Dros benwythnos olaf mis Chwefror cynhaliwyd gweithdy preswyl diweddaraf prosiect gwych Merched yn Gwneud Miwsig yng ngwersyll Glan Llyn ger Y Bala. Roedd gan Y Selar ddiddordeb mawr mewn gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd dros y penwythnos, felly dyma ofyn i un o’r criw oedd yno, Alis, i egluro mwy am ei phrofiadau hi…
Roeddwn yn teimlo’n reit nerfus cyn cychwyn am y Bala ar bnawn dydd Gwener, Chwefror 25, gan nad oeddwn i’n ‘nabod unrhyw un ar y cwrs Merched yn Gwneud Miwsig, a doeddwn i erioed wedi bod ar gwrs fel hyn o’r blaen.
Hyd yn hyn, ar ben fy hun roeddwn wedi bod yn cyfansoddi a pherfformio ac roedd gweithio efo genod eraill yn mynd i fod yn brofiad newydd ac ychydig yn ddiarth.
Er hynny, unwaith imi droedio drwy’r drws yng Nglan Llyn Isaf ar y p’nawn Gwener hwnnw, a siarad efo Marged Gwenllian, oedd yn trefnu’r cwrs, roeddwn yn rhyw synhwyro mod i’n mynd i hoffi’r profiad.
Ac ymhen ychydig oriau, roeddwn yn adnabod pawb ac wrth fy modd! Fe gawson ni b’nawn o gemau er mwyn dod i ‘nabod ein gilydd, ni fel genod a’r tiwtoriaid, a chael llond trol o hwyl wrth wneud hynny.
Uchafbwynt
Dros y penwythnos, roedd hi’n braf iawn cael cyfarfod pobl newydd o bob rhan o’r Gogledd, pobl oedd yr un fath a fi, yn licio’r un pethau a fi – canu, cyfansoddi, perfformio, recordio ac ati.
Yr uchafbwynt yn bendant oedd cael cyfansoddi cân mewn grŵp o dair a hynny mewn diwrnod ac yna recordio’r traciau a chreu fideo miwsig i gyd-fynd â’r gân.
Gawson ni lot o hwyl yn ffilmio’r fideo yng Nglan Llyn efo Elan Evans, un o’r tiwtoriaid.
Y peth gorau oedd cael dysgu sut mae recordio adref yn hawdd a defnyddio mwy nag un trac wrth wneud hynny.
Roedd hefyd yn braf iawn clywed am brofiadau Branwen o [label recordiau] I KA CHING o ddechrau band ysgol, cyfansoddi a chyhoeddi caneuon.
Roedd hi jest yn braf cael dod i adnabod y tiwtoriaid i gyd – Heledd Watkins, Hanna Lili, Elan a Marged a chael clywed am eu profiadau nhw, sut wnaethon nhw gychwyn ac ati.
“Ewch amdani”
Mi fyddwn i’n bendant yn annog genod eraill i fynd ar gwrs fel hyn am y rheswm syml eich bod chi’n ymlacio, gwneud ffrindiau newydd, ennill hyder a chyfansoddi ar yr un pryd.
‘Da ni gyd fel criw dal mewn cysylltiad. Felly ewch amdani!
Geiriau: Alis Glyn