Morgan a Jacob Elwy’n cydweithio ar sengl 

Mae’r brodyr cerddorol o Lansannan, Morgan a Jacob Elwy, wedi cyfuno ar gyfer eu sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 2 Rhagfyr. 

‘Zion’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddau sydd allan ar y label sy’n cael ei redeg gan Jacob, sef Recordiau Bryn Rock. 

Alaw rock-reggae newydd gan Morgan ydy ‘Zion’ – taith ysbrydol o gadwyni caeth Babylon i giatiau heddychlon Zion. 

Mae’r brodyr yn hen gyfarwydd â chydweithio wrth gwrs gyda Jacob yn ymuno â band Morgan, Trŵbz, yn rheolaidd ar gyfer perfformiadau byw. 

Roedd 2021 yn flwyddyn hynod o brysur i Morgan wrth iddo ryddhau ei albwm cyntaf, ‘Teimlo’r Awen’ ym mis Mai. 

Mae eleni wedi bod ychydig yn dawelach wrth iddo ganolbwyntio ar gigio, ond mae’r sengl ddiweddaraf yn dilyn rhyddhau’r trac ‘Fel Hyn’ fel cywaith gyda’r cynhyrchydd Pen Dub ym mis Medi

I gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl maent hefyd wedi cyhoeddi fideo animeiddiad ar gyfer ‘Zion’ sydd i’w weld ar sianel YouTube Bryn Roc.