Pedair yn rhyddhau eu halbwm cyntaf

Mae’r grŵp sy’n cynnwys rhai o gerddorion benywaidd amlycaf Cymru, wedi ryddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 7 Gorffennaf. 

‘Mae ‘na Olau’ ydy enw record hir gyntaf Pedair sy’n cynnwys talentau Siân James, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard. 

Daeth yr aelodau ynghyd gyntaf bum mlynedd yn ôl ar gyfer gig arbennig yn Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. 

Yn ôl y grŵp, mae eu halbwm cyntaf yn ddarn o waith sy’n crisialu eu teimladau, eu profiadau a’u dyheadau wrth iddyn nhw werthfawrogi rhai o bethau pwysig bywyd – y byd o’n cwmpas, iaith a thraddodiad, cyfeillgarwch a gobaith.

Caneuon y cyfnod clo

Mae’r albwm yn ddilyniant i gyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau gan Pedair ers mynd ati i recordio gyntaf yn ystod y cyfnod clo yn 2020. 

Mae’r bum cân a recordiwyd ganddynt yn eu cartrefi dros y cyfnod clo wedi eu cynnwys ar yr albwm ac mae’r gweddill yn ganeuon sydd wedi tyfu a ffurfio dros y flwyddyn ddiwethaf, y cyfan yn dod ynghyd i greu cyfanwaith sy’n gyfuniad perffaith o’r gwerin a’r gwreiddiol ac yn arddangos eu doniau fel chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin a’u crefft fel cantorion-gyfansoddwyr medrus. 

Drwy seiniau’r lleisiau, y gitârs, y telynau, y piano, yr acordion a’r organ geg, maent yn rhoi bywyd newydd i ganeuon gwerin cyfarwydd ac anghyfarwydd, tra ar yr un pryd cawn ganddynt brofiadau oesol ar ffurf newydd sbon. 

Mae’r brodyr Aled Wyn Hughes a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) wedi cyfrannu at y recordiadau ar y bas a’r drymiau gan helpu dod a’r hen a’r newydd, y cyfoes a’r traddodiadol yn un i greu llais unigryw y bedair.

Canu clodydd y cynhyrchydd

Aled Wyn Hughes sydd wedi cyd-gynhyrchu’r albwm gyda’r aelodau hefyd, ac mae’r grŵp yn dweud bod ei gyfraniad wedi bod yn hollol ganolog i’r record. 

“Rydw i wedi cael y pleser o weithio efo Pedair o’r cychwyn” meddai Aled.  

“Mae eu gallu a’u dyfeisgarwch wrth greu cyfanweithiau drwy gyfuno amrywiol agweddau o gerddoriaeth werin a thraddodiadol yn rhyfeddol.”  

Mae tair cân ar ddeg ar yr albwm i gyd, gydag wyth trac newydd a recordiwyd yn Stiwdio Sain rhwng Medi 2021 ac Ebrill 2022 yn cael eu hychwanegu at y bump a recordiwyd ar wahân yn ystod y cyfnod clo.  

Mae ymdeimlad cryf o Gymreictod yn llifo drwy’r albwm a thrac teitl yr albwm, ‘Mae ’na Olau’, yn myfyrio ar ddyfodiad posib y Mab Darogan chwedlonol tra’n archwilio’r posibilrwydd mai merch fydd, efallai, yn goleuo’r ffordd i ni. Yn yr un modd mae curiad cyson y gân ‘Iaith’ yn dathlu’r ffaith bod y Gymraeg yn parhau i fod yn rhan annatod o galon ein cenedl, a seiniau cyfareddol ac oesol ‘Dawns y Delyn’ yn foliant i’r delyn ac i Gymru a’i phobol. 

Mae ‘Philomela’ yn gân werin hynafol, ei geiriau yn dyddio o’r 17eg ganrif a’r cyfeiriadau at y duwiau Groegaidd wrth ddisgrifio adar yr ardd yn ei gwneud yn anghyffredin o apelgar tra mae’r shanti ‘Teg oedd yr Awel’ yn mawrygu’r llong enwog, llawn rhamant Cymreig y môr, Fflat Huw Puw. Hiwmor a llais y ferch ddaw i’r amlwg yn ‘Cân y Sbif’ a ‘Marged Fwyn’ a chariad mam sy’n llifo drwy ‘Siwgwr Gwyn’.

Mae ‘Mae ‘na Olau’  allan yn ddigidol ac ar CD trwy label Recordiau Sain.