Gig: Mari Mathias – The Moon, Caerdydd – 11/02/22
Gyda phethau wedi agor fyny ers ychydig wythnosau, mae’r calendr gigs yn dechrau llenwi eto, ac ambell gig go iawn yn digwydd.
Wrth iddi ryddhau ei sengl newydd, ‘Rebel’, heddiw mae Mari Mathias wedi bod yn gigio wythnos yma. Echnos roedd y cerddor gwerin ifanc yn hedleinio gig yn Porters, Caerdydd ac mae ganddi hefyd gig yn The Moon, Caerdydd heno’n cefnogi’r grwpiau Bridges a Redwood.
Dyma hi’n perfformio’r sengl newydd mewn sesiwn fach ar gyfer rhaglen Heno yn 2020:
Cân: ‘Y Milltiroedd Maith’ – Carcharorion
Trac newydd gan y ddeuawd electronig Carcharorion ydy’r diweddaraf i ymddangos o gasgliad dathlu deg label Recordiau I KA CHING.
Rydan ni wedi gweld cyfyr gan Candelas, trac newydd gwreiddiol gan Gwenno Morgan, ac wythnos yma ail-gymysgiad ydy’r offrwm diweddaraf.
Fersiwn newydd o’r gân ‘Y Milltiroedd Mawr’ gan Steve Eaves ydy hon gan Carcharorion sydd allan heddiw.
A hwythau wedi bod yn dawel ers ychydig flwynyddoedd, efallai bydd enw Carcharorion yn anghyfarwydd i rai. Prosiect electronig Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard ydy’r grŵp ac fe ryddhawyd ei EP cyntaf, Hiraeth, ar label Peski yn 2014.
Yn ddiweddarach, ymunodd Carcharorion ag I KA CHING er mwyn rhyddhau eu EP nesaf oedd yn rhannu enw’r grŵp.
Rhoi stamp unigryw o sampyls o leisiau Dr Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen oedd rhinwedd yr EP cyntaf, ond roedd yr ail yn canolbwyntio ar gyfansoddiadau gwreiddiol.
Mae’r grŵp wedi mynd i gyfeiriad fymryn yn wahanol eto gyda’u cyfraniad i gasgliad deng mlwyddiant I KA CHING trwy ail-gymysgu un o ganeuon Steve Eaves.
“Mae cerddoriaeth Steve Eaves yn ddylanwad enfawr ar gymaint o bobl,” eglura Gruff, sydd hefyd yn aelod o’r Ods.
“Mae’n fraint cael rhoi gwedd newydd i gân mor arbennig. Ryda ni wedi trio creu trac sy’n agored ond dwys er mwyn rhoi lle i’r gwrandäwr glywed llais a geiriau Steve o’r newydd.”
Rhyddhawyd y fersiwn wreiddiol o’r gân ym 1996 ar yr albwm gwych Steve Eaves, Y Canol Llonydd Distaw.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y fersiwn wedi’i ail-gysgu ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru neithiwr, oedd yn cael ei gyflwyno gan Ifan Sion Davies.
Dyma hi:
Record: Melyn – Adwaith
Newyddion cyffrous iawn yr wythnos yma oedd hwnnw bod cynnyrch newydd ar y ffordd gan y triawd ôl-bync arloesol, Adwaith.
Mae sengl newydd y grŵp o Gaerfyrddin, ‘Eto’, allan ar 22 Chwefror ac yn rhagflas o’u hail albwm, Bato Mato, fydd allan ym mis Gorffennaf.
Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn un cymharol dawel i Adwaith fel grŵp gyda’r aelodau’n manteisio ar y cyfle i weithio ar ambell brosiect amgen – mae’r gitarydd a phrif ganwr, Hollie, wedi cyd-weithio gyda’r grŵp hip-hop, Culture Vultures, a’r basydd, Gwenllian wedi ffurfio deuawd newydd Tacsidermi yn y cyfnod.
Grêt i glywed felly bod dilyniant ar y ffordd ar gyfer eu halbwm cyntaf hynod lwyddiannus, Melyn, a ryddhawyd yn 2018. Cyfle perffaith i estyn yr LP hwnnw o’r silff felly a’i osod ar y dec recordiau penwythnos yma.
Roedd Adwaith wedi hen sefydlu eu hunain cyn hynny gyda chyfres o senglau a gigs ym mhob cwr, ond seliodd Melyn yr hyn roedd pawb yn ei wybod, sef bod rhain yn grŵp arbennig iawn. Os oedd angen cadarnhad pellach, fe gafwyd hynny wrth i Melyn gipio teitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.
Mae’r albwm yn llawn o ganeuon cofiadwy – ‘Fel i Fod’, ‘Gartref’ a ‘Lipstick Coch’ i enwi dim ond tair. Ond efallai mai ein ffefryn ni ydy’r ardderchog ‘Y Diweddaraf’:
Artist: Pelydron
Artist newydd sy’n cael ein sylw yr wythnos hon, a cherddor sydd ar hyn o bryd wedi’i leoli y tu allan i Gymru fach.
Pelydron ydy enw prosiect cerddorol diweddaraf Keith Jones sy’n byw ym Mirmingham ar hyn o bryd.
Mae wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ar Bandcamp Pelydron ers peth amser, ond ddiwedd mis Chwefror fe fydd yn rhyddhau ei gynnyrch cyntaf ar label, sef y sengl ‘Canghenion’ fydd allan ar Recordiau Cae Gwyn.
Yn ôl Cae Gwyn, mae Pelydron yn endid creu cerddoriaeth sy’n cynnwys Keith ar y bas, y gitâr ac ar amryw offer taro.
Daw Keith yn wreiddiol o ogledd Cymru ond symudodd i ddinas Sheffield er mwyn dilyn cwrs celf. Fel mae cerddorion yn tueddu i wneud nawr ac yn y man, cefnodd ar ei astudiaethau academaidd er mwyn chwarae bas mewn band…sef Texas Pete.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa cafodd gryn lwyddiant gyda’r grŵp pync indie Navvy wrth i’w halbwm cyntaf, Idyll Intangible, dderbyn adolygiadau da gan yr NME ymysg llefydd eraill yn 2009.
Ynddengys mae’r ysgogiad dros sefydlu Pelydron oedd penderfyniad Keith i brynu gitâr bas newydd lliw banana yn ystod haf 2020!
Yn ôl Cae Gwyn mae’r prosiect yn ffatri dream pop ystafell wely sy’n cymysgu alawon hamddenol gyda seiniau pync, jingle-jangle a fuzz.
Bydd y sengl newydd allan ar 25 Chwefror gydag addewid i ‘arafu curiad eich calon gyda sain baradwysaidd ac effeithiau phaser, fuzz a reverb’.
Penderfynwch dros eich hun gyda’r fersiwn isod sydd eisoes wedi’i rannu ar Bandcamp Pelydron:
Un Peth Arall: Rhestrau Byr llawn Gwobrau’r Selar
Mae rhestrau byr Gwobrau’r Selar nawr yn gyflawn, a dim ar ôl i’w wneud bellach ond cyhoeddi’r enillwyr wythnos nesaf!
Mae’r Selar unwaith eto’n cyd-weithio gyda BBC Radio Cymru i gyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Selar eleni, a dros y bythefnos ddiwethaf mae’r rhestrau byr wedi bod yn cael eu datgelu un ar ôl y llal ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens.
Roedd Ifan Siôn Davies yn cadw sedd Huw yn gynnes ar ei raglen neithiwr, felly ei gyfrifoldeb ef oedd datgelu’r rhestrau byr olaf ar gyfer y categorïau ‘Seren y Sin 2021’, ‘Record Fer Orau 2021’ sy’n cael ei noddi gan Ddydd Miwsig Cymru, a ‘Band Gorau 2021’.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn rhaglenni arbennig gan Lisa a Huw wythnos diwethaf ar nosweithiau 16 a 17 Chwefror. Bydd enillwyr y gwobrau wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2021′, sy’n cael eu dewis gan dîm Y Selar, yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru ddydd Mercher nesaf hefyd.
Cadwch olwg hefyd am gynnwys aftershow arbennig Gwobrau’r Selar fydd yn ymddangos ar gyfryngau’r Selar ar ôl rhaglen Huw nos Iau nesaf.
Dyma’r rhestrau byr yn gyflawn eleni felly:
Seren y Sin 2021
Marged Gwenllian
Elan Evans
Carwyn Ellis
Endaf
Record Fer Orau 2021 (noddir gan Dydd Miwsig Cymru)
Mymryn – Hyll
Stoppen Met Rocken – Kim Hon
Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos
Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd – Dafydd Hedd
Band Gorau 2021
Bwncath
Band Pres Llareggub
Papur Wal
Breichiau Hir
Cân Orau 2021 (Noddir gan PRS for Music)
10/10 – Sywel Nyw a Lauren Connelly
Theatr – Sŵnami
Llyn Llawenydd – Papur Wal
Niwl – Dafydd Hedd / Endaf / Mike RP
Gwaith Celf Gorau 2021 (Noddir gan Y Lolfa)
Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir
Cashews Blasus – Y Cledrau
Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig – Los Blancos
Amser Mynd Adra – Papur Wal
Artist Unigol Gorau 2021
Sywel Nyw
Mared
Thallo
Elis Derby
Band neu Artist Newydd 2021
Ciwb
Morgan Elwy
N’famady Kouyaté
Kathod
Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021 (noddir gan S4C)
Arthur – Papur Wal
Hei Be Sy – Y Cledrau
Theatr – Sŵnami
Llyn Llawenydd – Papur Wal
Record Hir Orau 2021
Cashews Blasus – Y Cledrau
Amser Mynd Adra – Papur Wal
Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir
’Da ni ar yr un Lôn – Dylan Morris