Pump i’r Penwythnos – 11 Mawrth 2022

Gig: Los Blancos – Le Pub, Casnewydd – 12/03/22

Ambell gig bach da o gwmpas penwythnos yma, gan gynnwys cwpl o deithiau sydd ar y gweill. 

Mae The Trials of Cato nôl adref yng Nghymru fach ar ôl bod yn recordio eu halbwm newydd yn yr UDA, ac maen nhw’n dathlu gyda chyfres o gigs sydd eisoes wedi dechrau wythnos diwethaf. Mae cyfle i’w gweld nhw’n perfformio ddwywaith penwythnos yma, sef heno yn Theatr Mwldan, Aberteifi  yn ogystal â nos fory yn y Pafiliwn, Llandrindod

Mae The Gentle Good hefyd yn teithio ar hyn o bryd gan gefnogi Samantha Whates ac Ida Wenøe. Roedden nhw’n chwarae neithiwr yn Wrecsam, ond mae hefyd cyfle arall nos Sadwrn yn The Gate, Caerdydd

Ein prif argymhelliad o gig penwythnos yma ydy hwnnw mae Los Blancos yn hedleinio yng Nghasnewydd nos Sadwrn. Grêt gweld Los Blancos yn ôl ar lwyfan byw, a hynny yn un o leoliadau gigs mwyaf eiconig y de ddwyrain. Byddan nhw’n cael eu cefnogi gan Wylderness a Dwell – ewch draw os ydach chi yn y cyffiniau. 

Pa esgus gwell i rannu eu perfformiad o ‘Ti Di Newid’ yng Ngwobrau’r Selar 2019:

 

Cân:  ‘Annwn’ – Mari Mathias

‘Annwn’ ydy enw sengl newydd Mari Mathias sydd allan heddiw. 

Mae’r trac newydd yn ddilyniant i’r sengl ‘Rebel’ a ryddhawyd ganddi ddechrau mis Chwefror. 

Mae ‘Annwn’ hefyd yn flas pellach o albwm cyntaf Mari, yn ogystal â bod yn drac teitl i’r record hir, fydd yn cael ei ryddhau gan Recordiau JigCal ar 20 Mawrth. 

Gyda’r sengl newydd mae Mari a’i band yn arbrofi gyda cherddoriaeth werin ac yn creu cysylltiad rhwng cerddoriaeth draddodiadol a synau a themâu cyfoes. 

Annwn ydy’r enw ar yr ‘arallfyd’ ym mytholeg Cymru ac mae chwedlau, caneuon traddodiadol a melodïau gwerin wedi dylanwadu’n drwm ar y sengl a’r albwm. 

Mae ‘Annwn’ yn edrych ar ein cysylltiad â thirwedd, bywyd ac anifeiliaid gwyllt gan ddwyn ysbrydoliaeth hefyd o elfennau o fytholeg dywyll, hanes Geltaidd, ac o ‘American Horror Story’. 

Mae’r dylanwadau yma i’w canfod hefyd yn y fideo o’r trac sydd wedi’i greu gan Lŵp, S4C, lle gwelwn natur yn ymladd yn ôl yn erbyn byd o dechnoleg a newid hinsawdd. 

Roedd Annwn yn arallfyd llawn tylwyth teg y byddai Mari’n dianc iddo fel plentyn. Roedd y cerddor eisiau defnyddio’r gân yma i archwilio themâu hudol yn ogystal ag edrych ar themâu sy’n berthnasol at heddiw. 

Fel actores ac ysgrifenyddes sgript a astudiodd radd BA Perfformio yng Nghaerdydd, roedd hi’n awyddus iawn i ddod ag elfennau theatraidd i’r caneuon ac i’r fideos i alluogi’r gynulleidfa i ymgolli’n llwyr yn ei byd hi.

Mae cyfweliad arbennig gyda Mari yn rhifyn newydd Y Selar sydd ar y ffordd i’r mannau arferol dros yr wythnos neu ddwy nesaf – cadwch olwg am hwn.

 

Record: Detholiad o Hen Faledi II – Gwilym Bowen Rhys

Ydy, mae un o artistiaid prysura’ Cymru, yn enwedig o ran gigio, wedi ffeindio amser i recordio a rhyddhau albwm newydd.

Rhyddhawyd albwm diweddaraf Gwilym Bowen Rhys, sef Detholiad o Hen Faledi II, ar Ddydd Gŵyl Dewi, a ddylai hi ddim bod yn ormod o syndod i chi glywed fod ei record hir ddiweddaraf yn ddilyniant i’r albwm Detholiad o Hen Faledi a rhyddhawyd yn 2018. 

Mae pedwerydd albwm y cerddor gwerin yn ffrwyth ymchwil ganddo i hen eiriau ac alawon baledi sydd wedi mynd yn angof. 

Bwriad Gwilym ydy dod â’r caneuon traddodiadol yma’n ôl i’r amlwg, ac mae’n siŵr y byddwch eisoes wedi clywed rhai o’r traciau yma ganddo mewn gigs. 

Yn ôl Gwilym, mae baledi yn rhan annatod o fywyd gwerin Cymru ac mae’n credu ei bod yn hollbwysig i’w cadw’n fyw. 

“Mae baledi nid yn unig yn elfen bwysig o’n traddodiad cerddorol a barddol ni, mae hefyd yn rhoi darlun o gymdeithas pobl gyffredin yng Nghymru yn y blynyddoedd a fu” meddai Gwilym. 

“Dwi wrth fy modd o gael y cyfle i rannu dipyn bach o ffrwyth fy ymchwil gydag eraill.” 

Unwaith eto mae Gwil wedi gweithio gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes, a’r holl ganeuon wedi’u recordio dros ddeuddydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Label Recordiau Erwydd sy’n rhyddhau’r casgliad ac mae ar gael i’w ffrydio ac i’w brynu ar CD ar safle Bandcamp Gwilym Bowen Rhys. Bydd hefyd ar gael mewn siopau ac ar y llwyfannau digidol arferol eraill yn fuan.

 

Artist: The Trials of Cato

Mae’r grŵp gwerin cyfoes dwy-ieithog, The Trials of Cato, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y byddant yn perfformio dros yr wythnosau nesaf. 

Mae’r grŵp newydd ddychwelyd o UDA ble’r oedden nhw’n recordio eu halbwm newydd. 

Er mwyn dathlu maen nhw’n cynllunio cyfres fer o gigs sy’n ymweld â sawl cwr o Gymru. Roedd y cyntaf o’r rhain yn stiwdio Acapela ger Caerdydd nos Sadwrn diwethaf (5 Mawrth) a byddan nhw hefyd yn perfformio ym Mangor, Aberteifi, Llandrindod ac Aberystwyth.

Ffurfiwyd The Trials of Cato gan y triawd Tomos Williams, Will Addison a Robin Jones yn 2017 ond gadaodd Addison y grŵp yn 2020 gyda’r canwr a chwarewr mandolin Polly Bolton yn ymuno yn ei le

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Hair and Hide’, yn 2018 ac fe enillodd wobr yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2019

Bydd cryn edrych ymlaen felly at eu halbwm newydd, ‘Gog Magog’ fydd allan yn fuan. 

Mae’r grŵp hefyd wedi datgelu’n ddiweddar y byddan nhw’n perfformio yng ngwyliau Beautiful Day yn Devon eleni, ynghyd â Gŵyl Werin Caergrawnt. 

Gigs The Trials of Cato ar y gweill: 

10 Mawrth – Pontio, Bangor 

11 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi

12 Mawrth – The Grand Pavilion, Llandrindod 

20 Ebrill – Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth 

 

Un Peth Arall: Sage Todz

Dyma enw sydd wedi bod bron yn amhosib i’w osgoi wythnos yma diolch i fideo gan y cerddor sydd wedi dal tipyn o sylw ar Twitter. 

Rapiwr 22 oed o Benygroes ydy Sage Todz, sef enw perfformio’r gŵr ifanc Toda Ogunbanwo. 

Er ei fod o wedi rhyddhau EP o ganeuon Saesneg ym mis Chwefror, mae deg dweud nad oedd o’n enw amlwg iawn i’r gynulleidfa Gymraeg nes wythnos yma. 

Ddydd Llun fe rannodd fideo o’i hun yn rapio cân mewn arddull drill ar Twitter, ac ers hynny mae ei enw wedi bod ar wefusau pawb sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. 

Mae ‘na gyfweliad difyr gyda Toda ar wefan Cymru Fyw y BBC lle mae’n egluro ychydig mwy am yr hyn sydd wedi ysgogi ei gerddoriaeth. 

Mae hefyd yn werth i chi wrando ar ei EP a ryddhawyd fis diwethaf.  Yn ôl y cerddor mae’n gweithio ar ganeuon Cymraeg ar hyn o bryd, felly mae’r Selar yn edrych ymlaen yn fawr at hynny. 

 

​​