Pump i’r Penwythnos – 03 Mehefin 2022

Gig: Gŵyl Triban – Steddfod yr Urdd, Dinbych – 03-04/06/22

Mae’r ffyrdd i gyd yn arwain i Ddinbych penwythnos yma wrth i’r Urdd ddathlu eu canmlwyddiant gyda gŵyl arbennig i gloi wythnos yr Eisteddfod. 

Mae ‘na gerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan ar y maes sef Llwyfan y Sgubor a llwyfan Garddorfa. 

Ar lwyfan Llwyfan y Sgubor heddiw mae’r artistiaid yn cynnwys Hana Lili, Maes Parcio, Jacob Elwy, Ciwb, Bwncath, Yws Gwynedd a Tara Bandito. 

Mae llwyth o stwff da yn Garddorfa heddiw gan gynnwys Cai, Tesni Hughes, Dienw a Mellt. 

Bydd dydd Sadwrn yn glamp o ddiwrnod hefyd gyda pherfformwyr Llwyfan y Sgubor yn cynnwys skylrk., Mali Hâf, Morgan Elwy, Tecwyn Ifan, Delwyn Sion, Y Cledrau ac Eden. 

Yna draw yn Garddorfa ddydd Sadwrn mae cyfle i ddal Mari Mathias, Lewys Wyn, Eädyth x Izzy Rabey, N’Famady Koyuaté ac Adwaith. 

A cyn i chi holi…oes, mae ’na far hefyd! 

 

Cân:  ‘Heuldy (ft. Mali Hâf) – FRMAND 

Mali Hâf ydy’r artist ddiweddaraf i gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd electronig, FRMAND, gyda’r ddau’n rhyddhau sengl ar y cyd wythnos diwethaf.  

‘Heuldy’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd a dyma’r cyntaf mewn cyfres gydweithredol rhwng y ddau felly disgwyliwch glywed mwy ganddyn nhw’n fuan. 

Mae ‘Heuldy’ â naws y 90au i’r trac Disco-House, sy’n adrodd stori rhamant yn y tŷ haf. 

Cynhyrchydd ac artist cerddoriaeth electronig a house o Langrannog ydy FRMAND ac yn y gorffennol mae wedi cyd-weithio gydag artistiaid sy’n cynnwys Mabli, Sorela a Lowri Evans. 

Nod FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau ac ailgymysgiadau ar draws sawl genre yn yr iaith.

Mae Mali wedi bod yn prysur wneud enw i’w hun yn ddiweddar gyda chyfres o senglau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ei chynnyrch diweddaraf oedd y trac ‘Paid Newid Dy Liw’, sef ei hymgais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym mis Mawrth eleni.

 

Artist: Elis Derby

Mae Elis Derby wedi rhyddhau blas arall o’i albwm newydd heddiw gyda’r sengl ‘Lawr ar fy Nghwch’. 

Hon ydy’r drydedd sengl i Elis ryddhau o’i ail albwm, sydd allan yn fuan – mae’r record wrthi’n cael ei gymysgu a mastro yn stiwdio Sain ar hyn o bryd. 

Bydd yr albwm newydd yn ddilyniant i’w albwm unigol cyntaf, 3, a ryddhawyd ar ddiwedd mis Ionawr 2020. Roedd Elis braidd yn anlwcus ar y pryd gan i’r pandemig lanio’n fuan wedyn, a hynny wedi cyfyngu llawer ar ei gyfleoedd i hyrwyddo’i record hir cyntaf yn anffodus. 

Er hynny, cadwodd yn brysur a cheisio gwneud y gorau o’r sefyllfa gyda pherfformiadau rhithiol, gan fynd ati hefyd i greu fersiynau unigryw o themâu cerddorol rhaglenni chwedlonol fel ‘The A Team’, ‘Hotel Eddie’ a ‘Tipyn o Stad’.

Datblygodd hynny i ganeuon cyfan a phan laciodd y rheolau, recordiwyd albwm aml-gyfrannog cyfan o cyfyrs o ganeuon Cymraeg enwog o dan yr enw Ciwb. 

Mae Ciwb wedi bod yn llwyddiant mawr, ond mae sylw Elis wedi troi nôl at ei gerddoriaeth unigryw ei hun dros y misoedd diwethaf, a bydd yr albwm newydd allan ar label Recordiau Côsh dros yr haf eleni. 

Cafwyd blas cyntaf o’r record hir newydd ym mis Ebrill gyda’r sengl ddwbl ‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Gadawa Fi Mewn’.

Mae naws o angen dianc yn ‘Lawr ar fy Nghwch’ ac mae’n disgrifio’r teimlad o’r angen i gael lle i fynd pan fydd pethau’n mynd yn ormod. 

Cafodd y trac ei gyd-ysgrifennu gan Gethin Griffiths, sy’n rhan o’r band Ciwb gydag Elis, ac mae’r artist wedi dogfennu’r broses, o greu’r demo yr holl ffordd at recordio’r gân orffenedig. 

Mae gan Elis gwpl o gigs yn dod fyny’n fuan hefyd, ac mae’n werth trio’i ddal o’n fyw. Dyma’r manylion: 

11 Mehefin – Gwyl Bethel (ger Caernarfon) 

1 Gorffennaf – Tafarn Y Plu, Llanystumdwy 

 

Record: Tri – Plu

Mae albwm diweddaraf Plu allan ers mis bellach, ond mae cwpl o nosweithiau olaf eu cyfres o gigs lansio’n digwydd wythnos nesaf, felly mae hynny’n esgus da i ni roi sylw i’r record.  

Hyd yma, dim ond yn y siopau, mewn gigs ac ar safle Bandcamp mae’r record hir wedi bod ar gael, ond fe fydd ar y llwyfannau digidol eraill arferol o fis Mehefin ymlaen. 

Recordiwyd caneuon yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes. Yn ogystal â’r aelodau craidd – Gwilym Bowen Rhys a’i ddwy chwaer, Marged ac Elan Rhys – mae’r cerddorion gwadd Carwyn William, Dafydd Owain ac Edwin Humphreys, wedi cyfrannu at waith recordio’r albwm newydd.

Mae’r albwm yn cynnwys cyfuniad o ganeuon â naws Americana, rhai amgen ac atmosfferig, yn ogystal â tiwns gwerin-bop, i gyd â harmonïau cymhleth sy’n gysylltiedig â sain leisiol Plu. 

Cafwyd tamaid i aros pryd nes yr albwm ar ffurf y sengl ‘Storm dros Ben-y-Fâl a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth. Dyma oedd cynnyrch newydd cyntaf y grŵp ers rhyddhau eu halbwm diwethaf,  ‘Tir a Golau’, nôl yn 2015.

Maen nhw eisoes wedi perfformio llond llaw o gigs lansio ddechrau mis Mai, ac mae dau arall o’r gyfres yn digwydd penwythnos nesaf – y cyntaf nos Wener 10 Mehefin yn Aberystwyth, a’r llall yng Nghaerdydd y noson ganlynol – ewch draw os allwch chi. Dyma’r manylion llawn: 

10 Mehefin – Amgueddfa Aberystwyth (gyda Cerys Hafana)

11 Mehefin – Eglwys Norwyeg, Caerdydd (gyda Dafydd Owain)

Dyma’r trac sy’n agor y casgliad, ‘Dinistrio Ni’: 

Un Peth Arall: Penwythnos Datblygu

Rhyw fis yn ôl fe wnaethon ni roi bach o sylw i ddigwyddiad arbennig ‘Penwythnos Datblygu’ sy’n cael ei drefnu gan y criw sy’n gyfrifol am dudalen Facebook Datblygu Your Welsh. 

Nod y penwythnos o weithgarwch ydy ddiolch i Datblygu am gyflwyno’r iaith Gymraeg i ddysgwyr neu siaradwyr newydd.

Wel, mae penwythnos y digwyddiad wedi cyrraedd, a heddiw mae’r criw yn ymgasglu yn Llanbedr Pont Steffan. 

Mae dyddiad y penwythnos yn arwyddocaol gan fod mis Mehefin yn nodi blwyddyn ers y bu farw prif ganwr chwedlonol y grŵp, yr enigma David R. Edwards. 

Bydd y gweithgareddau’n dechrau heno gyda noson ffilmiau yn Theatr Cliff Tucker ym Mhrifysgol Llanbed. 

Yna fory, mae sesiwn cwestiwn ac ateb gyda chyd aelod Dave yn y grŵp, Pat Morgan, yn Neuadd Fictoria, Llanbed am 4pm. Yn dilyn hynny bydd gig ‘Dathlu Datblygu’, eto yn Neuadd Fictoria. 

Wrth symud ymlaen i ddydd Sul, bydd y criw yn hefyd yn symud lleoliad i Aberteifi, lle magwyd David R. Edwards, ar gyfer ‘Taith Bywyd Dave’ yng nghwmni ei gyfaill, y cerddor a rheolwr label cyntaf Datblygu, Malcolm Gwyon. 

Penwythnos difyr dros ben i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg, ac angenrheidiol i’r ffans Datblygu. 

Cyfle perffaith i rannu trac gan Datblygu gyda chi felly: