Sengl gan y cerddor Geth Vaughan ydy’r diweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o’r gyfres i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
‘Nia’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist a ddaw’n wreiddiol o Ddyffryn Conwy ond sydd bellach wedi’i leoli ym Manceinion.
Mae Geth yn cyfaddef ei fod wedi cael trafferth wrth ysgrifennu trac ar gyfer y casgliad I KA CHING, ond ei fod wedi ffeindio ysbrydoliaeth o fan amlwg ac agos iawn yn y diwedd.
“Cân i fy merch, ydi ‘Nia’”, eglura Geth.
“Ro’n i’n cael trafferth i ‘sgwennu rhywbeth ar gyfer y casgliad oeddwn i’n ei hoffi, ac roeddwn i yn y gegin un diwrnod yn chwarae o gwmpas efo gitâr acwstig y plant yn ceisio hel syniadau.
“Daeth Nia i mewn – sydd fel arfer yn dweud wrtha i fod yn ddistaw – yn gwisgo gwisg tywysoges, tiara a’i gwinedd wedi ei peintio’n bob lliw, ac fe fynnodd ‘mod i’n sgwennu cân iddi, gan fy mod wedi sgwennu cân i Cian fy mab yn y gorffennol, sef ‘Cannwyll’.
“Er mwyn ei chadw hi’n hapus, nes i ddechra’ sgwennu cân gyflym heb lawer o feddwl, ac ar ôl rhyw ddau funud, roedd gen i’r prif ddarnau a geiriau’r pennill gyntaf.
“Ar ôl recordio demo bras, nes i weithio hefo Llŷr Parri, Stiwdio Glan-llyn i gynhyrchu’r gân, gan recordio fy narnau i yn y swyddfa yn Mossley, a fynta’u yn recordio’i ddarnau o (dryms, gitâr ac allweddellau) yn ei stiwdio.”
Mae Geth Vaughan yn un o’r artistiaid mwyaf diweddar i ymuno ag I KA CHING gan ryddhau ei sengl gyntaf ar y label, ‘Patrymau Angel’, ar ddechrau 2020.
Bydd ‘Nia’ yn cael ei chynnwys ymysg y caneuon fydd ar albwm feinyl dwbl sydd allan ar 20 Mai er mwyn nodi pen-blwyddyn label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.