Pump i’r Penwythnos – 09 Rhagfyr 2022

Gig: Tecwyn Ifan, Mari Mathias – Tafarn y Cwps, Aberystwyth – 15/12/22

Nid dros y penwythnos mae ein dewis o gig wythnos yma, ond fe fydd yn digwydd cyn ein Pump i’r Penwythnos nesaf felly gwell rhoi mensh heddiw! 

Mae hefyd yn gig arwyddocaol i’r Selar gan ei fod yn ddathliad o enillydd diweddaraf Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar. 

Tecwyn Ifan fydd seren y sioe yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth nos Iau nesaf ac fe fydd yn siŵr o fod yn noson gofiadwy wrth i Tecs beltio ei gatalog o glasuron. Cefnogaeth gan yr artist ifanc o odre Ceredigion, Mari Mathias felly mae’n siŵr o fod yn gig ardderchog os allwch chi gael pas ar noson ysgol! 

 

Cân: ‘Dolig Diddiwedd’ – Elis Derby 

Ydyn, mae’r senglau Nadolig blynyddol yn dechrau ymddangos fflat owt ar hyn o bryd gyda sawl un newydd allan dros yr wythnos ddiwethaf. 

Un o ffynhonnell reit annisgwyl ydy ymgais Elis Derby sydd allan heddiw, ‘Dolig Diddiwedd’.

Nid Elis fyddai eich dewis amlwg o artist i ryddhau cân Nadolig, ond fel y byddech chi’n ei ddisgwyl nid rhyw gân fach sentimental neis neis ydy hon. 

Na, mae ‘Dolig Diddiwedd’ yn deyrnged o fath i’r ffilm Die Hard – ffilm sydd wedi arwain at sawl dadl pan ddaw at y genre ffilmiau Nadolig!  

Mae’r ffans hardcôr yn sicr eu barn ei bod yn haeddu ei lle ar frig y siart ffilmiau Nadolig, ond byddai rhai yn dadlau nad ydy ffilm antur am saethu ‘bad guys’ a dringo adeilad anferth drwy deithio drwy ei system awyru yn cyd-fynd yn llawn â gwir ysbryd yr ŵyl! 

Artist: Alis Glyn

Sylw wythnos yma i artist arall sydd wedi rhyddhau sengl Nadoligaidd ei naws wythnos yma. 

Alis Glyn ydy’r artist ifanc dan sylw ac mae wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 2 Rhagfyr.

‘Golau’ ydy enw’r trac sydd allan ar label Recordiau Aran ac mae’n alaw fach neis iawn gan y ferch ifanc. 

Mae Alis yn 15 oed ac fe ddaw o Gaernarfon. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ar hyn o bryd ac wrth ei bodd yn cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon. 

Teg dweud ei bod yn un o straeon llwyddiant prosiect Merched yn Gwneud Miwsig a hithau wedi bod ar ddau benwythnos preswyl y prosiect dan ofal Urdd Gobaith Cymru a Chlwb Ifor Bach yng Ngwersyll Glan Llyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd y cyfle felly i elwa ar  gyfarfod a chyd-gyfansoddi gyda cherddorion a pherfformwyr eraill, ac mae’n dda gweld hynny’n dwyn ffrwyth. 

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn brysur i Alis wrth iddi berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron a Ffair Nadolig Glynllifon.

Da gweld ei sengl gyntaf allan felly, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy ganddi yn 2023! 

Record: Mali Hâf EP 

Da gweld Mali Hâf yn rhyddhau ei EP cyntaf yn ddiweddar wrth i’r artist cyffrous o Gaerdydd fynd o nerth i nerth. 

EP hunan-deitlog ydy ei chynnyrch swmpus cyntaf yn dilyn cyfres o senglau ganddi dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Mae rhain wedi cynnwys  y ddwy sengl ddiweddar, ‘Pedair Deilen’ a ‘Fern Hill’ fel tamaid i aros pryd nes yr EP.

Mae harddwch yn rhedeg fel plethen Geltaidd drwy’r caneuon, ac mae arddull unigryw Mali i’w glywed ym mhobman. 

Mae’r byd natur yn amlwg yn bwysig iawn i Mali, ac fe welir hyn yn ‘Pili Pala’s Prayer’, cân sydd wedi ei dylanwadu arni gan un o hoff awduron Mali, Phillip Pullman. 

Un arall o’r caneuon ar y casgliad ydy ‘Llygaid Tara’ sy’n faled ysbrydol ac sydd â neges ddofn yn ôl y gantores.  

Mae’n cychwyn fel cân serch gonsesiynol, ond yn datblygu i fod yn gân serch i fyd natur y blaned a’r gwerthoedd ysbrydol sy’n deillio o hynny” eglura Mali. 

“Duwies Bwdiaidd yw Tara, sy’n dangos tosturi a chariad at bopeth sy’n byw”

Casgliad bach neis iawn gan Mali a’r ffordd ddelfrydol i gloi blwyddyn lwyddiannus iddi. 

Dyma ‘Llygaid Tara’: 

 

Un Peth Arall: Olfflach i Seiat yn Y Selar

Naid nôl mewn amser ar gyfer ein ‘un peth arall’ wythnos yma, a hynny i lansiad unigryw Llyfr Y Selar a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa bum blynedd yn ôl. 

Bryd hynny, credwch neu beidio, roedd gigs rhithiol yn teimlo fel syniad o ffilm sci-fi! Ond fe dorrodd Y Selar dir newydd trwy gynnal y lansiad rhithiol cyntaf erioed ar gyfer llyfr yn yr iaith Gymraeg, gyda gig bach Yws Gwynedd yn rhan o’r digwyddiad. 

Seiat yn Y Selar oedd enw’r digwyddiad unigryw oedd i’w gynnal mewn lleoliad dirgel na gafodd ei datgelu nes y noson. Selar y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth oedd y lleoliad dirgel hwnnw ac roedd nifer fach iawn o gynulleidfa, rhyw 20 o bobl, wedi ennill tocyn aur i fod yno mewn noson dan ofal Rhys Gwynfor. 

Mae’n amlwg bod y digwyddiad wedi dal y dychymyg gan i filoedd o bobl wylio’r lansiad ar Facebook – y gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer lansiad llyfr Cymraeg ar y pryd, mae hynny’n weddol sicr. 

Uchafbwynt y noson oedd perfformiad Yws Gwynedd o’i gân Nadolig wych. Mae gwylio’r noson nôl yn siŵr o gynhesu’r galon dros y penwythnos oer sy’n ein hwynebu!