Bydd criw o bobl sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith Gymraeg yn rhannol diolch i’w cariad tuag at y grŵp Datblygu yn cynnal penwythnos preswyl arbennig ym mis Mehefin eleni.
Sefydlwyd grŵp Facebook ‘Datblygu Your Welsh’ ar ddiwedd 2021 gan griw bach oedd wedi’u hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth y grŵp o Aberteifi.
Nawr, mae rhai aelodau wedi penderfynu mynd ati i drefnu digwyddiad ar 3-5 Mehefin yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, gyda’r nod o ddiolch i Datblygu am gyflwyno’r iaith Gymraeg i ddysgwyr neu siaradwyr newydd.
Mae dyddiad y penwythnos yn arwyddocaol gan fod mis Mehefin yn nodi blwyddyn ers y bu farw prif ganwr chwedlonol y grŵp, David R. Edwards. Bydd nifer o gyfeillion agosaf David, gan gynnwys ei gyd aelod o Datblygu, Pat Morgan, yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Prif drefnydd Penwythnos Diolch Datblygu ydy Marcus Whitfield sy’n egluro bod y digwyddiad ym mis Mehefin yn rhan o gyfres o benwythnosau sydd ar y gweill i gyflwyno’r diwylliant Cymraeg a chodi hyder siaradwyr newydd.
“Ry’ ni’n gobeithio bydd trawstoriad da o bobl sy’n dysgu yn ogystal â siaradwyr Cymraeg yn dod i’r penwythnos a phwy â wyr, rhai sy’ erioed wedi clywed cerddoriaeth Datblygu o’r blaen” meddai Marcus wrth Y Selar.
“Ar y nos Wener bydd Emyr o gwmni Ankst yn cynnal noson ffilmiau, pnawn dydd Sadwrn bydd yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Pat Morgan, cyd aelod o’r grŵp ac yn y nos mi fydd gig Datblygu. Ar y dydd Sul mi fydd Malcolm Gwyon yn arwain taith o gwmpas hoff fannau Dave yn Aberteifi.”
Mae Marcus yn amlwg yn falch iawn o gael rhai o gyfeillion agosáu David, sydd hefyd wedi bod mor allweddol yn hanes Datblygu, i gymryd rhan. Bydd y grŵp Hap a Damwain hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn meddai.
Yn ôl Marcus mae cerddoriaeth yn gallu dylanwadu’n drwm ar bobl ac mae geiriau caneuon Datblygu wedi ysbrydoli llawer o bobl i ddysgu’r Gymraeg.
“Dw i’n meddwl bod pobl yn hoffi sŵn y gerddoriaeth ac felly’n cael eu hudo mewn i’r geiriau” eglura.
“Mae nifer o’r caneuon hefyd yn eitha’ araf, felly mae hyn yn help mawr i ddysgwyr.
“Nid caneuon ‘neis neis’ yw’r caneuon yn bennaf a dw i’n meddwl bod yr agwedd mae’r grŵp yn cyfleu yn apelio hefyd at deip gwahanol o bobl.”
“Dw i wedi edrych ar lawer o gyfweliadau gan Datblygu ac mae Dave yn dipyn o arwr achos ei fod yn ysgrifennu am y darnau tywyllaf o fyw yng Nghymru, dweud llawer o wirionedd am y bywyd Cymraeg a Chymreig. Daeth hyn â rhywbeth newydd i’r sîn roc yng Nghymru… felly Diolch Datblygu!”
Mae modd bwcio lle ar Benwythnos Diolch Datblygu trwy ebostio – contactpaned@gmail.com. Os nad ydy pobl eisiau neu’n gallu mynd i’r penwythnos cyfan yna mae modd mynd i’r digwyddiadau unigol yn ystod y penwythnos hefyd.