – cadwch olwg ar eich ebost dros y dyddiau nesaf gyfeillion.