Gig: Fideos Steve Eaves @ Ffarout
Wel, mae unrhyw gigs oedd i fod i ddigwydd wedi’u canslo diolch i Covid, felly cyfle da i dynnu sylw unwaith eto at y gwaith gwych mae Ffarout yn gwneud ar eu sianel YouTube.
Mae Ffarout bellach yn atgyfodi deunydd ffilm cerddorol Cymraeg amrywiol o’r archif ar YouTube ers sawl blwyddyn, a’r stwff diweddaraf i ymddangos ydy cyfres o ganeuon Steve Eaves yn cael eu perfformio’n fyw yn gig ‘Cicio’r Castell’ ym 1991.
Roedd hwn yn gig reit arbennig, sydd ychydig yn chwedlonol erbyn hyn, a gynhaliwyd yng Nghastell Carreg Cennen yn Sir Gâr. Roedd llwyth o artistiaid gwych o’r cyfnod yn perfformio ac fe gafodd ei ddarlledu ar S4C ar y pryd.
Mae 5 o ganeuon set Steve wedi eu llwytho i sianel YouTube Ffarout, gan gynnwys yr ardderchog ‘Noson arall efo’r Drymiwr’:
Cân: ‘Machlud’ – Sywel Nyw
Heddiw mae Sywel Nyw yn rhyddhau ei ddeuddegfed sengl mewn 12 mis.
Tipyn o gamp, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ychwanegu at yr her trwy addunedu i gyd-weithio gydag artist gwahanol ar bob un o’r traciau…er ei fod wedi edrych yn go agos at adref ar gyfer ei sengl ddiweddaraf!
‘Machlud’ ydy enw’r sengl newydd, ac yn ôl Lewys Wyn sy’n gyfrifol am brosiect Sywel Nyw, mae’r teitl y gallu awgrymu sawl peth.
“Ma Machlud yn gallu cyfeirio at sawl peth…machlud ar y prosiect ac ar y flwyddyn neu machlud ar gyfnod penodol.”
“Y bwriad efo hon odd just sgwennu ‘wbath weddol commercial, poppy, ‘wbath weddol syml. Ma hi’n dwyn dylanwad gan bobl fel Frank Ocean.”
Mae’r prosiect uchelgeisol wedi arwain at weld Sywel Nyw yn rhyddhau senglau gyda llwyth o artistiaid gwych wrth gwrs.
Mae y rhain wedi cynnwys Mark Roberts, Casi Wyn, Gwenno Morgan, Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith, Glyn Rhys-James o’r grŵp Mellt, Lauren Connelly, Steff Dafydd o’r grŵp Breichiau Hir, Endaf Emlyn, Iolo Selyf o’r grŵp FFUG a Dione Bennett.
Er hynny, mae gan Sywel Nyw gysylltiad agos iawn â’i westai diweddaraf…gan mai ei alter ego, Lewys Wyn ydy’r gwestiau hwnnw!
Nid y sengl olaf yma ydy diwedd y prosiect cofiwch, mae albwm sy’n casglu’r cyfan ynghyd ar y ffordd yn fuan iawn ar 21 Ionawr.
Bravo Sywel Nyw, bravo.
Record: Late December 2021 – Ratatosk
Mae Ratatosk yn artist sydd wedi dal ein llygad dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi gwneud hynny eto wrth ryddhau ei record fer newydd dan yr enw Late December 2021 ar 23 Rhagfyr.
Mae’r sengl newydd ar gael yn ddigidol ar ei safle Bandcamp nawr.
Ratatosk ydy prosiect y cerddor profiadol Rhodri Viney, sydd hefyd yn aelod o’r band amlwg Right Hand Left Hand, ac sy’n disgrifio’i gerddoriaeth unigol fel ‘gwerin trist’.
Daliodd Ratatosk sylw Y Selar ar ôl rhyddhau’r cryno-albwm, Yn Canu, ym mis Gorffennaf 2021 – casgliad oedd yn gymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg.
Nid prosiect newydd ydy Ratatosk cofiwch, rhyddhaodd Rhodri ei record gyntaf fel Ratatosk, The Cecil Sharp Songs, yn 2007, ac mae wedi rhyddhau 9 o recordiau ers hynny – cwpl o senglau, ond y gweddill yn EPs neu albyms. Mae’r cyfan ar ei safle Bandcamp.
Er yn rhyddhau ar drothwy’r Nadolig, dywed Rhodri ei fod yn “gadael y caneuon Nadolig i’r arbenigwyr” ond ei fod yn teimlo bod rhaid iddo wneud rhywbeth ar ddiwedd blwyddyn heriol arall. Mae’n disgrifio’r caneuon newydd fel rhai ‘gaeafol’.
”Ar ôl ymdopi gyda blwyddyn erchyll arall oedd yn ymddangos i fod yn gwaethygu wrth fynd ymlaen, ro’n i’n teimlo bod rhaid i mi wneud…rhywbeth” meddai Rhodri.
“Felly, dyma rywbeth: cân ac ychydig o sgetsys offerynnol gyda naws gaeafol.
“Ro’n i eisiau ceisio dal y teimlad yna o’r amser arbennig yma o’r flwyddyn, pan fyddwch chi’n deffro yn y bore, edrych allan trwy’r ffenestr, amsugno’r prydferthwch perffaith a meddwl “o na, nid diwrnod arall.”
Dyma drac olaf y casgliad byr, ‘Ager’:
Artist: Dafydd Hedd
Mae’r cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, wedi cyhoeddi’r newyddion ei fod wedi arwyddo gyda label Bryn Rock.
A heb oedi dim, ddiwrnod yn ddiweddarach bu iddo gyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei sengl gyntaf ar y label ar 14 Ionawr dan yr enw ‘Atgyfodi’.
Cân “pop-dawns” ydy hon yn ôl Dafydd, ac mae’r cerddor ifanc yn falch iawn i allu ymuno â label gan deimlo y bydd yn gwneud bywyd yn dipyn haws iddo o ran rhyddhau cerddoriaeth ar ôl gwneud popeth yn annibynnol cyn hyn.
“Mae’n grêt mod i wedi seinio [gyda’r label] achos o’n i efo CD Baby o’r blaen ac oedden nhw jyst yn drafferth…oedden nhw’n cymryd hanner royalties fi am wneud rwbath oedd ddim yn helpu fi o gwbl” eglurodd Dafydd.
Mae hefyd yn credu y bydd cefnogaeth label yn help mawr iddo o ran marchnata a hyrwyddo ei gerddoriaeth, yn enwedig o ran y cyfryngau a chynulleidfa Gymraeg.
Er mai ‘Atgyfodi’ ydy’r unig gynnyrch sydd wedi’i gynllunio’n bendant hyd yma, mae’n gobeithio bydd llawer mwy i ddilyn.
“Mae gena’i hefyd ganeuon wedi’u sgwennu ar y funud, dwi’n y Brifysgol a dwi’n trio fy ngorau i fynd i stiwdio i recordio a sgwennu pan ma’n bosib ond trio gigio a chael mwy o gigs ydy’r boi ar y funud.
“Dwi’n dal i drio sgwennu ond dwi’n trio peidio gor-wneud hi mewn ffordd…dwi’m yn mynd i ryddhau cân os nad ydw i’n hollol hapus efo fo, falla rŵan dwi’n dechrau bod bach mwy ffysi efo be dwi’n rhoi allan ‘llu.”
Ag yntau’n gweithio’n hollol annibynnol cyn hyn, mae Dafydd wedi llwyddo i ryddhau dau albwm ac EP yn barod yn ystod ei yrfa fer. Rhyddhawyd yr albwm ‘Y Cyhuddiadau’ ganddo yn 2019, ac yna ‘Hunanladdiad Atlas’ yn 2020 cyn i’r EP ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’ lanio ym Mehefin 2021.
Gobaith y cerddor ifanc ydy y bydd cael cefnogaeth label fel Bryn Rock yn agor drysau newydd iddo.
“Dwi’n gobeithio hefyd bydd bod ar label yn golygu bydd pobl sy’n trefnu gigs yn cymryd fi’n fwy serious.
“Gobeithio fod o’n destament i’r gwaith dwi wedi gwneud dros y flwyddyn a rhaid i mi gyfaddef ei fod o’n deimlad rili da. Dwi hefyd yn ffan mawr o Jacob Elwy [sy’n rhedeg y label] a Morgan Elwy a dwi’n rili hoffi cerddoriaeth nhw. Dwi’n methu gweld neb fyswn i’n hoffi gweithio efo’n fwy na nhw.”
Dyma Dafydd yn perfformio’i drac ‘Colli ar fy Hun’ ar raglen Heno’n ddiweddar:
Un Peth Arall: Fideo ‘A Oes Heddwch’
Rhywbeth bach y gallech chi fod wedi’i golli jyst cyn y Nadolig, ond mae’n sicr yn werth tynnu sylw ato eto.
Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y sengl ‘A Oes Heddwch’ gan Tacsidermi a Sister Wives ar eu llwyfannau ar-lein.
Roedd y trac yn un hanner sengl ddwbl a ryddhawyd ar label Recordiau Libertino ar 25 Tachwedd, gydag ‘O Fy Nghof’ yn ail drac.
Roedd y fideo newydd allan ar yr un diwrnod ag y rhyddhawyd y sengl ddwbl ar ffurf record feinyl nifer cyfyngedig. Yn anffodus i ni, ar y pryd, roedd y copïau feinyl wedi’u gwerthu i gyd ar y diwrnod rhyddhau swyddogol ond mae si bod ail rediad o’r record yn mynd i gael eu cynhyrchu – gwyliwch y gofod.
Dyma’r fid: