Mae Thallo wedi rhyddhau sengl newydd ynghyd â datgelu manylion am EP sydd ar y ffordd.
‘Pluo’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Thallo, sef prosiect y gantores dalentog, Elin Edwards.
Wrth ryddhau’r sengl mae ei label Thallo, sef Recordiau Côsh, hefyd wedi cyhoeddi bydd EP dwyieithog Thallo, ‘Crescent’, yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref.
Mae’r sengl newydd wedi’i ysbrydoli gan destun unigryw, ac un hynod bersonol i’r artist sef ansymudedd.
Ar y sengl newydd ‘Pluo’, mae Thallo yn arddangos ei sain unigryw, un sy’n cydio, yn arallfydol, ac yn aml-offerynnol, yn gyfuniad o ‘bedroom pop‘ a ‘dream pop‘ gyda cyffyrddiadau o jazz cynnil ac elfennau clasurol cyfoes, sy’n creu naws synfyfyriol tra hefyd yn hollol swynol.
Clo personol
Wedi’i ysbrydoli gan effeithiau salwch sydyn a ddioddefodd Thallo yn 2020 a achosodd boen cronig yn ei phen-gliniau a phroblemau symudedd, mae Pluo yn cyffwrdd â’r boen ryfedd o wylio’r byd yn dychwelyd i normal ar ôl y clo, tra bod Elin yn gaeth yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “fy nghlo personol fy hun.”
“Roeddwn i’n teimlo mor sownd, yn methu â dychwelyd i fy mywyd normal” meddai’r gantores.
“Ond yn bennaf oll, gwaedd o ofn yw’r gân am yr unigrwydd a’r anobaith o gael eich gadael ar ôl tra bod pawb arall yn symud ymlaen.”
Fideo tywyll
I gyd-fynd â’r sengl mae Lŵp, S4C wedi cynhyrchu fideo ar gyfer y trac sydd wedi cael ei ysbrydoli gan y genre ffilm arswyd seicolegol ac wedi ei saethu yn y man hela ysbrydion poblogaidd Ysbyty Bron y Garth, cyn wyrcws/ysbyty o’r 1800au sydd bellach wedi’i adael yn wag ac wedi rhewi mewn amser.
“Mae’r lleoliad yn adlewyrchu geiriau Pluo’ o deimlo’n sownd ac yn dirywio” eglurodd Elin.
Mae’r fideo’n dangos Thallo’n deffro mewn bath llawn gwaed ar lawr yr ysbyty, ac yr hyn sy’n dilyn yw brwydr i ddianc o’r adeilad adfeiliedig, yn frith o ddelweddau iasol ac ôl-fflachiau arswydus sy’n arwain at y sylweddoliad ar ddiwedd y fideo – bod Thallo mewn gwirionedd wedi marw ac yn gaeth mewn purdan.
Mae ‘Pluo’ yn un o dri thrac fydd yn ymddangos ar yr EP newydd gan Thallo sydd allan ar ddiwedd mis Hydref – ‘Carry Me’ a ‘Crescent’ ydy’r ddau drac arall.
Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards o Wynedd ond sy’n byw erbyn hyn yn Llundain yw Thallo.
Cafodd ei EP a’u senglau cyntaf dderbyniad gwych, yn arbennig ‘Mêl’, ‘Pressed and Preserved’ a ‘The Water’ o 2021, ac yn fwy diweddar ‘Carry Me’ a ryddhawyd yn gynharach eleni.
Dyma’r fideo:
Llun: Anxious Film Club