Pump i’r Penwythnos – 08 Gorffennaf 2022

Gig: Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin – 09/07/22

Tipyn o gigs bach da penwythnos yma, ac mae cwpl o wyliau eraill ar yr arlwy hefyd. 

I gicio pethau ffwrdd heno, mae cyfle i weld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Betws, Rhydaman gydag elw at Eisteddfod yr Urdd 2023

Yna’n symud ymlaen i nos fory mae Gŵyl Tawe yn y Railway Inn, Abertawe gyda Los Blancos, Ynys, Parisa Fouladi ac Y Dail yn chwarae. 

Ond Caerfyrddin ydy’r lle i fod fory gyda Gŵyl Canol Dre ar Barc Myrddin yn ystod y dydd. Mae artistiaid y Llwyfan Perfformio yn cynnwys Candelas, Al Lewis, Mari Mathias, Pwdin Reis, Los Blancos Eädyth a mwy. 

Yna gyda’r hwyr, mae gig arall yn CWRW yn y dref, gyda band y funud, Adwaith yn perfformio gyda chefnogaeth gan Sybs a Gillie. 

 

Cân: ‘Lloches’ – Ni

Prosiect newydd a diddorol iawn sydd wedi dod i sylw’r Selar yn ddiweddar ydy Ni. 

Pwy ydy Ni? Wel y cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins ydy’r prif egni tu ôl i’r prosiect sydd wedi’i sefydlu’n bennaf gyda’r nod o godi arian i gynnig cymorth i’r argyfwng bwyd yn Yemen ar hyn o bryd. 

Mae Kris wedi gweithio gyda llwyth o artistiaid amlwg dros y blynyddoedd, ac mae wedi manteisio ar y cysylltiadau hyn trwy ffurfio partneriaeth gyda rhai ohonynt i recordio a rhyddhau’r sengl ‘Lloches’. 

Yr artistiaid ierall sy’n rhan o’r prosiect ydy’r hen ben Gruff Rhys, ynghyd a’r ddau gerddor ifanc Huw Griffiths ac Elin Griffiths o’r grŵp newydd, Y Dail. . 

Yn ogystal â chodi arian, mae’r sengl yn codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng bwyd gwaethaf yn y byd sy’n bodoli yn Yemen ac yn alwad ar bawb i weithredu cyn gynted a phosib. 

Mae dros bum mlynedd o wrthdaro yng Ngweriniaeth Yemen wedi gadael miliynau o bobl heb gartref, yn dioddef ac yn newynu. Yn ôl Islamic Relief, mae dros ddwy filiwn o blant dan bump oed yn dioddef o ddiffyg maeth acíwt.

Recordiodd Kris y trac y llynedd fel rhan o brosiect albwm ehangach, ond roedd geiriau’r trac yn teimlo’n ddigon perthnasol i’w rhyddhau nawr meddai, yn enwedig o ystyried ymateb y cyfryngau i’r hyn sydd wedi bd yn digwydd yn yr Wcrain yn ddiweddar. 

“Mae’r hyn sy’n digwydd yn yr Wcráin yn ofnadwy, does dim dianc o’r ffaith,” eglura Kris. 

“Ond mae wedi bod yn digwydd yn Yemen ers blynyddoedd, a phrin y sonnir amdano yma. Mae gen i deulu â threftadaeth Yemeni ac mae gan Gaerdydd gymuned Yemeni ers bron i 200 mlynedd – adeiladwyd y mosg cyntaf yn Butetown ym 1860. Serch hynny, nid yw hon yn daith hiraeth o bell ffordd. Mae, heb os, yn ymwneud â’r presennol.”

Cân dda iawn at achos da iawn, cefnogwch os allwch chi:

Artist: Lisa Pedrick 

Un artist sydd wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf ydy Lisa Pedrick. 

Mae llai na mis ers iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf,Numero Uno’, ond mae Lisa nôl gyda sengl arall newydd sbon. 

‘Camddyfynnu’ ydy enw’r trac newydd gan y ferch o Waun-Cae-Gurwen, ac fe fydd, ynghyd â ‘Numero Uno’, yn ymddangos ar ei EP nesaf, Dihangfa Fwyn sydd allan ddiwedd mis Gorffennaf. 

Mae ‘Camddyfynnu’, fel ‘Numero Uno’ a ‘Seithfed Nef’ cyn hynny, yn sengl fachog a hwylus i’r glust sydd hefyd yn trosglwyddo neges bwysig i’r gwrandawyr. 

Ysgrifennwyd y gân sawl blwyddyn yn ôl ar ôl i Lisa ei hun gael ei chamddyfynnu mewn papurau newydd, nid unwaith, ond ddwywaith. Mae’r hen ddywediad o beidio a chredu popeth ry’ch chi’n ei ddarllen yn y papurau yn cael bywyd newydd yn Camddyfynnu.

“Ro’n i’n grac iawn pan ‘sgrifennais i’r gân yn wreiddiol” eglura Lisa wrth drafod testun y gân. 

“Ro’n i’n grac gyda’r newyddiadurwyr ond hefyd yn grac gyda fi fy hun am gytuno i siarad â nhw.

“Yn ogystal ag atgyfnerthu’r neges bod gwybodaeth yn y dwylo anghywir yn beryglus mae’r gân hefyd yn ein hatgoffa i beidio a chredu popeth ry’n ni’n ei ddarllen – yn enwedig yn y byd yma sydd ohoni heddiw lle mae pob peth yn cael ei wneud ar hast er mwyn bod y cyntaf i dorri newyddion.”

Mae’r sengl allan ers dydd Mercher ar label Recordiau Rumble, a byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr EP newydd pan fydd yn ein cyrraedd ni!

 

 

Record: Mae Na Olau – Pedair

Mae ‘na lot o sôn am siwpyr-grŵps ac mae gweld aelodau neu gyn-aelodau o grwpiau’n dod ynghyd i ffurfio prosiect newydd yn beth digon cyffredin yma yng Nghymru. 

Ond mae’n deg dweud bod Pedair wir yn haeddu’r teitl siwpyr-grŵp gyda phedair aelod sydd wedi gwneud ei marc o ddifrif ar y byd cerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd.

Pedair ydy Siân James, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard ac mae eu halbwm cyntaf allan heddiw. 

Daeth yr aelodau ynghyd gyntaf bum mlynedd yn ôl ar gyfer gig arbennig yn Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. 

Yn ôl y grŵp, mae eu halbwm cyntaf yn ddarn o waith sy’n crisialu eu teimladau, eu profiadau a’u dyheadau wrth iddyn nhw werthfawrogi rhai o bethau pwysig bywyd – y byd o’n cwmpas, iaith a thraddodiad, cyfeillgarwch a gobaith.

Mae’r albwm yn ddilyniant i gyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau gan Pedair ers mynd ati i recordio gyntaf yn ystod y cyfnod clo yn 2020. 

Mae’r bum cân a recordiwyd ganddynt yn eu cartrefi dros y cyfnod clo wedi eu cynnwys ar yr albwm ac mae’r gweddill yn ganeuon sydd wedi tyfu a ffurfio dros y flwyddyn ddiwethaf, y cyfan yn dod ynghyd i greu cyfanwaith sy’n gyfuniad perffaith o’r gwerin a’r gwreiddiol ac yn arddangos eu doniau fel chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin a’u crefft fel cantorion-gyfansoddwyr medrus. 

Drwy seiniau’r lleisiau, y gitârs, y telynau, y piano, yr acordion a’r organ geg, maent yn rhoi bywyd newydd i ganeuon gwerin cyfarwydd ac anghyfarwydd tra ar yr un pryd cawn ganddynt brofiadau oesol ar ffurf newydd sbon. 

Mae’r brodyr Aled Wyn Hughes a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) wedi cyfrannu at y recordiadau ar y bas a’r drymiau gan helpu dod a’r hen a’r newydd, y cyfoes a’r traddodiadol yn un i greu llais unigryw y bedair.

Aled Wyn Hughes sydd wedi cyd-gynhyrchu’r albwm gyda’r aelodau hefyd, ac mae’r grŵp yn dweud bod ei gyfraniad wedi bod yn hollol ganolog i’r record. 

“Rydw i wedi cael y pleser o weithio efo Pedair o’r cychwyn” meddai Aled.  

“Mae eu gallu a’u dyfeisgarwch wrth greu cyfanweithiau drwy gyfuno amrywiol agweddau o gerddoriaeth werin a thraddodiadol yn rhyfeddol.”  

Mae tair cân ar ddeg ar yr albwm i gyd, gydag wyth trac newydd a recordiwyd yn Stiwdio Sain rhwng Medi 2021 ac Ebrill 2022 yn cael eu hychwanegu at y pump a recordiwyd ar wahân yn ystod y cyfnod clo.  

Dyma un o’r rheiny, sef ‘Saith Rhyfeddod’: 

 

Un Peth Arall: Zine newydd Merched yn Gwneud Miwsig

Mae prosiect Merched yn Gwneud Miwsig wedi cyhoeddi zine diweddaraf y prosiect. 

Neb llai na phrif ganwr y grŵp Chroma, Katie Hall, sydd wedi curadu’r cylchgrawn digidol diweddaraf, sef y chweched rhifyn o’r zine. 

Cadi Dafydd Jones (Torri a Gludo) sy’n gyfrifol am waith celf a dylunio’r rhifyn ac mae’n cynnwys cyfraniadau hefyd gan Priya Hall, Megan Winstone, Gwynon Mair, Alaw Griffiths, Jess Heap, Hannah Tottle a Jess Ball. 

Joio rhain – porwch y zine isod:

MYGM