Mae label Recordiau Côsh wedi datblygu stabal gref o artistiaid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae prysurdeb y label wedi parhau ar ddechrau 2022 gyda thriawd o senglau gan ychwanegiad diweddar i’r rhestr, Tara Bandito.
Ac mae enw arall diddorol iawn newydd ymuno â’r label – mae Angel Hotel wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar Côsh penwythnos yma.
‘Superted’ ydy enw sengl Gymraeg gyntaf y grŵp newydd o Gaerdydd, sydd eisoes wedi rhyddhau tair sengl Saesneg yn annibynnol cyn hyn. Bosib iawn y byddai darllenwyr Y Selar wedi methu rhain, ond mae’n llawer mwy tebygol eich bod wedi clywed eu cyfyr ardderchog o glasur y Super Furry Animals, ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’.
Ymddangosodd y trac ar gasgliad elusennol Corona Logic a ryddhawyd fis Mawrth diwethaf gyda’r nod o godi arian at Llamau, sef elusen sy’n mynd i’r afael a digartrefedd ymysg pobl ifanc. Teg dweud bod cyfraniad Angel Hotel yn un ardderchog ac yn rhoi gwedd hollol wahanol i’r trac adnabyddus.
Roedd y prif lais ar y fersiwn newydd o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ yn swnio’n gyfarwydd, a hynny am reswm da gan mai un Siôn Russell Jones ydoedd – cerddor sydd wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ers sawl blwyddyn, ac oedd hefyd yn aelod o’r ddeuawd byrhoedlog ond poblogaidd, Ginge a Cello Boi.
Aelodau eraill y grŵp ydy Carys Elen Jones (bas a llais cefndir), Barnaby Southgate (keytar) a Jordan Dibble (dryms) a bu Siôn yn dweud mwy wrth Y Selar am ei fand newydd.
“Indie-Rock band o Caerdydd [ydy Angel Hotel]. Ni’n defnyddio elfennau o ‘Power-Pop’ gydag ysbrydoliaeth o gerddoriaeth yr wythdegau i greu sain sydd yn unigryw i ni” meddai Siôn.
“Yn ychwanegol, fel arddull, ni’n cymryd elfennau o B-ffilmiau o’r cyfnod hwn a corffori’r steil i fewn i’r caneuon.
“Y syniad oedd i greu cerddoriaeth pop gofiadwy fase ddim yn swnio mas o le yn un o’r ffilmiau o ni’n caru fel plentyn.
“Daeth y band at ei gilydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf pan oedd gen i fwy o amser i ganolbwyntio ar greu prosiect newydd. Mae yna elfen gydweithredol i’r deinamig hefyd gan fod Carys yn gyfrifol am greu’r gwaith celf i’r band sy’n cyfrannu lot i steil gweledol y grŵp.
“Ni’n cal lot fawr o hwyl yn perfformio i bobl a fi’n siŵr bod y bobl sy’n dod i weld ni’n gallu gweud faint ni’n mwynhau.”
Prosiect cyffrous
Wrth reswm, roedd cyfnod y pandemig yn un aruthrol o anodd i’r rhan fwyaf o bobl, ond mae’n debyg y gellir ychwanegu Angel Hotel ar y casgliad o bethau bach mwy cadarnhaol a ddatblygodd o’r sefyllfa.
Mae Siôn yn gerddor amlwg ers sawl blwyddyn bellach ac wedi rhyddhau 2 albwm unigol ynghyd â sawl EP ers y record hir gyntaf ganddo, And Suddenly, a ryddhawyd yn 2010. Yn 2017, arwyddodd y cerddor gyda chwmni cyhoeddi amlwg BDI ac arweiniodd hyn at gynnwys ei gerddoriaeth mewn nifer o gyfresi teledu amlwg.
Mae hefyd wedi perfformio’n helaeth yng Nghymru a dros y byd, gan gynnwys SXSW Texas a Tokyo Rising a bu ar deithiau perfformio yn America, Japan ac Ewrop.
Er hynny, mae’n amlwg yn grediniol mai Angel Hotel ydy un o’r pethau mwyaf cyffrous yn ei yrfa hyd yma

“Mae’r prosiect hwn yn fwy anturus nag unrhyw beth arall dwi wedi cymryd rhan mewn yn y gorffennol. Mae yn esthetig a genre fwy penderfynol ac mae’r sioe fyw yn llawn egni a chyffro.
“Mae yna agwedd hwylus iawn i’r perfformiad sy’n creu profiad cofiadwy i’r gynulleidfa.”
Er ei gyffro ynglŷn â’r prosiect roedd yn amlwg wedi’i synnu rhywfaint â’r ymateb i fersiwn y band o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’.
“Fi’n caru’r gân wreiddiol so odd en lot o hwyl creu teyrnged ein hun i SFA.
“O’n ni ddim yn disgwyl y fath o ymateb a gaethom ni o gwbl. Nes i recordio’r gân yn stiwdio fach fi ac odd e’n brofiad pleserus iawn.”
“Fi dal yn aros am yr alwad wrth Gruff ar bois yn gofyn i ni ymuno nhw ar y daith nesa haha” ychwanega Siôn gyda’i dafod yn ei foch.”
Lluchio’r llwch cosmig
Mae’r grŵp wedi creu argraff mawr mewn byr o dro felly, a hynny heb hyd yn oed ymuno â label hyd yma. Mae hynny ar fin newid wrth iddyn nhw gyhoeddi ddechrau mis Ebrill eu bod wedi ymuno â Côsh, y label bywiog sy’n cael ei redeg gan Yws Gwynedd.
“Mae’r sengl nesa, ’Superted’, yn dod mas ar Recordiau Côsh a ni wrth ein boddau i gal y cyfle i weithio gyda label mor sefydledig yn y sin roc Gymraeg” meddai Siôn.
“Nes i gynhyrchu’r gân ac fe wnaeth fy ffrind Tom Rees, sy’n chwarae yn y grŵp Buzzard Buzzard Buzzard, gymysgu’r trac sydd wedi codi safon y record yn anferthol.

“Mae ganddom ni gasgliad o ganeuon o fideos yn barod i’w rhyddhau felly cynlluniau’r band yn symud ymlaen yw i gario ‘mlaen i berfformio a rhoi tracs newydd mas. Y gobaith yw i rhyddhau albwm llawn yn fuan.”
Newyddion cyffrous felly, a newyddion sy’n siŵr o fod yn fêl ar fysedd Côsh. Saesneg ydy’r mwyafrif o’r traciau ar hyn o bryd yn ôl Siôn ond gyda thair neu bedair yn y Gymraeg a chwpl o rai dwyieithog hefyd.
Ar ôl rhyddhau cyfres o senglau’n annibynnol, pam felly penderfynu mai nawr oedd yr amser i ymuno â label?
“Fi wastad wedi edmygu’r gwaith ma Recordiau Côsh wedi rhoi mas” eglura Siôn.
“Maen nhw’n label gweladwy iawn ar y sin roc Gymraeg ac ar ôl estyn allan atyn nhw gyda’r gerddoriaeth newydd, o’n i wrth fy modd i glywed bod yna ddiddordeb i weithio gyda ni.
“Ma fe’n help mawr i gal tîm o bobl i weithio gyda, rhannu syniadau a gwybodaeth efo nhw ac i drafod cynlluniau nesa.
“Ar hyn o bryd, ni am weld siwd ma sengl newydd ni’n neud ac wedyn asesu’r cynnydd. Ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr i fod yn gweithio gydag Yws Gwynedd a’r tîm.”
“Mae Superted yn gân freuddwydiol, felancolaidd sy’n trafod teimladau o golled a hiraeth” eglura Siôn am y sengl newydd.
“Mae’n llawn themâu o ‘nostalgia’ sy’n teimlo’n arallfydol ar adega. ‘Ry ni wedi rhoi ymgais ar ochr fwy teimladwy i’n hysgrifennu gyda’n cân Gymraeg gyntaf, ynghyd ag awgrymiadau o obaith mewn rhywbeth cyfarwydd”.
Cwrdd â’r band
Siôn ydy’r prif egni tu ôl i Angel Hotel, ond mae wedi llwyddo i ddenu cerddorion dawnus i ymuno â’r prosiect sydd heb os â chyfraniad amlwg i’r sŵn a delwedd maen nhw’n creu.

Jordan Dibble sy’n dod yn wreiddiol o ardal Port Talbot ydy’r drymiwr. Efallai bydd rhai’n gyfarwydd â Jordan fel aelod o’r grŵp gwerin No Good Boyo, sydd wedi llwyddo i ddal y sylw dros y blynyddoedd diwethaf gyda’u sioeau bywiog sydd wedi eu gweld yn derbyn gwahoddiadau i berfformio ar draws Ewrop, gan gynnwys yng ngŵyl enwog Lorient yn Llydaw.
“Mae Jordan yn ddrymiwr uchel ei barch sydd yn cyfrannu steil creadigol a pwerus sydd yn cynnig lot i sain y band” meddai Siôn.
Barny Southgate sy’n chwarae’r Keytar yn y band – sef offeryn sydd, fel mae’r enw’n awgrymu, yn gymysgedd o gitâr ac allweddellau. Mae Barny wedi astudio’n ddyfal fel pianydd ac yn aelod o’r band o’r dechrau’n deg. Mae hefyd wedi gweithio fel Cynhyrchydd Cerddorol ar sioeau cerdd yn y West End yn Llundain. Mae’n dod yn wreiddiol o Rydychen, ond penderfynodd i aros yng Nghymru ar ôl symud yma’n wreiddiol i weithio.
Carys Elen Jones ydy’r darn olaf o jig-sô Angel Hotel ar y bas, a hefyd yn canu. Astudiodd Carys fel arlynydd a chwblhau gradd meistr mewn celf gain…sy’n sgil ychwanegol defnyddiol iawn i’r grŵp, fel yr eglura Siôn.
“Carys sydd yn gyfrifol am cloriau ac unrhyw waith celf y grŵp yn ogystal â chwarae’r bass a chanu.
“Yn wreiddiol o ardal Llandeilo, mae Carys yn dod o deulu creadigol a cherddorol iawn.”
Bydd ambell gyfle i weld y band yn perfformio’n fyw dros y misoedd nesaf. Bydd eu gig nesaf yn Porter’s, Caerdydd ar 22 Ebrill.
Bydd cyfleoedd hefyd i’w gweld yn perfformio mewn nifer o wyliau gan gynnwys All Roads Festival, Glastonbury (29 Ebrill – 1 Mai), Gŵyl Devauden 20-21 Mai, a Trufest yn y Gelli Gandryll (19-22 Awst). Ac yn ôl Siôn bydd mwy o gigs yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Yn y cyfamser, mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ‘Superted’ i ni fwynhau, wedi’i gyfarwyddo gan Rhys Davies.
Geiriau: Owain Schiavone
Lluniau: Sam Ffoto