Gig: Mawr y Rhai Bychain @ Neuadd Ogwen – 7-9/10/22
Bethesda oedd lleoliad ein prif ddewis o gig wythnos diwethaf, ac mae’n amhosib anwybyddu’r hyn sy’n mynd ymlaen yn Neuadd Ogwen penwythnos yma hefyd.
Gŵyl gerddoriaeth sy’n ddathliad o ieithoedd brodorol ydy Mawr y Rhai Bychain ac mae’n croesawu artistiaid o Gymru, Yr Alban a Llydaw.
Gig gyda’r band o’r Alban, Breabach sy’n dechrau’r cyfan heno, 7 Hydref gyda’r delynores Gymreig sydd newydd rhyddhau ei hail albwm, Cerys Hafana yn cefnogi.
Nos fory, bydd dyn y foment Dafydd Iwan yn perfformio gyda chefnogaeth gan Dièse3 & Youenn Lange o Lydaw.
Yna, nos Sadwrn bydd y cyfan yn dod i ben gyda’r band amlwg o Glasgow yn yr Alban, Talisk, gydag Yws Gwynedd yn cefnogi.
Gwerth rhoi mensh hefyd i gig sydd wedi bod yn denu tipyn o sylw yng Nghaerdydd nos fory. Mared, sydd newydd orffen cyfnod yn y West End, sy’n perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ac mae cryn edrych mlaen i’w gweld hi nôl yng Nghymru.
Cân: ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ – Angel Hotel
Fersiwn newydd, o hen gân, sydd wedi’i hail-ryddhau ydy ein dewis o gân ar gyfer y penwythnos – gwneud sens?
Hyd yn oed os nad ydy’r frawddeg agoriadol yna’n gwneud sens, does dim amheuaeth fod fersiwn Angel Hotel o ‘Torri Fy Ngwallt yn Hir’ o glasur y Super Furry Animals yn gwneud perffaith synnwyr.
Rhyddhawyd y trac yn wreiddiol gan y Super Furry Animals ar eu hail albwm, Radiator, a gyhoeddwyd yn haf 1997, ac mae wedi bod yn ffefryn mawr ers hynny.
Efallai y byddwch yn cofio fersiwn newydd, gwahanol iawn ohoni’n ymddangos yng ngwanwyn 2021 a hynny gan y band newydd, Angel Hotel, fel rhan o gasgliad Corona Logic Vol. 2.
Casgliad elusennol o cyfyrs o ganeuon SFA oedd hwn a ryddhawyd ym mis Mawrth 2021 er mwyn talu teyrnged i’r Super Furry Animals, ond hefyd i godi arian at elusen digartrefedd Llamau.
Nawr mae’r grŵp wedi penderfynu ail-ryddhau’r fersiwn fel sengl ar eu label newydd, Recordiau Côsh.
Gyda sŵn nostalgic 80au y band yn gweddu sentiment y gân yn berffaith, mae ‘Torra Fy Ngwallt Yn Hir’ wedi ffitio’n berffaith fel rhan o’u set byw. Mae hefyd wedi bod yn ffefryn ar y tonfeddi ers ymddangos gyntaf.
Oes modd i’r un gân fod yn ‘glasur’ ddwywaith? Os felly, fydden ni’n synnu dim os ddaw fersiwn Angen Hotel i fod yn un…os nad ydy hi’n barod.
Artist: Thallo
Mae’r Selar wedi bod yn monitro datblygiad gyrfa Thallo byth ers iddi ymddangos gyntaf rai blynyddoedd yn ôl, a da adrodd ei bod hi’n mynd o nerth i nerth.
Cofiwch chi, mae hynny wedi dod ar draul digon o heriau, ac yr her fwyaf efallai ydy testun ei sengl newydd, ‘Pluo’.
Thallo ydy prosiect y gantores dalentog, Elin Edwards a ddaw yn wreiddiol o Wynedd ond sy’n byw erbyn hyn yn Llundain yw Thallo.
Daeth i sylw Y Selar yn gyntaf ar ddechrau 2019 gan ryddhau’r sengl ‘I Dy Boced’ ym mis Ebrill y flwyddyn honno.
Mae wedi bod yn brysur er hynny gan ryddhau nifer o senglau a fideos trawiadol, ynghyd â chydweithio gydag artistiaid eraill fel Nate Williams ac Ifan Dafyd. Bu i Tegwen Bruce-Deans ddysgu tipyn amdani ar ran Y Selar mewn cyfweliad arbennig ar y wefan llynedd wrth iddi ryddhau’r sengl ‘Mêl’.
Nawr mae wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sydd wedi’i ysbrydoli gan destun unigryw, ac un hynod bersonol i’r artist, sef ansymudedd.
Dioddefodd Elin y salwch sydyn yn 2020 a achosodd boen cronig yn ei phen-gliniau a phroblemau symudedd, mae ‘Pluo’ yn cyffwrdd â’r boen ryfedd o wylio’r byd yn dychwelyd i normal ar ôl y clo, tra bod Elin yn gaeth yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “fy nghlo personol fy hun.”
“Roeddwn i’n teimlo mor sownd, yn methu â dychwelyd i fy mywyd normal” meddai’r gantores.
“Ond yn bennaf oll, gwaedd o ofn yw’r gân am yr unigrwydd a’r anobaith o gael eich gadael ar ôl tra bod pawb arall yn symud ymlaen.”
I gyd-fynd â’r sengl mae Lŵp, S4C wedi cynhyrchu fideo ar gyfer y trac sydd wedi cael ei ysbrydoli gan y genre ffilm arswyd seicolegol ac wedi ei saethu yn y man hela ysbrydion poblogaidd Ysbyty Bron y Garth.
“Mae’r lleoliad yn adlewyrchu geiriau Pluo o deimlo’n sownd ac yn dirywio” eglurodd Elin.
Y newyddion da pellach ydy fod ‘Pluo’ yn flas o’r hyn sydd i ddod ar EP dwyieithog newydd Thallo fydd yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref dan yr enw Crescent.
Dyma fideo ‘Pluo’:
Record: Happy Gathering – Melin Melyn
Does dim llawer o grwpiau mwy lliwgar na Melin Melyn wedi dod allan o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd Y Selar felly’n falch iawn i weld EP newydd gan y chwechawd yn ymddangos ddydd Gwener diwethaf.
‘Happy Gathering’ ydy enw’r record fer newydd sydd wedi’i rhyddhau’n annibynnol Melin Melyn.
Mae’r EP wedi’i gymysgu gan Llŷr Pari ac wedi’i beiriannu gan Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard), gan roi stamp o safon ychwanegol ar y record.
Mae Happy Gathering yn arddangos gwaith mwyaf enigmatig Gruff Glyn, prif ganwr a chyfansoddwr y band, hyd yma.
Rhyddhawyd y sengl ‘Nefoedd yr Adar’ ganddynt fel tamaid i aros pryd ym mis Gorffennaf eleni – cân sydd wedi’i hysbrydoli gan hen chwedl am Nefydd Hardd, brenin cenfigennus a foddodd dywysog ifanc mewn llyn yn Eryri yn y deuddegfed ganrif.
Mae testun ‘Nefoedd yr Adar’ yn dweud popeth am olwg amgen Melin Melyn o’r byd ac mae mwy o’u bydysawd cerddorol unigryw yn disgwyl gwrandawyr Happy Gathering.
Mae dau drac arall ar yr EP, sef y gân roc gyflym ei thempo ‘Two For One’, a’r trac gwlad amgen pruddglwfus, ‘What Was That?’.
Dyma fideo ‘Nefoedd yr Adar’ gan griw Lŵp:
Un Peth Arall: Gŵyl y Wal Goch
Os nad ydy Cymru eisoes yn ffwtbol mad, yna fe fyddwn ni gyd ar y lori lwyddiant yn fuan iawn.
Mae tîm y dynion eisoes wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn Quatar, a neithiwr fe gymerodd tîm y merched un cam arall ar eu taith i gyrraedd rowndiau terfynol eu Cwpan y Byd hwythau yn Seland Newydd blwyddyn nesaf wrth ennill eu gêm ail gyfle gyntaf yn erbyn Bosnia.
Does dim amser mwy priodol i gyflwyno gŵyl sy’n dathlu pêl-droed yng Nghymru felly, ac fe fydd Gŵyl y Wal Goch yn digwydd yn Wrecsam rhwng 11 a 13 Tachwedd.
Mae cysylltiad agos rhwng pêl-droed a cherddoriaeth yng Nghymru, ac fe fydd digon o gerddoriaeth yn rhan o’r arlwy dros y penwythnos yn lleoliad The Rocking Chair.
Bydd yr ŵyl yn digwydd wythnos cyn i Gymru chwarae eu gêm gyntaf yn Quatar yn erbyn UDA ar 21 Tachwedd, felly bydd y lefelau cyffro trwy’r to.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys sgyrsiau, ffilm, celf a mwy ac mae leinyp cryf o artistiaid cerddorol hefyd sy’n cynnwys Ani Glass, Chroma, Adwaith a Gruff Rhys ymysg eraill.