Gig: Gigs Plu – Aberystwyth a Chaerdydd – 10 + 11/06/22
Ar ôl gwallgofrwydd Gŵyl Triban yn Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf, mae’r gigs sydd ar y gweill penwythnos yma ychydig yn fwy hamddenol yr olwg.
Dau artist yn benodol sy’n dal y sylw gyda dau gig yr un, sef Gildas a Plu.
Bydd cyfle i weld Gildas ddwywaith ddydd Sadwrn – yn gyntaf yn y de yn Nhŷ’r Gwryd ym Mhontardawe gyda set gynnar am 11:30. Yna erbyn yr hwyr bydd Gildas (Arwel Lloyd) wedi teithio nôl i ardal ei fagwraeth i berfformio yn y Llew Coch yn Llansannan.
Dau gig gan Plu hefyd wrth iddyn nhw gloi eu cyfres o gigs i lansio eu halbwm diweddaraf, Tri.
Byddan nhw’n chwarae yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth heno, gyda Cerys Hafana yn gwmni.
Yna, nos fory, byddan nhw’n chwarae mewn lleoliad unigryw arall, sef yr Eglwys Norwyeg yng Nghaerdydd, gyda chefnogaeth gan Dafydd Owain (Eitha Tal Ffranco, Palenco).
Cân: ‘Paradis Disparu’ – Sŵnami
Mae wedi bod yn grêt i weld Sŵnami yn ôl gyda cherddoriaeth newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny’n parhau heddiw wrth iddynt ryddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Paradis Disparu’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp o Feirionnydd sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Dyma sengl ddiweddaraf ganddynt sy’n ddilyniant i ‘Be Bynnag Fydd’, a ryddhawyd yn gynharach eleni, a’r sengl ddwbl ‘Theatr’ / ‘Uno, Cydio, Tanio’, a laniodd llynedd.
Mae ‘Paradis Disparu’ yn flas pellach o ail albwm y grŵp, Sŵnamii (noder y ddwy ‘i’ – clyfar de!) sy’n cael ei ryddhau yn ystod yr haf eleni.
Mae’r gân yn trafod colled, fel yr eglura’r canwr a gitarydd, Ifan Davies.
“Mae ‘Paradis Disparu’ am y dasg amhosib o symud ymlaen ar ôl colli rhywun” meddai Ifan.
“Mae am droelli mewn i mania, a cheisio derbyn er bod yr hyn oedd yn arfer bod, wedi marw a’i golli, fod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen.”
Bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘Paradis Disparu’ yn cael ei gyhoeddi’n fuan sy’n cynnwys seren y sgrin, Callum Scott Howells, oedd ar gyfres deledu llwyddiannus ‘It’s A Sin’.
Artist: Sage Todz
Mae ambell gerddor wedi bod yn amlwg iawn yr wythnos hon diolch i’w perthynas gyda’r tîm, pêl-droed cenedlaethol, ac un o’r rheiny ydy’r artist drill Sage Todz.
Wrth baratoi at y gêm fawr yn erbyn yr Wcrain nos Sul, fe ryddhawyd trac newydd gan Sage Todz mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
‘O Hyd’ oedd enw’r trac i ysbrydoli tîm Cymru, ac mae wedi’i ryddhau’n swyddogol ar y llwyfannau digidol arferol heddiw.
Mae’r trac yn agor gyda sampyl o’r gân enwog ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan, sydd wedi dod yn anthem answyddogol y tîm pêl-droed cenedlaethol dros y gemau diwethaf. Mae hynny’n arwain at Sage Todz yn rapio’r geiriau “Dani yma yma. On the way to the top of game, ar ffordd i top y byd. Motch gan ni am dim awgrymau. Mae’r gwlad ei hun yn fach. Ond mae’r draig yn pwyso tunell.”
Sage Todz ydy Toda Ogunbanwo sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes ger Caernarfon. Fe ddaeth i amlygrwydd mawr yn gynharach yn y flwyddyn wrth gyhoeddi fideo o’i hun yn perfformio rhan o’i drac arddull drill Cymraeg gwreiddiol, ‘Rownd a Rownd’, ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rhyddhawyd y trac yn llawn fel sengl yn ddiweddarach ar 1 Ebrill.
Ar gyfer ‘O Hyd’ mae Toda, wedi recriwtio’r rapiwr o Abertawe, Marino, sy’n rapio pennill o’r o’r gân.
Mae hon yn diwn arall gan Sage Todz, ac rydan ni’n edrych ymlaen i’w chlywed hi droeon yn ystod taith Cymru i Gwpan y Byd yn Qatar.
Record: Yma o Hyd – Dafydd Iwan ac Ar Log
Artist arall sydd wedi cael llwyth o sylw yr wythnos hon o ganlyniad i bartneriaeth gyda’r tîm pêl-droed cenedlaethol ydy Dafydd Iwan.
Mae ei gân enwocaf, ‘Yma o Hyd’, wedi dod yn anthem answyddogol i gefnogwr a chwaraewyr Cymru, ac mae Dafydd wedi’i wahodd i’w pherfformio yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y ddwy gêm ail-gyfle enfawr i Gymru’n erbyn Awstria a’r Wcrain. Teg dweud ei bod wedi cyfrannu’n fawr at yr achlysur nos Sul wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Cymaint oedd impact hyn nes i ‘Yma o Hyd’ gyrraedd brig siart itunes ganol yr wythnos!
Mae’n ddealladwy fod y trac yma wedi cael cymaint o sylw wrth gwrs, ond roedden ni’n meddwl y byddai’n werth rhoi sylw i’r albwm o’r un enw hefyd.
Rhyddhawyd record hir Yma o Hyd ym 1983, ac mae’n bwysig nodi fod Dafydd yn cyd-weithio gyda’r band Ar Log ar y pryd, ac mae albwm Dafydd Iwan ac Ar Log ydy hwn.
Mae’n glamp o gasgliad 15 trac sy’n cynnwys y trac agoriadol ‘Y Wen Na Phyla Amser’ sydd er cof am DJ Williams, ‘Ffidil yn y To’ a’r glasur ‘Can y Medd’.
Ydy, mae ‘Yma o Hyd’ yn gân wych, ond i’r ffans newydd o’r cerddor, mae’n werth tyrchu’n ddyfnach i ôl-gatalog Dafydd Iwan.
Dyma’r ardderchog ‘Cân y Medd’:
Un Peth Arall: Sgwrs Selar @ Eisteddfod yr Urdd
Ddydd Sadwrn diwethaf fe wnaeth Y Selar gynnal sgwrs arbennig i drafod amrywiaeth yn y sin gerddoriaeth Gymraeg dan yr enw ‘Cymru Ni’ ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.
Roedd yr Urdd wedi gofyn i ni drefnu sgwrs fel rhan o ŵyl Triban, ac roedden ni’n teimlo fod y pwnc yma’n amserol ac yn bwysig iawn.
Mae cyfartaledd ac amrywiaeth ym mhob rhan o fywyd wedi bod yn bwnc trafod rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd Y Selar yn gweld yr achlysur fel cyfle perffaith i gael trafodaeth am hyn yn y cyd-destun cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn benodol.
Y gân ‘Cymru Ni’ gan Eädyth ac Izzy Rabey a ryddhawyd ym mis Rhagfyr oedd un o’r pethau a ysgogodd y sgwrs, ac roedd Izzy Rabey yn un o aelodau’r panel. Y gyflwynwraig Mirain Iwerydd oedd yn cadeirio’r drafodaeth gyda’r podledwraig, ysgrifenwr a DJ, Mari Elen, ynghyd ag Owain Williams o wefan gerddoriaeth Klust hefyd ar y panel.
Aeth y sgwrs i sawl cyfeiriad gan gwestiynu cyfartaledd yn y diwydiant cerddoriaeth o ran hil, cenedl, tuedd rhywiol, anabledd a mwy.
Nod y sgwrs oedd esgor ar drafodaeth iach ynglŷn ag amrywiaeth, a sut gall y sin gerddoriaeth wneud mwy i’w hybu, yn enwedig o safbwynt y cyfryngau amrywiol a tu ôl i’r llenni.
Bwriad Y Selar ydy parhau â’r drafodaeth hon mewn gwahanol ffyrdd dros y cyfnod nesaf, felly cadwch olwg am fwy.
Dyma recordiad o’r sgwrs.