Mae Morgan Elwyn wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Sadwrn 10 Medi.
‘Fel Hyn’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Bryn Rock, sef y label sy’n cael ei redeg gan frawd Morgan, Jacob Elwy.
Unwaith eto, mae’r cerddor o Ddyffryn Clwyd wedi cyd-weithio â’r DJ a chynhyrchydd Pen Dub ar y trac diweddaraf yma.
Dyma’r ail dro i Morgan weithio gyda Pen Dub i gynhyrchu trac reggae. Bu i Morgan ymddangos ar y gân ‘Tywysog Ni’ gan Pen Dub a ryddhawyd ym mis Mai 2021.
Mae ‘Fel Hyn’ yn ôl y ddeuawd yn ddathliad o fywyd rhydd y sin reggae a dub Cymraeg gyda Pen Dub yn darparu’r curiad wrth i Morgan ganu ei alawon cryf gyda geiriau a llais unigryw, ond cyfarwydd i ni bellach.
Mae fideo wedi’i gynhyrchu i gyd-fynd â’r sengl newydd ac fe recordiwyd hwn yn ystod parti reggae yn nhafarn Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Fel Hyn’: