Mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dechrau mis Rhagfyr.
‘Goriad’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Gwynfryn Cymunedol.
Ar ôl chwe mis o egwyl o’r stiwdio, mae Meinir wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddeunydd newydd ac yn bwriadu rhyddhau ei halbwm diweddaraf yn ystod 2023.
Ynghyd â’r caneuon newydd mae wedi bod yn gweithio arnynt, mae hefyd wedi bod yn gweithio ar fersiynau newydd o rai o’i chaneuon adnabyddus o’r gorffennol gan eu trawsnewid i gyd-fynd â sain newydd yr albwm.
Un o’r rhain ydy ‘Goriad’ a ryddhawyd yn wreiddiol ar ei halbwm ‘Llwybrau’ yn 2016.
Daw’r fersiwn newydd o ‘Goriad’ ar ôl i Meinir ail-ryddhau ei chryno albwm llwyddiannus, ’Smôcs, Coffi a Fodca Rhad’ yn y gwanwyn eleni.
Er mwyn nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi ei record gyntaf, rhyddhawyd fersiwn newydd oedd yn cynnwys y saith trac gwreiddiol, ynghyd â fersiwn acwstig o’r caneuon i gyd a thair cân wedi’u hail-gymysgu.
Mae Meinir hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd sydd ar gael i’w wylio ar-lein.
Dyma’r fideo: