Gig: Gwyl y Wal Goch – Wrecsam – 11-13/11/22
Mae Cymru gyfan yn prysur golli eu pennau gyda phêl-droed, a bydd hynny’n siwr o gyrraedd pinacl dros y 10 diwrnod nesaf wrth i gêm gyntaf y Dreigiau yng Nghwpan y Byd agosáu. Os nad ydach chi eisoes ar y lori lwyddiant, wel fe fyddwch chi’n fuan!
Gyda’r twrnament yn digwydd ar amser anarferol o’r flwyddyn eleni ac mewn gwlad anghyfarwydd iawn, mae wedi teimlo’n bell i ffwrdd mewn sawl ystyr, ond wrth i Robert Page enwi ei garfan wythnos yma, yn sydyn iawn mae’r holl beth yn teimlo fel realiti.
Does dim amser mwy priodol i gyflwyno gŵyl sy’n dathlu pêl-droed yng Nghymru felly, ac fe fydd Gŵyl y Wal Goch yn digwydd yn Wrecsam penwythnos yma.
Mae cysylltiad agos rhwng pêl-droed a cherddoriaeth yng Nghymru, ac fe fydd digon o gerddoriaeth yn rhan o’r arlwy dros y penwythnos yn lleoliad The Rocking Chair.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys sgyrsiau, ffilm, celf a mwy ac mae leinyp cryf o artistiaid cerddorol hefyd sy’n cynnwys Ani Glass, Chroma, Adwaith a Gruff Rhys ymysg eraill.
Un o ddau gig Gruff Rhys penwythnos yma ydy hwn gyda llaw, ac mae cyfle i’w ddal yn perfformio ym Mhenmachno heno gyda chefnogaeth gan Ffenest.
Cân: ‘Fern Hill’ – Mali Hâf
Rydan ni’n hoff iawn o gerddoriaeth Mali Hâf yma yn Y Selar ac mae ei blwyddyn brysur yn parhau wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf wythnos diwethaf.
‘Fern Hill’ ydy enw’r trac newydd gan y ferch o Gaerdydd ac fe fydd hefyd yn ymddangos ar EP newydd Mali fydd yn cael ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn – newyddion gwych!
Mae sain fwy electroneg ar y sengl yma o’i chymharu â ‘Pedair Deilen’ a ryddhawyd ym mis Awst, ac mae’r geiriau dwy ieithog yn llifo o’r Gymraeg i Saesneg mor naturiol â llif yr afon i’r môr.
“Fe sgwennais i’r gân ma gyda fy ffrind Alisha Davies yn chware ar y gitâr” meddai Mali am y sengl newydd.
“Mae’r gitâr dal i fod ar y trac ond nawr gyda beats electroneg. Dwi’n hoff o’r gyferbyniaeth, a’r ddwy iaith hefyd yn cyferbynnu a plethu mewn i’w gilydd.”
Artist: Lo Fi Jones
Enw newydd i’r Selar, ond un rydan ni’n amau fydd yn dod yn llawer mwy amlwg yn y dyfodol agos.
Band y brodyr o Fetws-y-Coed, Liam a Siôn Rickard ydy Lo Fi Jones ac maen nhw newydd ryddhau eu sengl newydd ‘Weithiau Mae’n Anodd’.
Mae’r ddeuawd yn plethu straeon o gariad a cholled mewn tirwedd sy’n newid yn barhaus, gan fynd a’r gynulleidfa ar daith lle caiff momentau o addfwynder eu cyfosod â swrealaeth, anarchiaeth, ac awyrgylch parti.
Mae ‘Weithiau Mae’n Anodd’ yn trafod y cyfnod lle bu’r brodyr yn byw yn Llundain ac am eu trafferthion yn trio gwneud bywyd a bywoliaeth yno fel cerddorion.
Ymddengys mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl newydd gydag EP i ddilyn cyn diwedd y mis.
Enw’r EP cyntaf gan y grŵp ydy ‘Llanast Yn Y Llofft’, ac fe fydd allan ar 22 Tachwedd. Mae arwyddocâd i’r enw gan fod y mwyafrif o’r EP wedi’i recordio yn stafell wely Siôn mae’n debyg ac mae’r caneuon yn dod o brofiadau personol y ddau gan gynnwys y diffyg cyfleoedd…a bysus …yng nghefn gwlad Eryri, ac yna symud i Lundain i’w chael hi’n anodd yn y fan honno’n lle!
Cerddoriaeth werin sydd wrth wraidd Lo-fi Jones, a chyn y pandemig, roedd Liam a Siôn yn teithio’n gyson, ar fws a thrên pryd bynnag roedd hynny’n bosibl, ac yn perfformio gyda cherddorion o bedwar ban byd.
Mae’n amlwg fod y teulu’n un clos iawn gan fod y fideo ar gyfer ‘Weithiau Mae’n Anodd’ wedi’i greu gan eu chwaer fach, sef Ciara Rickard.
Dyma’r fid:
Record: Ynys – Ynys
Mae’n teimlo fel petai Ynys o gwmpas ers sbel cymaint o argraff mae Dylan Hughes wedi creu gyda’i brosiect cerddorol diweddaraf.
Er hynny, dim ond wythnos diwethaf y rhyddhawyd ei albwm cyntaf, hunan deitlog.
Mae llawer o ganeuon yr albwm yn ymdrin â symudiad Hughes yn ôl i ardal ei fagwraeth yn Aberystwyth o Gaerdydd.
“Symud ymlaen ond ceisio mynd yn ôl i rywle” ydy disgrifiad Dylan.
“Mae’n dipyn o ystrydeb yndyw e, eich dymuno i ffwrdd o’r ddinas, yn ôl at lan y môr.”
Magwyd Dylan Hughes yn Aberystwyth, tref wedi’i ddelweddu gan lethrau serth i lawr i’r bae a’r môr, lle cewch eich hatgoffa’n gyson eich bod ar gyrion ynys. Does dim byd ar y gorwel, y stop nesaf yw Iwerddon.
Byddai Dylan yn aml yn meddwl am yr ehangder hwnnw, “y môr yng ngolau’r lleuad” y tyfodd i fyny yn ei wylio. Yna symudodd i Gaerdydd, uwchganolbwynt Cymru. Yn brysur, yn adeiledig ac yn brysur.
Pan oedd yng Nghaerdydd, treuliodd Dylan ei amser yn chwarae synth yn y band pop seicedelig Race Horses. Yn ystod y blynyddoedd hynny o gigio a theithio, roedd Dylan wedi bod yn casglu cannoedd o nodiadau ar ei ffôn – alawon, syniadau oedd yn rhaid eu dogfennu. Pan ddaeth y band i ben a Dylan wedi disgyn yn ôl i “fywyd normal“, fel y mae’n ei alw, roedd yr angen i ail-ymweld â’r nodiadau yn byrlymu.
“Doedd gen i ddim bwriad iddyn nhw, ond roedden nhw yno, ac fe wnaethon nhw fy nghadw i mewn cysylltiad â chreu cerddoriaeth”, meddai Dylan.
Yn y pen draw, ymrwymodd i benwythnos mewn stiwdio recordio – Tŷ Drwg, yn Grangetown, Caerdydd gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton. Treuliwyd y penwythnos yn ailymweld ag atgofion, yn cael ei ailysbrydoli gan greadigrwydd yr oedd wedi teimlo iddo golli.
Yn anffodus, daeth y pandemig i darfu ar y recordio a datblygiad Ynys, ond o’r diwedd mae’r record hir gyntaf wedi glanio a does dim amheuaeth bydd y prosiect yn mynd o nerth i nerth yn 2023.
Ar ôl lansiad yng Nghaerdydd wythnos diwethaf, bydd ail noson lansio yn y Cŵps, Aberystwyth ar 17 Tachwedd.
Un Peth Arall: Sengl a Fideo Cwpan y Byd Los Blancos
Fel rydan ni eisoes wedi sôn, mae Cymru’n prysur fynd yn ffwtbol mad ac mae hynny i’w weld yn glir yn y senglau newydd sydd wedi gollwng dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n teimlo fel petai o leiaf un sengl Cwpan y Byd newydd yn ymddangos bob wythnos ar hyn o bryd…a theg dweud eu bod nhw’n amrywio tipyn mewn safon!
Un o’r diweddaraf, ac un o’r goreuon yn sicr, ydy ymgais Los Blancos, ‘Bricsen Arall’.
Mae pethau’n poethi wrth i gêm gyntaf Cymru’n erbyn UDA at 21 Tachwedd agosáu, ac fe fydd y gêm honno’n cael ei dangos ar S4C. Disgwyliwch glywed ‘Bricsen Arall’ yn ystod y darllediad hwnnw gan fod S4C wedi cyhoeddi mai hon ydy eu cân swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol, ac mae fideo ar gyfer y trac hefyd ar sianel YouTube S4C.
“Fi ’di bod yn aros ers oes am yr eiliad hyn.
“64 mlynedd, pum mis a dau ddydd – ond pwy sy’n cyfrif?”
Mae aelodau Los Blancos yn ffans brwd o dîm pêl-droed Cymru, ac mae hynny’n dangos ar y trac ac yn y fideo.