Profiad go iawn yn ysgogi trac Lisa Pedrick 

Gyda dim ond ychydig wythnosau ers rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, mae Lisa Pedrick wedi rhyddhau sengl newydd heddiw, 6 Gorffennaf. 

‘Camddyfynnu’ ydy enw’r trac newydd gan y ferch o Waun-Cae-Gurwen ac mae’n dilyn yn dynn ar sodlau ‘Numero Uno’ a ryddhawyd ar 15 Mehefin

Bydd ‘Camddyfynnu’, fel y sengl flaenorol, hefyd yn ymddangos ar ei EP nesaf, ‘Dihangfa Fwyn’ sydd allan ddiwedd mis Gorffennaf. 

Mae ‘Camddyfynnu’, fel ‘Numero Uno’ a ‘Seithfed Nef’ cyn hynny, yn sengl fachog a hwylus i’r glust sydd hefyd yn trosglwyddo neges bwysig i’r gwrandawyr. 

Peidio credu popeth

Ysgrifennwyd y gân sawl blwyddyn yn ôl ar ôl i Lisa ei hun gael ei chamddyfynnu mewn papurau newydd, nid unwaith, ond ddwywaith. Mae’r hen ddywediad o beidio â chredu popeth ry’ch chi’n ei ddarllen yn y papurau yn cael bywyd newydd yn ‘Camddyfynnu’.

Wedi’i ysgrifennu’n Saesneg yn wreiddiol, mae’r awdures dalentog ‘Elin Meek’ wedi cyfieithu geiriau Lisa i’r Gymraeg.

“Ro’n i’n grac iawn pan ‘sgrifennais i’r gân yn wreiddiol” eglura Lisa wrth drafod testun y gân. 

“Ro’n i’n grac gyda’r newyddiadurwyr ond hefyd yn grac gyda fi fy hun am gytuno i siarad â nhw.

“Yn ogystal ag atgyfnerthu’r neges bod gwybodaeth yn y dwylo anghywir yn beryglus mae’r gân hefyd yn ein hatgoffa i beidio a chredu popeth ry’n ni’n ei ddarllen – yn enwedig yn y byd yma sydd ohoni heddiw lle mae pob peth yn cael ei wneud ar hast er mwyn bod y cyntaf i dorri newyddion.

“Er mod i’n dal i deimlo’r dicter a ysbrydolodd fi i gyfansoddi’r gân yn y lle cyntaf, rwy’n teimlo ei bod hi’n gân hwylus ac yn un wnes i fwynhau ei recordio gyda Tim Hamill yn Stiwdio Sonic One, Llanelli.

“Ar ôl perfformio’r gân dros y blynyddoedd gyda’r band, PERI, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei pherfformio ar ei newydd wedd dros y misoedd nesaf.”