Pump i’r Penwythnos – 1 Ebrill 2022

Gig: Gig Ffrinj Gŵyl 6 Music – Clwb Ifor Bach – 02/04/22

Caerdydd ydy’r lle i fod penwythnos yma i unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth wrth i Ŵyl 6 Music ymweld â phrifddinas Cymru. 

Mae llwyth o gerddoriaeth wych i’w weld yng nghanolfannau mawr Caerdydd – nifer o enwau amlwg ar lefel rhyngwladol. Mae ambell artist Cymraeg wedi llwyddo i gael slot yn y gigs mawr hefyd gan gynnwys Gwenno yn Y Plas a Carwyn Ellis yn y Tramshed ddydd Sadwrn. 

Mae cyfle hefyd i weld Gruff Rhys yn Neuadd Dewi Sant a Georgia Ruth yn y Tramshed ddydd Sul. 

Ond os edrychwn ni ychydig y tu hwnt i’r prif ganolfannau, mae ‘na glamp o gig da yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sadwrn – gŵyl sy’n sefyll ar ei draed ei hun mewn gwirionedd. Ymysg yr enwau sy’n perfformio yn yr ŵyl ffrinj yn Clwb mae Bandicoot, Los Blancos, Melin Melyn a Mellt. 

 

Cân:  ‘Drama Queen’

Debyg iawn fod  Tara Bandito ymysg yr enwau cerddorol mwyaf amlwg yn 2022 hyd yma yng Nghymru ac mae nôl gyda’i thrydedd sengl o’r flwyddyn, ‘Drama Queen’. 

Mae sengl ddiweddaraf ’ yn ddilyniant i ddwy sengl flaenorol Tara Bandito – rhyddhawyd ‘Blerr’ ym mis Ionawr eleni, ac yna ‘Rhyl’ ym mis Chwefror.  

Mae’r senglau hyn, ynghyd â’r fideos gwych i gyd-fynd â hwy, wedi creu dipyn o argraff a bydd ‘Drama Queen’ yn siŵr o gael ymateb tebyg. 

Dyma yn un o ganeuon mwyaf amrwd yr artist hyd yn hyn meddai, ac mae’n cynnwys curiadau a synau electroneg iwfforig, ond hefyd yn cadw i’r pop indî pur sydd wedi dod yn rhan annatod o’i cherddoriaeth. 

Mae’r gytgan “Ong Namo Guru Dev Namo” yn cyfieuthu i “Rwy’n ymgrymu i’r doethineb dwyfol ynof fy hun” sef llafargan a ddysgodd Tara allan yn India wrth hyfforddi fel athrawes yoga. 

Wrth gwrs, wedi llwyddiant fideos ‘Blerr’ a ‘Rhyl’, mae fideo trawiadol arall ar gyfer y drydedd sengl. Andy Neil Pritchard sy’n gyfrifol unwaith eto am y fideo hwn.  

 

Record: Smôcs, Coffi a Fodca Rhad

20 mlynedd yn ôl glaniodd artist ifanc gyda chryno albwm a grëodd dim llai na ffenomena cerddorol yma yng Nghymru fach.  

Smôcs, Coffi a Fodca Rhad oedd enw record gyntaf Meinir Gwilym, ac yn fuan iawn roedd y caneuon i’w clywed yn gyson ar y tonfeddi, a Meinir yn denu cannoedd i’w gigs. 

Does dim amheuaeth mai Meinir Gwilym oedd un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin rhwng tua 2002 a 2005, ac roedd hynny’n bennaf diolch i’r tiwns bachog a chofiadwy oedd ar y record 7 trac cyntaf yma. 

Ffrwydrodd poblogrwydd yr artist o Fôn diolch i draciau cofiadwy fel ‘Wyt Ti’n Gêm?’, ‘Dim Byd a Nunlla’ ac ‘Wyt Ti’n Mynd i Adael’ – traciau sy’n dal i gael eu chwarae’r rheolaidd ar y tonfeddi hyd heddiw. 

Label Gwynfryn Cymunedol ryddhaodd y record yn wreiddiol a chredir ei bod yn un o’r recordiau sydd wedi gwerthu orau yn y cyfnod hwnnw, os nad erioed yn y Gymraeg. 

Nawr, i nodi pen-blwydd y record yn 20 oed mae fersiwn newydd o’r casgliad yn cael ei ryddhau. 

Mae Meinir wedi mynd ati i ail-recordio’r caneuon yn acwstig a bydd y fersiynau newydd yma, ynghyd â’r fersiynau gwreiddiol ar y casgliad newydd, yn ogystal â thair cân wedi’u hail-gymysgu. 

Mae’r casgliad allan ers ddoe (31 Mawrth) ac ar gael yn ddigidol ac ar ffurf CD. 

Dyma un o’r traciau hynny grëodd gymaint o argraff yn 2002, ‘Wyt ti’n Gêm?’: 

Artist:Plu

Grêt i weld Plu yn ôl gyda chynnyrch newydd am y tro cyntaf ers peth amser. 

‘Storm dros Ben-y-Fâl’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth wythnos diwethaf, a dyma gynnyrch gwreiddiol cyntaf y grŵp ers eu halbwm diwethaf, Tir a Golau, a ryddhawyd nôl yn 2015. 

Y newyddion da pellach ydy mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl newydd, a blas cyntaf o albwm nesaf y grŵp, Tri, a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill.

Plu ydy’r triawd brawd a chwaer o Fethel ger Caernarfon, sef Gwilym Bowen Rhys a’i ddwy chwaer, Marged ac Elan Rhys. 

Er nad ydyn nhw wedi rhyddhau cynnyrch Plu ers rhai blynyddoedd, mae’r tri wedi parhau’n weithgar gyda phrosiectau eraill. Mae Gwilym wrth gwrs yn gigiwr prysura’ Cymru, ac wedi rhyddhau cwpl o albyms unigol – y diweddaraf o’r rhain, Detholiad o Hen Faledi II, ddim ond ar ddechrau mis Mawrth eleni

Mae Elan a Marged hefyd wedi bod yn lleisiau amlwg wrth iddynt gyd-weithio â Carwyn Ellis ar ganeuon prosiect Rio 18. 

Yn wir, mae’r tri wedi cyd-weithio gyda Carwyn Ellis yn y gorffennol, a hynny ar brosiect Bendith, sef enillydd albwm Cymraeg y flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2017

Ar gyfer yr albwm newydd maent wedi recriwtio talentau offerynnol Carwyn William, Dafydd Owain ac Edwin Humphreys er mwyn ychwanegu cyfoeth at sain acwstig arferol Plu. 

O’r hyn rydym yn deall, mae’r albwm newydd yn cynnwys cyfuniad o ganeuon â naws Americana, rhai amgen ac atmosfferig, yn ogystal â chaneuon gwerin-bop, i gyd â’r harmonïau hyfryd sydd wedi dod mor gyfarwydd i ni ar gerddoria eth Plu. 

Edrych mlaen i glywed mwy. Dyma nhw’n perfformio’r trac fel sesiwn ar gyfer gŵyl Tafwyl llynedd:

 

Un Peth Arall: Agor cystadleuaeth Brwydr y Bandiau

Ydach chi’n artist unigol neu fand newydd, neu wedi bod yn ystyried dechrau prosiect cerddorol? Dyma’r ysgogiad perffaith i chi fynd amdani – mae ffurflen gofrestru Brwydr y Bandiau Maes B ar agor nawr!

Mae rownd derfynol Brwydr y Bandiau’n digwydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ers sawl blwyddyn bellach ac mae Alffa, Mari Mathias, SYBS, Chroma a skylrk. ymysg yr enillwyr diweddar. Dyma’ch cyfle chi ymuno â’r rhestr ardderchog yma o enwau. 

Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu ydy 1 Mai, ac mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod. Mae angen i chi fod rhwng 16 a 25 oed i gystadlu, ond fel arall does dim cyfyngiadau ac maent yn croesawu artistiaid a bandiau o unrhyw genre cerddorol, ond i chi fod yn canu yn y Gymraeg wrth gwrs. 

Ar gyfer y rownd gyntaf, mae angen i chi recordio demo 15 munud sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 cân wreiddiol Gymraeg a bydd y beirniaid yn penderfynu pwy sy’n mynd ymlaen i Rownd 2. 

Bydd 4 band neu artist yn yr ail rownd, a’r cwbl yn recordio set 20 munud i’w ddarlledu ar Radio Cymru ymlaen llaw, gan hefyd berfformio’n fyw ar lwyfan perfformio maes yr Eisteddfod yn Nhregaron ar ddydd Mercher 3 Awst. 

Y wobr i’r enillydd? £1000 a slot gwerthfawr ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf y Steddfod. 

Ewch amdani bobl.