Pump i’r Penwythnos – 02 Rhagfyr 2022

Wel, mae ymgyrch tîm pêl-droed dynion Cymru ar ben. Hen dro yn wir, ond edrychwch ar yr ochr orau o bethau…o leiaf fydd dim rhaid i ni glywed yr holl ganeuon Cwpan y Byd dodgy sydd wedi’u rhyddhau dros yr wythnosau diwethaf. Jôc, wrth gwrs…roedd un neu ddwy ohonyn nhw oce…ish. 

Ta waeth, mae’n fis Rhagfyr sy’n golygu bod Nadolig yn agosáu ac y gallwn ni ddisgwyl gweld swp o ganeuon Nadolig dodgy’n cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf. Ding dong!

Am y tro, dyma bump peth cerddorol gwych i chi fwynhau penwythnos yma. 

 

Gig: HMS Morris, Ynys – Bunkhouse, Abertawe – 03/12/22

Cracyr o gig yn Abertawe nos fory wrth i ni groesawu mis Rhagfyr. 

Yr anhygoel HMS Morris ydy’r prif atyniad gyda chefnogaeth gan Ynys sydd wrth gwrs newydd ryddhau eu halbwm cyntaf. 

Ac rydach chi gwybod bod y Nadolig yn agosáu pan welwch chi fod Bing Crosby Cymru, Al Lewis, yn gwneud gig mewn eglwys. Mae Al yn dychwelyd i Eglwys Llanengan heno lle bu iddo wneud un o’i gigs Nadolig poblogaidd yn 2019

 

Cân: ‘Adar y Nos’ – Rhys Gwynfor a Lisa Angharad 

Artist sydd wedi bod yn weddol dawel ers peth amser, ond am resymau da,  ydy Rhys Gwynfor. 

Bydd llawer iawn yn falch o’i weld yn ôl gyda chynnyrch newydd wythnos yma felly, a hynny ar y cyd â’i bartner, Lisa Angharad. 

‘Adar y Nos’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf a dyma gynnyrch newydd cyntaf Rhys ers dros flwyddyn a hanner. 

Os ydach chi’n ffans o gerddoriaeth blaenorol Rhys yna chewch chi ddim eich siomi gan ‘Adar y Nos’ gan ei bod yn anthem prog roc sy’n cadw’n agos at ei steil arferol. 

Un o’r rhesymau fod Rhys wedi bod yn weddol dawel yn gerddor ydy’r ffaith ei fod o a Lisa wedi dod yn rhieni am y tro cyntaf ac wedi bod â’u dwylo’n llawn yn jyglo hynny gyda gwaith a cherddoriaeth.  

“Gath Adar y Nos ei sgwennu dros gyfnod hir yng Nghaerdydd, a’i recordio dros gyfnod hirach yn Stiwdio Sain” eglura Rhys.

“Dwi’n falch iawn fod Lisa Angharad yn canu ar y gân hefo fi a hi hefyd sydd wedi trefnu’r harmonïau. Mai’n gân am fethu cysgu yn y nos, ac mae angen gwrando arni yn uchel.”

 

Artist: Patryma

Grŵp  roc cymharol newydd o’r gogledd ydy Patryma a ddaeth i amlygrwydd gyntaf yn y cyfnod rhyfedd hwnnw ar ddechrau 2020. 

Daeth y band i sylw Y Selar gyntaf wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Disgyn’, ym mis Mawrth 2020. 

Dilynwyd hynny’n fuan gan ail sengl, ‘Pydru’, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn ond ers hynny dydan ni ddim wedi gweld unrhyw gynnyrch newydd pellach gan Patryma, er eu bod nhw wedi bod yn gigio rhywfaint. 

Ond, fe newidiodd hynny wythnos diwethaf wrth iddynt ryddhau sengl eu sengl ddiweddaraf, ‘Cyfle’. 

Pwy ydy Patryma felly? Wel, band pedwar aelod o ardal Caernarfon ydyn nhw sef y basydd Daf Jones, canwr Siôn Foulkes, gitarydd Daniel McGuigan a’r drymiwr Rhys Evans sydd hefyd yn gyfarwydd fel aelod o I Fight Lions.

Ffurfiodd y band wrth i Siôn a Dan ddechrau ysgrifennu caneuon ar gyfrifiadur yn nhŷ Dan, ac maent wedi esblygu o hynny. 

Recordiwyd y sengl newydd gyda’r cynhyrchydd amlwg Rich Roberts, ac yn ôl y ffryntman Siôn, maent yn gobeithio dychwelyd i’r stiwdio gyda Roberts yn fuan yn y flwyddyn newydd. 

“Efo ‘Cyfle’, mae hi’n gân sydd wedi cael ei ysgrifennu ers i ni sgwennu set byw gig cyntaf ni efo Breichiau Hir Tachwedd 2021” meddai Siôn am y sengl newydd.  

“Oedd hi’n gân odda ni’n rili mwynhau chwara’n fyw, ag yn vibe gwahanol oedd ddim yna efo ‘Disgyn’ a ‘Pydru’, sef y caneuon y gwnaethon ni ryddhau yn 2020.”

 

Record: Sŵnamii – Sŵnami

Mae’n teimlo fel amser maith ers i Sŵnami ddatgan ei comeback gyda’r sengl ddwbl ‘Theatr’ ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ ym mis Mawrth 2022

Ers hynny mae addewid wedi bod am albwm newydd gan y grŵp poblogaidd o Feirionydd. 

O ystyried eu poblogrwydd, a hirhoedledd, mae’n anodd credu weithiau mai dim ond un albwm llawn mae  Sŵnami wedi rhyddhau, sef y record hunan deitlog a ryddhawyd yn 2015. 

Roedd hwnnw’n llwyddiant ysgubol wrth gwrs – yn cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cipio teitl Record Hir Orau Gwobrau’r Selar hefyd wrth gwrs

Nawr, ar ôl cyfres o senglau i gynnig blas, maen nhw nôl gydag ail record hir sydd â’r enw Sŵnamii, gan chwarae’n gynnil gyda rhifau Rhufeinig yn yr enw’n hytrach na defnyddio jyst ‘Sŵnami 2’. 

Mae 7 blynedd yn amser hir rhwng albyms, ond mae awgrym clir ei bod hi wedi bod yn werth yr aros gyda’r band yn dweud eu bod nhw wedi datblygu sŵn newydd sy’n adlewyrchu’r gerddoriaeth maen nhw am ei greu. 

Mae’r ail albwm yn un cysyniadol sy’n cyflwyno gwesty Sŵnamii, o burdan neon lle mae’r ystafelloedd yn cynrychioli galar, gorbryder, a dihangfa ieuenctid trwy gyfryngau ‘dream-pop’ ysgafn ac indi dwys, llawn egni. 

Ym mhob adran o’r albwm, fel pob ystafell mewn gwesty, adroddir naratif gwahanol gan y band sy’n myfyrio ar eu gorffennol, eu presennol, a’u dyfodol, gan ddogfennu’r cyflwr cyson o newid a fu o’u cwmpas yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Yn ôl y band, mae’r albwm yn gasgliad gonest o draciau newydd sy’n canolbwyntio ar yr oes hon o drawsnewid, yn y cyfnod hwnnw rhwng bod yn hen ac ifanc ac, fel llawer o rai eraill, cael trafferth gyda’u hunaniaeth ar hyd y ffordd. Ac maen nhw hefyd i’w gweld yn hapus iawn gyda’r sain maen nhw wedi mireini dros y blynyddoedd diwethaf. 

“Mae hyn yn llawer agosach at yr hyn roedd Sŵnami wastad eisiau bod, a’r ffordd yr oedden ni eisiau swnio fel hefyd,” esbonia Ifan Davies, ffryntman y band.

Maen nhw hefyd wedi aros yn driw i’w daliadau trwy ryddhau albwm cyfan gwbl yn y Gymraeg, ac mae hynny’n bwysig i’r aelodau yn ôl Ifan. 

“Roedd gwneud albwm Cymraeg arall i ni’n teimlo fel rhywbeth naturiol, doedden ni ddim yn meddwl gormod amdano ac fe wnaethon ni jyst creu yr hyn ddaeth allan orau i ni.”

“Fydd cerddoriaeth Gymraeg byth yn diflannu. Mae yna dirwedd gerddorol hynod o gryf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda llawer o fandiau, artistiaid a thalent newydd.”

Dyma fideo eu sengl diweddaraf o’r albwm newydd, ‘Wyt Ti’n Clywed?’:

Un Peth Arall: Fideo Gai Toms

Roedd hi’n grêt i weld Gai Toms, un o ganwyr-gyfansoddwyr gorau ei genhedlaeth, yn ôl gyda sengl newydd wythnos yma. 

‘Coliseum’ ydy enw’r trac newydd gan Gai ac mae’n flas o’r hyn y gallwn ni ddisgwyl ar ei albwm nesaf, sef Y Filltir Gron. 

Mae’r sengl, fel nifer o ganeuon yr albwm, yn ymdrin â’r thema ddwys o alar ac mae hefyd yn gweld Gai yn troi at yr ukelele sef offeryn y cafodd gyfle i chwarae mwy ohono yn ystod y cyfnod clo. 

I gyd-fynd â’r sengl mae Lŵp wedi cyhoeddi fideo sy’n serennu’r actores ardderchog, Rhian Blythe. 

Gai ei hun sy’n gyfrifol am y gwaith cyfarwyddo ar y cyd â Dafydd Hughes. Fideo hyfryd i gyd-fynd a chân wirioneddol hyfryd gan Gai.