Papur Wal – Cyfweliad Estynedig

Papur Wal oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar eleni, yn cipio hatric o wobrau, Cân Orau, Record Hir Orau a Band Gorau. Does dim dwywaith iddynt gael clincar o flwyddyn yn 2021 – dyma fersiwn estynedig o gyfweliad Gwilym Dwyfor gyda nhw yn rhifyn diweddaraf Y Selar.  

 

Dydd Sadwrn glawog mewn caffi yn Grangetown (sydd bellach wedi cau) oedd hi, un heb lyfiad o baent na phapur ar y wal, yn eironig braidd. Daeth Ianto, Guto a Gwion i mewn ac mae un ohonynt yn archebu coffi dwi erioed wedi clywed amdano o’r blaen ond trwy lwc, mae o ar gael. A dyna i chi’r Papur Wal y des i’w hadnabod dros yr awr wedyn hefyd; cŵl, soffistigedig, ’chdyig bach yn wahanol ond yn ddiddorol ac yn cynhesu’r enaid ar fore oer. Megis cortado.

Dwi’n llongyfarch yr hogia’ ar yr albwm anhygoel, Amser Mynd Adra, ac mae Gwion yn egluro bod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn, “Mae o’n brofiad newydd i ni gweld pobl yn canu’n caneuon ni yn y crowd. Ac mae hynny’n rili cŵl, pan ti’n ei gael o’r tro cynta’.”

Gydag Ianto bellach, fel Guto, yn byw yn ôl yn y gogledd wedi dyddiau Prifysgol yng Nghaerdydd, mae ystyr eithaf llythrennol a phroffwydol i’r albwm. Ond mae Amser Mynd Adra yn golygu llawer mwy na hynny, gyda’r casgliad yn ymdrin â newid yn fwy cyffredinol a gorfod tyfu i fyny ar ôl bywyd sdiwdants.

“Oeddan ni wedi meddwl am deitl o un o’r caneuon ond dwi’m yn meddwl bod yna un gân sydd yn cynrychioli’r albwm i gyd, dim title track mewn ffordd,” meddai Guto cyn i Ianto barhau; “Odd o’n albwm lle oeddan ni’n awyddus i ddangos yr ystod o genres oeddan ni’n licio. Er eu bod nhw’n ffitio efo’i gilydd doedd na’m un yn sefyll allan fel teitl. Ma’ ‘amsar mynd adra’ yn sawl peth dydi, pan ti’n mynd i pyb ond ddim yn mynd i dre wedyn, ma’ stwff fel’na yn digwydd yn amlach ac amlach fel ti’n mynd yn hŷn.”

Mae’n gofnod arbennig o ddatblygiad sŵn y band hefyd. Rydan ni yn Y Selar wedi dilyn Papur Wal ers ei dyddiau fel 3-piece ifanc yn chwarae slacyr lo-fi eithaf amrwd ond mae’r sain wedi datblygu yn blethwaith o roc ysgafn gydag elfennau o bop melodig, sŵn llawnach.

“Mae o’n fwy refined, yn fwy pendant,” cytuna Ianto. “Oeddan ni’n gwbod lle oeddan ni isho mynd. Mae yna lot o fandiau sydd yn mynd o gwmpas am dipyn, yn rhyddhau lot o senglau ac EP’s, yn mynd ar hyd y siop yn trio ffendio be’ ma’ nhw isho’i neud ac yn gneud rwbath hollol wahanol ar albwm. Oeddan ni reit falch bod ni heb frysio i mewn i’r peth a dangos hannar un peth a hannar rwbath arall. Wedyn oedd gynnon ni ddeg can oedd yn ffitio efo’i gilydd ac yn ffitio’r cyfeiriad oeddan ni isho mynd iddo fo. Ti’n gweld bands yn treulio sawl albwm yn trio ffendio hynny felly dwi reit hapus.”

Ianto a oedd yn gyrru’r dylanwadau 90au i ddechrau ond ar ôl rhyddhau’r senglau ‘Meddwl am Hi’ a  ‘Piper Malibu’ roedd y tri’n gytûn mai hwnnw oedd y cyfeiriad newydd. 

“Mae o’n cymryd amsar i rywun ffendio’i hun,” meddai Guto “Dio’m yn digwydd yn syth. A munud ti’n mynd i mewn i greu miwsig, ti’n dechra gwrando ar fiwsig mewn ffordd wahanol. ’Da ni efo dylanwada hollol amrywiol ac yn y diwadd mi wnaethon ni wyro at y stwff yma achos ein bod ni’n licio fo!”

Prysura’r tri i egluro y bydd y stwff nesaf fymryn yn wahanol eto. Gydag Ellis (Mellt) bellach yn rhan o’r band byw, fe all hynny roi mwy o ryddid iddynt wrth ysgrifennu yn y dyfodol. “Ti’m yn gorfod meddwl gymaint, ydi hyn yn mynd i weithio’n live,” eglura Gwion.

‘Meddwl am Hi’ yw’r gân hynaf af yr albwm a gellir ystyried honno’n bont rhwng yr hen ddeunydd a’r stwff newydd. Honno a ‘Piper Malibu’, sydd ddim ar yr albwm, oedd senglau cyntaf y newid cyfeiriad ond cafodd sawl cân arall eu hysgrifennu mewn cyfnod trawsnewidiol i’r band.

“Odd yna lot o ganeuon yn y batch yna oedd ddim cweit yna,” cyfaddefa Ianto. “Naethon ni ddatblygu lot yn ystod y lockdown. Os fysan ni wedi rhoi albwm allan heb y lockdown fysa fo wedi swnio’n wahanol iawn a lot gwaeth hefyd mashwr! Pan ti’n clywad am fandia’n recordio albwm, y prif beth mae cynhyrchwyr yn ei ddeud ydi cario ’mlaen i sgwennu tra ti’n y stiwdio.”

“Fyswn i’n deud bod tua hanner yr albwm wedi dod i’r fei yn hwyr iawn yn y broses recordio. A lot o’r rheiny ydi’r caneuon cryfa’,” meddai Gwion.

Un o’r caneuon cryf hynny sydd â stori dda yn gefndir iddi yw ‘Andrea a Fi’ a dwi’n perswadio Ianto i’w dweud hi eto.

Basically, nath ’na foi o’r enw Andrea Avi ffendio fy mag i a sgwennu ryw boems yn fy notebook i. Dwi wedi trio adio fo ar Facebook ers hynny.” Aiff ymlaen i egluro sut y gwnaeth cydweithiwr iddo gyfieithu’r geiriau, er nad yw’n siŵr erbyn hyn os ydynt yn gwneud llawer o synnwyr! “Ma’ ‘na ’chydig o artistic license yna i neud o swnio’n dda.”

“Ella mai dyna pam mae o wedi anwybyddu dy friend request di!” tynna Guto ei goes cyn i’r tri chwerthin yn iach.

Ymddengys mai ‘Llyn Llawenydd’ sydd wedi apelio fwyaf at bobl y tu allan i fanbase arferol y band a Gwion sy’n cynnig eglurhad. “Mae hi jysd yn hawdd gwrando arni o’r gwrandawiad cyntaf dwi’n meddwl, yn fwy poppy na rhai o’r lleill.”

“Ma’ ‘na ddatblygiad da o un pennill i’r llall,” ychwanega Ianto. “Weithia ma’n anodd cyflawni be’ ti isho’i neud yn berffaith ond efo honna nathon ni stymblo ar syniad da a nath o’i gyd sticio. O’n i ’di sgwennu ’chydig ohoni a Gwi ’di sgwennu ’chydig ac yn digwydd bod odd o’n mynd  efo’i gilydd. Ffodus rili.”

Cân arall sy’n sefyll allan yw ‘Penblywdd Hapus’, sef cân i gynhyrchydd yr albwm, Kris Jenkins. Mae Jenkins wedi gweithio gyda mawrion fel y Furries yn y gorffennol ac yn fwy diweddar gyda Los Blancos, Y Dail a Zabrinski. Ceir yr argraff ei fod yn uffar o foi iawn ac yn trochi ei hun yn llwyr yn y broses recordio.

“Pan ti’n mynd i recordio efo Kris, yn amlwg mae o’n grêt o producer, ond ti’n mynd am y profiad hefyd,” eglura Gwion. “Mae o’n fwy na jest y recordio, ti’n mynd am y bwyd, ma’r boi’n top chef ac yn hilarious hefyd. Fysa fo’n gallu sgwennu uffar o hunangofiant…”

“Fysa fo ddim yn cofio hannar y storis!” meddai Ianto. “Ond o ddifri, mae o’n immerse-io ei hun yn llawn. Ma’n cymryd dipyn i hynna ddigwydd. Adag yr EP, Lle yn y byd Mae Hyn?, oeddan ni’n fengach a ddim yn nabod o gystal. Erbyn y stwff diweddara’ ’ma oedd o’n cal mwy a mwy i mewn iddo fo. Mae o bob tro yn cyfrannu a deud be’ mae o’n ei feddwl, heb fod yn overbearing.”

Pry ar y Papur Wal?

Amhosib anwybyddu’r Beatles fel dylanwad mawr ar Papur Wal a dwi’n gwneud y camgymeriad o grybwyll y gyfres ddogfen ddiweddar, Get Back, wrth yr hogia’! Mae eu llygaid yn goleuo ac wedi deg munud o drafodaeth angerddol dwi’n llwyddo i lywio’r sgwrs yn ôl atyn nhw trwy eu holi sut fyddai rhaglen ddogfen am recordio Amser Mynd Adra yn edrych pe bai ’na un yn dod i’r fei mewn hanner can mlynedd?

“Lot o falu cachu am fwyd a ballu,” meddai Guto. “’Di John a Paul byth yn gas efo’i gilydd. Fysa ni’n lot casach a fysa ’na lot fwy o regi!”

Cytuna Gwion, “Ia, lot o falu cachu, dim byd o werth. Ma’ nhw reit diplomatic yn y ffordd ’ma nhw’n trafod syniadau.”

Un peth sy’n cysylltu’r ddau fand yw delwedd gref. Mae’r hogia’ wedi edrych yn siarp yn eu siwtiau mewn sioeau byw diweddar ac wedi gwneud toman o fideos gwych gyda pobl fel Billy Bagihole a Sam Stevens.

“’Da ni jysd yn licio gneud petha’ outlandish gwirion yn fwy na dim byd,” meddai Ianto. “Dwi’m yn meddwl ein bod ni’n meddwl gormod am ein delwedd wrth neud o.”

Eglura Gwion a Guto mai mater o fod yn greadigol a chadw’u hunain yn brysur gyda phethau difyr a doniol y tu hwnt i’r miwsig yw’r fideos a’r siwtiau, a gafwyd yn rhad o siop rentu a oedd yn cau’n barhaol! Mae’r fideos yn sicr yn ddoniol ac yn ddifyr, yn enwedig i rywun sydd yn byw yng Nghaerdydd gan eu bod yn gofnod o gyfnod penodol mewn ardaloedd gwahanol o’r brifddinas.

Yr enghraifft orau efallai yw fideo gwych ‘Piper Malibu’ ble y cafodd “Gabalfa ei foment yn yr haul” chwedl Gwion. “Ma’ ’na byb o’r enw’r Master Gunner yno ac oeddan nhw’n surprised iawn i weld rhywun o’r tu allan. Oedd o ’chydig bach fel bod ni wedi dod o Mars neu wbath, efo’n camerâu a’n gitars! Ma’ rhai o’r locals yn y fideo a tra oeddan ni’n ffilmio oeddan nhw’n cymryd eu tro yn trio cal ni i chwerthin efo jôcs hen ddyn. Oedd ’na hogia’ ifanc efo trackies a BMX yn sgrechian yn trio sbwylio’r shot hefyd ond doeddan ni’m yn defnyddio’r audio pryn bynnag!”

Fideo mwy diweddar yw un ‘Brychni Haul’ ac mae hwnnw’n sicr yn gofnod o gyfnod covid wrth i ni weld yr hogia’n ymlacio gyda chriw o ffrindiau, nid mewn tafarn ond mewn parc. Mae’r cerddorion sydd i’w gweld yno yn pwysleisio dau beth; fod Papur Wal yn rhan o genhedlaeth aur o fandiau yng Nghaerdydd ar y pryd ond eu bod hefyd yn cyd-dynnu ac yn ymddangos fel eu bod i gyd yn ffrinidau da, sydd yn groes i’r ddelwedd arferol fod bandiau ddim yn hoff o’i gilydd. 

“Oeddan ni’n ffrindia’ cynt ac wedi gneud bandia’ wedyn ydan ni,” eglura Gwion. “’Blaw am Mellt wrth gwrs sydd yn mynd ers pan oeddan nhw’n 10 oed neu wbath. Mae o’n ddiddorol achos ’da ni ’di bod yn deud bod ’na’m digon o ffraeo’n digwydd yn y sin ac isho cychwyn beefs! O’r tu allan mashwr ei fod o’n edrych fel ‘ylwch y bandia’ ’ma i gyd yn hangio allan efo’i gilydd, yli dweebs!’”

Cytuna Ianto; “Ma’ bands yn dueddol o slagio bands arall off ond i ni, ’da ni’n fêts efo’n gilydd tu allan i’r sin.”

Tyfu

Mae rhai o’r ffrindiau hynny bellach wedi ymuno â lein-yp byw Papur Wal gyda Lewys (Yr Eira) a Gwyn (Los Blancos) yn ogystal ag Ellis yn chwarae yn y gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach yn ôl yn yr Hydref.

“Oedd gynnon ni o leia’ dwy gitâr ar bob trac ar y record yn y diwadd,” eglura Gwion. “Oeddan ni’n cadw llygad ar y peth ac mi fedran ni dal chwara’r caneuon i gyd, bron, efo tri, ond ma’ nhw’n swnio’n well efo mwy. Yn enwedig ar y pryd, efo covid, oeddan ni’n meddwl pwy a ŵyr pryd ma’r gig nesa’ yn dod felly be’ ’di pwynt ei gyfyngu fo i sŵn byw.”

Mae hynny’n agor posibiliadau cerddorol wrth recordio yn y dyfodol er nad oes bwriad i newid strwythur sylfaenol y band. “Y tri ohonan ni fydd yn sgwennu felly ni fydd Papur Wal fel’na,” cadarnha Ianto cyn i Gwion ymhelaethu. “Ma’ ganddyn nhw eu commitments eu hunain efo’i bandia’ nhw felly mashwr ein bod ni’n fwy invested. Ond dio’m yn wbath ’da ni wedi’i drafod cymaint â hynny, fyswn i’n sicr yn agored iddo fo.”

O edrych i’r dyfodol at edrych i’r gorffennol, ail weithio un o’u caneuon cynharaf yw bwriad nesaf y band wrth ryddhau ‘Anghofio dy Hun’ sef cân a roddwyd ar Soundclud tua phum mlynedd yn ôl. “Peidiwch â gwrando ar y fersiwn yna,” rhybuddia Guto. “Ma’n swnio fel ei fod o wedi’i recordio mewn bath!”

“Ond ma’n good tune,” pwysleisia Ianto, “ma’r structure yn funny, bach dros bob man, ond mai’n gân dda tu hwnt i hynny so ’da ni am ail weithio hi a mynd i stiwdio i recordio hi.”

Gigio

Os oedd gorfod rhoi gorau i gigio am ran helaeth o’r ddwy flynedd ddiwethaf yn sioc i system unrhyw un, fel band a oedd yn chwarae bob yn ail benwythnos fwy neu lai, teg dweud i’r cyfyngiadau effeithio Papur Wal. Ond, nid o angenrheidrwydd mewn ffordd ddrwg fel yr eglura Guto.

“Oedd o’n braf stopio! Nathon ni wneud blwyddyn solid o gymryd bob gig oeddan ni’n cael ei gynnig ac wrth neud hynny ti’n ffeindio be’ sy’n gweithio a be’ sy’ ddim. Oedd o’n bwysig ein bod ni wedi gneud hynny, ond odd o’n braf arafu ia.”

Cytuna Ianto. “Dwi’m yn meddwl odd o’n bosib i ni ddatblygu ein hunan fel cerddorion a songwriters heb stopio. Oeddan ni angan excuse felly pan ddath y pandemig nathon ni roi ein hegni i gyd i mewn i sgwennu a dyna sut nathon ni gyfansoddi’r caneuon ar yr albwm. Felly oedd o’n fendith mewn ffordd.”

Roedd bod ar wahân yn her ymarferol i rai cerddorion ond roedd Ianto a Gwion yn ffodus eu bod yn byw gyda’i gilydd pryn bynnag. Ac er bod Guto adref yn y Felinheli fe wnaeth y sefyllfa ei orfodi ef a’r lleill i ddatblygu sgiliau cynhyrchu a oedd wedyn yn dwyn ffrwyth wrth iddynt fynd i’r stiwdio.

Llaciodd y cyfyngiadau yn ddigonol iddynt gael lansio’r albwm yn swyddogol a gigio tipyn yn y diwedd. Ond yn gyffredinol maent yn fwy detholgar erbyn hyn o ran eu perfformiadau byw fel yr eglura Ianto. “’Da ni’n fwy gofalus efo be’ ’da ni’n ei dderbyn achos ’da ni’m yn gallu derbyn bod dim rŵan efo gwaith a phawb yn byw ar wahân. Matar o ddewis a dethol gigs tra’n cario ’mlaen i sgwennu, dyna di’r plan.”

Newyddion da i ffans Papur Wal. Ac fel un o’r ffans hynny, rhaid oedd cloi gyda’r cwestiwn hwn. Un o’r gigs mwyaf random i mi fod ynddi erioed oedd Papur Wal mewn selar caffi yn Budapest ar drip Wêls Awê. Ydi chwarae dramor yn rhywbeth yr hoffai’r hogia’ wneud mwy ohono yn y dyfodol?

“Oedd ’na ryw hannar sôn am drip Cymru arall ond nath o ddim cweit digwydd,” eglura Gwion. “Oeddan ni reit lwcus efo’r un Hwngari ’na. Oeddan nhw’n trio setio’r gig ’ma i fyny a ’di gofyn i Lewys a Gwyn am Yr Eira a Los Blancos ond dim ond nhw’i dau o’r bandiau oedd yn mynd. Oeddan ni i gyd yn digwydd bod yn mynd ar Wêls Awê enwie, felly ni oedd y trydydd dewis! Efo Brexit rŵan, ma’n wbath sy’n anoddach i’w wneud, ti’n gorfod cal ryw leisans sy’n costio bom.”

“Fysan ni wrth ein bodda chwara dramor eto,” ychwanega Guto, er bod ganddo un amod! “Fysa fo’n wbath da i neud eto ar drip awê ond ar y noson gynta’ neu’r ail ella, ddim fflipin pum noson i mewn i’r trip! Ond… fyswn i’n ei neud o’i gyd eto.”

Dyma seiswn arbennig Papur Wal ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni:

 

Geiriau: Gwilym Dwyfor

Lluniau: @Samffoto