Kizzy Crawford fydd yr artist diweddaraf i gyd-weithio gydag Ynyr Roberts fel rhan o brosiect cerddorol newydd y cerddor profiadol.
Popeth ydy enw’r prosiect newydd ganddo sydd â phwyslais ar gydweithio gydag artistiaid eraill i gynhyrchu pop Cymraeg.
Mae’n broject blaengar a chynhwysol â’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am bop disglair a phositif.
Ail sengl Popeth
‘Newid’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Popeth sydd allan ddydd Gwener yma, 2 Medi.
Dyma ail sengl y prosiect yn dilyn ‘Golau’ a ryddhawyd fis Gorffennaf ac oedd yn tynnu ar ddoniau lleisiol Martha Grug o Gaerdydd.
Mae Ynyr wrth gwrs yn enw cyfarwydd fel aelod o’r band Brigyn gyda’i frawd Eurig, ac roedd y ddau cyn hynny’n aelodau o’r band ysgol Epitaff.
Mae wedi symud i gyfeiriad ychydig yn wahanol gyda Popeth ond yn teimlo fod bwlch i’w lenwi yn y sin Gymreg gan ei bod yn gyfnod hir ers dyddiau ‘electro-pop-perffaith’ yng Nghymru – y don o grwpiau oedd yn cynnwys Mega, Pheena a Clinigol.
“Mae popeth yn hwyl”
“Dwi’n caru cerddoriaeth o bob math, ac yn teimlo mod i wastad ar drywydd yn fy mywyd i gyfansoddi a chreu” meddai Ynyr.
“Dwi wedi bod yn ffan o gerddoriaeth pop erioed. Wrth fy ngwaith bob dydd, fel dylunydd graffeg, dwi’n teimlo bod perthynas rhwng sŵn cerddoriaeth fel Scandi-Pop ag ‘aesthetics’ cywrain sydd ei angen i gyflawni gwaith graffeg.
“Y gwahaniaeth mawr rhwng nifer o ganeuon dwi wedi eu cyfansoddi yn y gorffennol a chaneuon newydd Popeth, yw fy mod wedi cyfansoddi pob un o’r caneuon y byddaf yn eu rhyddhau eleni ar allweddell yn hytrach na gitâr neu offeryn gwerinol. Mae camu o’r ‘comfort zone’ i ddechrau ar antur gerddorol newydd yn gyffrous iawn. Mae popeth yn hwyl!”
Kizzy Crawford, y cerddor amryddawn ac un o artistiaid mwyaf blaengar a chynhyrchiol cerddoriaeth Gymraeg, ydy gwestai diweddaraf Ynyr ar ei daith ac mae addewid o gyfraniadau gan artistiaid fel Shamoniks a Lewis Owen (@Bendigaydfran), ar y caneuon i’w rhyddhau cyn diwedd y flwyddyn mae Popeth yn ei le am hydref prysur.
Dyma sengl gyntaf Popeth, ‘Golau’ gyda Martha Grug: