Prosiect mentora yn arwain at gig yng Nghaerfyrddin

Mae manylion digwyddiad sydd wedi tyfu o brosiect mentora sgiliau trefnu a hyrwyddo gigs ymysg pobl ifanc yng Nghaerfyrddin wedi’u cyhoeddi.

Bydd gig gyda Mellt yn cael ei gynnal yn lleoliad Cwrw, Caerfyrddin ar nos Wener, 24 Mehefin, gyda chefnogaeth gan Dros Dro a Bald Patch Pegi, sef bandiau lleol o ysgolion yr ardal. 

Trefnwyd y gig fel rhan o brosiect peilot rhwng PYST, Menter Gorllewin Sir Gâr a gwefan AM gyda chefnogaeth Dydd Miwsig Cymru. Y bwriad ydy annog a meithrin hyrwyddwr cerddorol y dyfodol drwy roi cyfle iddynt  drefnu gig yn eu cymuned. 

Mewn cyfres o sesiynau gyda chriw o bobl ifanc dros y ddeufis diwethaf, trafodwyd pob agwedd o drefnu gig, o logi lleoliad i ddewis artistiaid i greu a gweinyddu cyllideb. 

Cafwyd cyngor gwesteion arbennig oedd yn cynnwys Owain Williams (Klust, Gŵyl Newydd) ac Elan Evans (Maes B, Clwb Ifor Bach, Sŵn) ac aeth y bobl ifanc ati i drefnu a hyrwyddo’r gig, creu a gweinyddu cyllideb, bwcio’r ganolfan, cysylltu’r gyda’r artistiaid, dylunio a chreu’r poster, datblygu cynllun marchnata ac amryw gyfrifoldebau eraill.  

Y gobaith yw y bydd y profiad yma yn annog ac yn ysbrydoli’r bobl ifanc i gynnal mwy o gigs yn y dyfodol, gan arwain at fwy o gerddoriaeth byw Cymraeg yn cael ei chwarae mewn ardaloedd gwahanol ledled y wlad. 

“Mae’n hynod bwysig, yn enwedig yn sgil y pandemig, fod gigs lleol yn parhau i ddod a cherddoriaeth byw i gynulleidfaoedd gwahanol ar draws y wlad” meddai Lea Glyn o gwmni PYST.  

“Mae’r peilot yma yn profi fod gan y genhedlaeth nesaf yr angerdd, brwdfrydedd a’r sgiliau i drefnu, cynnal a hyrwyddo gigs, ac rydw i’n awyddus iawn i weld prosiectau tebyg yn cael eu gweithredu ar draws Gymru gyfan, i sicrhau bod hyrwyddwyr cerddoriaeth y dyfodol ym mhob cwr o’r wlad.”