Gig: 3 Hwr Doeth, 9Bach, Yr Ods, Yr Eira, Sister Wives, Pys Melyn – Ar Dâp, S4C – 04/02/22
A hithau’n Ddydd Miwsig Cymru y Llywodraeth, fel arfer byddai’r dyddiadur yn llawn o gigs ledled y wlad heddiw.
Ond, yn anffodus mae cyfyngiadau Covid, neu’r ansicrwydd diweddar o leiaf, yn golygu ei bod wedi bod yn anodd iawn i drefnwyr fynd ati eleni eto.
Felly, dim gig fel y cyfryw ydy’n dewis wythnos yma ond yn hytrach rhaglen Ar Dâp arbennig sy’n darlledu ar S4C heno am 22:05.
Ar Dâp: Miwsig Cymru ydy teitl y rhaglen, ac o ddarllen rhwng y llinellau mae’n edrych fel cyfuniad o uchafbwyntiau’r sesiynau Ar Dâp sydd wedi’u darlledu dros flwyddyn ddiwethaf, a sgyrsiau gyda’r artistiaid fu’n perfformio. Da!
Cân: ‘Trai’ – Gwenno Morgan
Un o enwau newydd amlycaf 2021 oedd Gwenno Morgan, ac mae’r pianydd talentog yn ôl gyda sengl newydd wythnos yma.
Daeth Gwenno i’r amlwg ddechrau’r flwyddyn llynedd yn wreiddiol diolch i’w traciau ar y cyd â Mared a Sywel Nyw, cyn rhyddhau’r EP ardderchog, Cyfnos, ym mis Ebrill.
‘Trai’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan heddiw gan y ferch o Fangor, a dyma’r trac diweddaraf sydd allan fel rhan o ddathliadau pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Mae’r label yn rhyddhau albwm aml-gyfrannog ym mis Mai i nodi’r achlysur, ac wrth arwain at hynny byddan nhw’n rhyddhau trac o’r casgliad bob wythnos fel sengl.
Rhyddhawyd y gyntaf o’r rhain wythnos diwethaf, sef fersiwn Candelas o’r glasur gan Brân, ‘Y Gwylwyr’ gyda Nest Llewelyn, oedd yn canu ar y fersiwn wreiddiol, yn cyfrannu ei llais hudolus unwaith eto.
Mae Gwenno Morgan yn bianydd tu hwnt, cyfansoddwr a chynhyrchydd ac fe ddenodd ei EP cyntaf sinematig, hypnotig gryn dipyn o sylw a chanmoliaeth.
Yn wahanol i’r traciau ar yr EP mae ‘Trai’ yn gwyro tuag at arddull pop, dawns a jazz. Mae’r gân yn adleisio dylanwadau rhythmig Max Cooper a harmonïau Butcher Brown. Daw’r teitl o natur ailadroddus yr alaw ar y piano a’r synth.
Cafodd y trac ei recordio a’i gynhyrchu gan Gwenno ac Ifan Emlyn Jones yn stiwdio Sain, gyda Carwyn Williams yn chwarae’r drymiau.
Record: Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg – Cate Le Bon
Mae albwm newydd Cate le Bon, Pompeii, allan heddiw ar label Mexican Summer, ac yn cael llwyth o sylw gan y wasg gerddoriaeth Brydeinig a rhyngwladol.
Mae hyn yn cynnwys adolygiadau canmoliaethus yn yr NME, yn The Guardian, DIY Magazine ac yn The Irish Times, ymysg gwefannau cerddoriaeth amlwg eraill.
Mae ‘na hefyd gyfweliad difyr gyda hi yn The Guardian am yr albwm, a ysgrifennodd yn gyfan gwbl ar ben ei hun yn ystod y cyfnod clo.
Mae’r cerddor eithriadol o Sir Gâr yn sicr wedi mynd o nerth i nerth dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf ers rhyddhau ei halbwm unigol cyntaf, Me Oh My, ar label Irony Bored yn 2009.
Ond cyn hynny, reit nôl yn 2008, roedd Cate eisoes wedi rhyddhau ei EP cyntaf ar label hyfryd Peski.
Casgliad o bump o draciau Cymraeg oedd Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg ac yn sicr roedd yn arwydd clir o dalent Cate, a’r potensial enfawr oedd ganddi i wneud ei marc ar y diwydiant cerddoriaeth ehangach.
Rhyddhawyd yr EP ar feinyl, cyn bod feinyl yn atgyfodi mewn gwirionedd – da iawn Peski! ‘Hwylio Mewn Cyfog’, ‘Mas Mas’ a ‘Baw Waw Delmi Dot’ oedd ar ochr un, gyda’r traciau ‘Byw Heb Farw’ ac ‘O Bont i Bont’ ar ochr 2.
Mae’n werth bwrw golwg ar credits y record hefyd i weld enwau’r casgliad ardderchog o gerddorion a gyfrannodd at y gwaith recordio. Mae rhain yn cynnwys Euros Childs, Jemma Roper a Mini Williams o Texas Radio Band. Mae Heddwyn Davies o’r Threatmantics hefyd yn chwarae’r fiola ar gwpl o’r traciau, ynghyd â Siôn Glyn (Topper, Y Niwl) a Huw Evans (H. Hawkline) ar y gitârs.
Krissie Jenkins, sydd efallai’n fwyaf amlwg yn ddiweddar i ni am ei waith gwych ar albwm Papur Wal, sydd wedi recordio’r EP.
Efallai mai ‘Mas Mas’ ydy’r gân amlycaf o’r casgliad, a dyma Cate yn perfformio’r trac ar raglen Bandit erstalwm, gyda Siôn a Mini’n gwmni iddi.
Artist: Lloyd Steele
Mae bob amser yn ddifyr gweld cerddor sydd wedi bod yn aelod o fandiau yn y gorffennol yn mentro ar ei liwt ei hun, a dyna’n union mae Lloyd Steele yn gwneud wrth ryddhau ei sengl newydd heddiw.
Bydd Lloyd yn gyfarwydd iawn i lawer fel gitarydd y grŵp poblogaidd, Y Reu, a cyn hynny roedd yn aelod o’r band ifanc Y Saethau oedd o gwmpas tua degawd yn ôl.
Nawr mae’r cerddor yn barod i fentro ar ryddhau cerddoriaeth yn unigol ei hun gyda’i sengl gyntaf, ‘Mwgwd’, allan heddiw ar label Recordiau Côsh.
Mae Y Reu yn gyfarwydd am eu cerddoriaeth roc a sioeau byw ffyrnig, ond os ydy ‘Mwgwd’ yn fesur, yna mae cerddoriaeth Lloyd yn mynd i fod yn wahanol iawn.
Yn ôl y gŵr ifanc mae ei ddylanwadau cerddorol yn dod yn fwy o gyfeiriad genre’s gwahanol fel R&B a phop cyfoes, ac mae hynny’n sicr i’w glywed ar y sengl.
Dros y cyfnod heb gigs mae Lloyd wedi bod yn ysgrifennu cerddoriaeth er mwyn darganfod ffordd o fynegi ei hun ar ffurf creadigol. Yna aeth ati i weithio gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts yn Stwidio Ferlas, gyda fersiwn derfynol ‘Mwgwd’ yn ganlyniad i hynny.
Mae’r gân yn wahanol i’r arlwy arferol Cymraeg, gyda churiadau fyddai’n gartrefol mewn un o ganeuon y grŵp o Rydychen, Glass Animals, ac ymdeimlad ymlaciedig ond pwrpasol sydd i’w glywed yng ngherddoriaeth y ddeuawd pop Americanaidd, Beach House.
Yn ôl Lloyd mae’n bwysig nodi fod y gân yma’n gychwyn ar bennod newydd yn ei fywyd o safbwynt personnol yn ogystal â cherddorol.
“Mae ‘Mwgwd’ yn seiliedig ar fod yn gyfforddus ac yn hyderus efo hunaniaeth dy hun, rhywbeth dwi wedi bod yn sdryglo efo yn y gorffennol” meddai’r cerddor.
“Ma’n pwysleisio’r pwysigrwydd o fod yn chdi dy hyn, a sut mae bywyd yn gymaint fwy rhydd pan ti’n derbyn ac yn cofleidio dy hun.”
Mae ‘na golofn wych gan Lloyd yn rhifyn hydref 2020 o gylchgrawn Y Selar, ac mae’n werth 5 munud o’ch amser heb os.
I gyd-fynd â’r dyddiad rhyddhau mae fideo ar gyfer ‘Mwgwd’ wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Cyfarwydd gan Aled Wyn Jones, sy’n gwneud cameo bach yn y fid hefyd gyda llaw.
Un Peth Arall: Rhestrau Byr cyntaf Gwobrau’r Selar
Wrth i ni baratoi i gyhoeddi’r enillwyr yn hwyrach yn y mis, mae 4 o restrau byr Gwobrau’r Selar wedi’u datgelu dros y dyddiau diwethaf
Does dim digwyddiad byw Gwobrau’r Selar unwaith eto eleni, felly’n hytrach na hynny byddwn ni’n cyhoeddi’r enillwyr ar raglenni BBC Radio Cymru Lisa Gwilym a Huw Stephens yn ystod wythnos 14 Chwefror.
Ac y ddau gyflwynydd hoffus hynny gafodd y plerer o gyhoeddi rhestrau byr cyntaf y Gwobrau eleni.
Nos Fercher cyhoeddodd Lisa restrau byr y categori Cân Orau a Gwaith Celf Gorau, ac yna nos Iau datgelwyd y rhestrau byr ar gyfer Artis Unigol Gorau a Band neu Artist Newydd Gorau gan Huw.
Bydd 5 rhestr fer arall yn cael eu cyhoeddi ar raglenni Lisa a Huw wythnos nesaf felly cofiwch diwnio mewn.